Bwrlwm #AmaethamByth ar stondin UAC yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn edrych ymlaen at wythnos brysur yn hyrwyddo #AmaethamByth yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ger Y Fenni eleni (Gorffennaf 30-Awst 6).

“Bydd cyfle i bobl sy’n ymweld â stondin UAC ddysgu mwy pam bod #AmaethamByth o bwys i’n economi wledig a’r ffordd wledig Gymreig o fyw wrth gwrs.  Bydd croeso cynnes yn disgwyl pawb sy’n mynychu’r Eisteddfod Genedlaethol ac rwy’n gobeithio gweld nifer o’n haelodau ar ein stondin”, dywedodd Swyddog Gweithredol Sirol UAC Gwent Glyn Davies.

Yn dilyn llwyddiant y Sioe Frenhinol, mae UAC yn annog ymwelwyr drwy gydol wythnos yr Eisteddfod i nodi eu pryderon, syniadau a sylwadau ar ddyfodol amaethyddiaeth yn dilyn canlyniad refferendwm yr UE a’u postio mewn blwch postio amaethyddol.

Dydd Llun (Awst 1), bydd UAC yn croesawu cerddwyr UAC sydd, ar ran yr undeb, wedi cerdded 177 milltir o Lwybr Clawdd Offa mewn ymgais i godi arian ar gyfer Sefydliad y Galon Prydeinig Cymru.

Hefyd, bydd UAC yn ymuno gyda dathliadau ‘Calan Awst Calan Oen’ Hybu Cig Cymru (HCC).

Bydd adfywio’r hen draddodiad Celtaidd yn nodi dechrau ymgyrch farchnata newydd ar gyfer Cig Oen Cymru ym marchnad y DU.  Bydd ymgyrch haf a hydref 2016 ar gyfer PGI Cig Oen Cymru, sy’n cael ei threfnu gan HCC yn digwydd ar draws nifer o gyfryngau gwahanol.

Fel rhan o’r ymgyrch bydd cogyddion ac ysgrifenwyr bwyd yn llysgenhadon.  Bydd llyfrynnau newydd ar gael yn cynnwys rysetiau cig oen hawdd a hafaidd a bydd cystadlaethau i ddefnyddwyr. Yn ogystal â hynny, bydd Awst 1 yn cael ei adnabod fel ‘Calan Awst Calan Oen’, i gyd-fynd â dechrau’r cyfnod pan fydd cig oen y tymor newydd ar gael yn helaeth.

Y rheswm dros ddathlu Cig Oen Cymru ar ddechrau mis Awst yw defnyddio hen draddodiad o wledda ar draws Ewrop i nodi diwrnod cyntaf y cynhaeaf - fe’i adnabyddir fel Calan Awst, Lammas neu Lughnasadh.

Bydd y diwrnod yn dechrau gyda sawl gweithgaredd marchnata, a fydd yn cynnwys nifer o arddangosfeydd a sesiynau blasu fydd yn cael eu cynnal mewn archfarchnadoedd yn ystod Awst, ac yn ategu ymdrechion marchnata HCC yn y DU ac yn y marchnadoedd allforio gydol y flwyddyn.

“Yn ystod y prynhawn, bydd ymwelwyr stondin yr undeb yn medru blasu prydiau o gig oen wedi cael eu paratoi gan HCC, ac edrychwn ymlaen at weld y llyfrynnau ryseitiau cig oen ac eidion Cymreig”, ychwanegodd Glyn Davies.

Bydd UAC yn croesawu Gr?p Twristiaeth Y Fenni ar y dydd Mercher (Awst 3) ac ar y dydd Iau (Awst 4) bydd yr undeb yn croesawu Comisiynydd Heddlu a Throseddu a chydlynydd Gwarchod Fferm Gwent, Jeff Cuthbert.

‘Yr iaith Gymraeg mewn Amaethyddiaeth” fydd thema dydd Gwener (Awst 5) gan fydd Comisiynydd y Gymraeg Meri Huws yn siarad â Brian Jones, perchennog Bwydydd Castell Howell am bwysigrwydd ac effaith yr iaith ar y cwmni a’i chwsmeriaid.

Yn siarad cyn yr Eisteddfod Genedlaethol, dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr UAC Alan Davies: “Pan fyddwn yn sôn am ein heconomi wledig ac fel rhan o hynny, bywyd gwledig wrth gwrs,  ni ellir anwybyddu rhan bwysig yr iaith Gymraeg.

Os ydych chi am arwydd clir o bwysigrwydd diwylliannol ffermio, ystyriwch hyn: yng Ngheredigion, mae llai na 50 y cant o'r boblogaeth bellach yn siarad Cymraeg. Ond o fewn y gymuned amaethyddol mae'r ganran yn agos at 100 y cant.

"Gyda hyn mewn golwg, dylai pob myfyriwr addysg bellach Cymraeg eu hiaith o ardaloedd gwledig Cymru, ac mewn gwirionedd bob person ifanc, gael y cyfle i ddychwelyd i swyddi a chartrefi yn eu cymunedau eu hunain er mwyn helpu i warchod yr iaith ond hefyd i roi cyfle iddynt gyfrannu at ein heconomi wledig.

"Mae'n rhaid gwneud pob ymdrech i annog pobl ifanc i siarad Cymraeg ac i roi digon o gyfle iddynt ddefnyddio’r iaith yn y gweithle."

Mae UAC hefyd yn dweud y dylid annog aelodau h?n o weithlu unrhyw sefydliad i un ai ddysgu’r iaith neu wella ei sgiliau Cymraeg.

“Rydym bob amser yn awyddus i bwysleisio pwysigrwydd sefydliadau, megis ni sy’n gweithredu yn y Gymraeg ac sy’n cynnig gwasanaeth Cymraeg ac yn sicrhau bod Cymry Cymraeg ifanc yn cael eu cyflogi yn yr ardal leol.

“Mae’n rhaid i ni gydnabod bod y patrymau ieithyddol yn newid, ond mae’n rhaid i economi gadarn Gymreig gael ei chefnogi gan ein hiaith, er mwyn sicrhau ein hunaniaeth Gymreig,” dywedodd Alan Davies.

“Felly, nid ffermio yn unig sy’n cael sylw ar ein stondin, mae angen cydnabod pwysigrwydd amaethyddiaeth yn ehangach, boed hynny gyda’r gadwyn gyflenwi, sut mae arian yn cylchredeg o fewn yr economi leol, lle mae pobl yn goroesi, lle mae gwneud elw, cymunedau’n cael eu cadw a’n diwylliant yn parhau i fynnu,” ychwanegodd.