Cyn Lywydd UAC yn cael ei anrhydeddu gyda gwobr fewnol am wasanaethau i amaethyddiaeth

FUW Emyr JonesMae Undeb Amaethwyr Cymru wedi anrhydeddu cyn Llywydd UAC Emyr Jones gyda gwobr fewnol yr Undeb am wasanaethau i amaethyddiaeth er mwyn ddiolch iddo am ei gyfraniad i’r diwydiant.

Ymddiswyddodd Mr Jones fel Llywydd UAC yn dilyn 15 mlynedd o wasanaeth ffyddlon ar lefel cenedlaethol i’r sefydliad ym mis Mehefin 2015.

Bu’n Gadeirydd cangen Sir Feirionnydd o 1998 i 2000 ac yna cael ei ethol i gynrychioli Gogledd Cymru ar bwyllgor cyllid a threfn ganolog yr Undeb.

Cafodd ei ethol yn Is Lywydd cenedlaethol yn 2002, yn Ddirprwy Lywydd yn 2003 ac yn Llywydd yn 2011.

Wrth gyflwyno’r wobr yn ystod derbyniad Llywydd UAC ar nos Fercher Sioe Frenhinol Cymru (Gorffennaf 20), dywedodd Glyn Roberts, Llywydd presennol yr Undeb: “Diolchaf o waelod calon i Emyr am bopeth mae wedi ei wneud ar gyfer UAC, y diwydiant amaethyddol a economi Cymru.  Rydym yn ddyledus i’n cyn Lywydd am ei arweinyddiaeth ac am bopeth mae wedi ei gyfrannu dros y blynyddoedd.”

Mae Mr Jones yn briod gyda thri o blant a pedwar o wyrion.  Yn Gymro Cymraeg, cafodd ei eni a’i fagi ar y fferm deuluol Rhiwaedog, Rhosygwaliau, ger y Bala.

Mae’r fferm yn ymestyn i 360 erw, gyda 400 erw o dir ychwanegol ar rent.  Mae’n magu buches o wartheg sugno du Cymreig pur a 1,700 o ddefaid magu.

Mae Emyr Jones yn aelod blaenllaw o sawl sefydliad, yn flaenor yn ei gapel lleol ac yn gyfarwyddwr Sioe Sir Feirionnydd.  Mae hefyd yn Lywydd Sioe Sir Feirionnydd eleni.

Cafodd ei gyfraniad i amaethyddiaeth ei gydnabod pan gafodd ei wneud yn aelod o’r Cymdeithasau Amaethyddol Brenhinol, a derbyniodd yr anrhydedd o Gymrawd y Cymdeithasau Amaethyddol Brenhinol yn 2001.

Mae fferm Rhiwaedog wedi ennill nifer o wobrau dros y blynyddoedd gan gynnwys Gwobr Cyfleusterau Adeiladau Fferm y Sioe Frenhinol a Gwobr Ffermio a Thirlun Cymdeithas Parc Cenedlaethol Eryri.

Bu’r uchafbwynt mwyaf yn 2008 pan enillodd y fferm gystadleuaeth Tir Glas a Rheolaeth Cenedlaethol y Cymdeithasau Tir Glas Prydeinig drwy Gymru, ac yna mynd ymlaen i ennill y gystadleuaeth drwy Brydain Fawr.

Mae’n angerddol dros yr egwyddorion y seiliwyd yr Undeb arnynt ac wedi siarad ar ran yr Undeb ar y radio a’r teledu yn gyson yn ystod ei gyfnod o wasanaeth i’r Undeb.

Yn siarad am y wobr, dywedodd Emyr Jones: “Mae’n anrhydedd i mi dderbyn y wobr hon heno.

“Mi wnes i fwynhau fy nghyfnod o wasanaeth, a bu’n anrhydedd cael bod yn Llywydd yr Undeb am 4 mlynedd.

"Rwyf wedi gwneud llawer o ffrindiau dros y blynyddoedd, a fydd, heb amheuaeth yn ffrindiau am oes."

Mae ffermio a’r blynyddoedd sydd o’n blaenau’n mynd i fod yn dipyn o her. Rydym angen yr Undeb hon yn fwy nag erioed nawr ac rydym angen Llywodraeth y Cynulliad sydd 100 y cant y tu ôl i'n diwydiant.

"Mae ein ffermwyr ifanc mor effeithlon ac yn llawn syniadau busnes - ond mae angen cefnogaeth arnynt. Flynyddoedd lawer yn ôl roedd yn haws i wneud elw nag ydyw nawr; ni allai maint yr elw fod yn dynnach – felly mae’n rhaid i’r Llywodraeth hon gefnogi'r diwydiant.

“Un ffordd o wneud hyn yw ymdrin a’r pwnc o TB mewn gwartheg a sicrhau bod dim byd yn rhoi cytundebau masnach y dyfodol yn y fantol a gyda hynny hefyd, sicrhau bod ein ffermydd teuluol Cymreig a’r economi wledig yn goroesi.”