UAC yn cefnogi tîm Cymru yn Nhreialon C?n Defaid

[caption id="attachment_6738" align="alignleft" width="300"]Llywydd UAC Glyn Roberts (chwith) yn llongyfarch Medwyn Evans ar ennill Treialon C?n Defaid Cenedlaethol Cymru ar Fferm Tyfos. Llywydd UAC Glyn Roberts (chwith) yn llongyfarch Medwyn Evans ar ennill Treialon C?n Defaid Cenedlaethol Cymru ar Fferm Tyfos.[/caption]

Beth sy’n gwneud ci defaid llwyddiannus mewn Treialon C?n Defaid?  Y sylw i fanylder, bod yn graff, hyblyg, peidio â chynhyrfu?  Arddangoswyd yr holl sgiliau yma yn Nhreialon C?n Defaid Cenedlaethol Cymru a gynhaliwyd ar ddiwedd mis Gorffennaf a gwelwyd gr?p arbennig o bobl a’i c?n yn ennill lle yn y tîm cenedlaethol.

Yn ogystal â’r sgiliau uchod, mae angen meistrolaeth dda, perthynas dda rhwng y ci a’r trafodwr, a dealltwriaeth o ymddygiad y defaid a’r c?n wrth gwrs.

Cynhaliwyd Treialon C?n Defaid Cenedlaethol Cymru yn Nhyfos, Corwen, sef cartref y teulu Williams ers dros 100 mlynedd.

Rhedwyd dros 150 o g?n dros y cwrs yn ystod tri diwrnod o dreialon, gyda’r nod o sicrhau lle yn y tîm cenedlaethol i gynrychioli eu gwlad yn Nhreialon Rhyngwladol blynyddol y Gymdeithas.

Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn noddwyr balch o’r siacedi swyddogol y bydd y tîm yn eu gwisgo yn ystod y Treialon C?n Defaid Rhyngwladol, sydd i’w cynnal ar Fferm Sandilands, Tywyn, Gwynedd rhwng Medi 9 a 11.

Cafodd y siacedi eu cyflwyno i’r tîm Cymreig newydd ar ddiwedd y Treialon Cenedlaethol ar ddydd Sadwrn Gorffennaf 30 gan Lywydd UAC Glyn Roberts.

Enillodd Medwyn Evans gyda Mac; Kelvin Broad gyda Kinloch Levi; Medwyn Evans gyda Meg; Alan Jones gyda Spot; Sophie Holt gyda Hybeck Blake; Richard Millichap gyda Sweep; Kevin Evans gyda Kemi Ross; Ll?r Evans gyda Zac; Alwyn Williams gyda Max; Gethin Jones gyda Maddie;  Glyn Jones gyda Roy; Aled Owen gyda Llangwm Cap; Ross Games gyda Roy; Richard Millichap gyda Don; Kevin Evans gyda Preseli Ci, le yn nhîm Cymru gyda Angie Driscoll a Kinloch Pippi wrth gefn. FUW Sheepdog trials 3

Mae gan bob tîm cenedlaethol le ar gyfer 15 cystadleuydd ac un wrth gefn, felly roedd y gystadleuaeth yn frwd.

“Bydd 15 aelod mewn tîm yn cynrychioli pob un o’r pedwar gwlad ac yn cystadlu yn y Treialon Rhyngwladol.  Bydd y 15 cystadleuydd gorau o’r holl wledydd yn ail-redeg ar y diwrnod diwethaf am y Brif Bencampwriaeth i ddewis y Pencampwr Rhyngwladol,” dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts.

Bu Eryl Roberts, Swyddog Datblygu Cyswllt Ffermio ym Meirionnydd sydd wedi bod yn gysylltiedig â threialon c?n defaid ers dros 30 mlynedd ac yn un o’r ddau feirniad yn y Treialon Cenedlaethol yn sôn wrthym yngl?n â beth sy’n gwahaniaethu tîm Cymru o’r cystadleuwyr arall.

Dywedodd: “Mae gan dîm Cymru bopeth sydd ei angen i lwyddo.  Mae gan drafodwyr a ch?n tîm Cymru y gallu, profiad a llawer mwy.

“Wrth gwrs bydd yna nifer o sialensiau i’w goresgyn er mwyn sicrhau mai Cymru fydd yn ennill yn y Rhyngwladol.“

Mae’r cwrs Treialon C?n Defaid Rhyngwladol yn Nhywyn yn un heriol tu hwnt esbonia Eryl.

“Gyda chymaint o dir i’w drin, bydd rhaid bod gan y c?n y gallu i fynd yn syth at y defaid yn hytrach na dibynnu ar ffiniau’r caeau.

“Bydd y pellter yn her, ac mae’r tywydd, wrth gwrs, yn chwarae rhan yn safon y rhedeg.  Gall tywydd gwael gael effaith enfawr ar bellter maith.  Mae gan ddefaid Mynydd Cymreig gymeriad pendant.

Mae rhwystrau a chymhlethdodau yn perthyn i dreialon c?n defaid.  Heblaw am y tywydd, mae yna nifer o sialensiau sydd tu hwnt i’ch rheolaeth.  Ni ellid rhagweld ymddygiad digymell y defaid ymhlith pethau arall.  Mae elfen o lwc yn bwysig iawn hefyd wrth gwrs!”

Yn 2015, Aled Owen o Gorwen, ac aelod o UAC enillodd y Treialon C?n Defaid Cenedlaethol  ac yna aeth ymlaen i fod yn Brif Bencampwr ym Moffat, Dumfries.

Eleni, Medwyn Evans a’i gi Mac enillodd Treialon C?n Defaid Cenedlaethol Cymru, a hynny’n sicrhau lle iddo fel capten tîm Cymru yn y Treialon Rhyngwladol.

[caption id="attachment_6739" align="alignleft" width="300"]:          Medwyn Evans fydd yn arwain tîm Cymru yn y Treialon C?n Defaid Rhyngwladol – UAC sydd wedi noddi siacedi’r tîm. : Medwyn Evans fydd yn arwain tîm Cymru yn y Treialon C?n Defaid Rhyngwladol – UAC sydd wedi noddi siacedi’r tîm.[/caption]

Mae gan Eryl bob ffydd ym Medwyn fel capten, gan ddweud: “Mae Medwyn wedi bod yn gapten tîm Cymru lawer tro o’r blaen ac mae ganddo gyfoeth o brofiad wrth drin defaid Mynydd Cymreig ar Ystâd y Nannau, ac felly mae’n hen gyfarwydd â’r sialensiau sydd i ddod.

“Mae ganddo dîm o drafodwr profiadol a chraff a fydd yn ceisio eu gorau yn y cystadlaethau unigol yn ogystal â fel rhan o dîm Cymru.

Dechreuodd Medwyn Evans gystadlu yn y treialon lleol yn 17 mlwydd oed, ond ni aeth ati i gystadlu o ddifri tan 1995.  Wrth edrych ymlaen at y treialon rhyngwladol dywedodd: “ Yr her fwyaf i fi fydd cael y c?n tu ôl i’r defaid cyn iddynt fynd allan yn rhy lydan wrth gymhwyso.  Dylai gweithio gyda defaid Cymreig ysgafnach fod o fantais, felly croeswch eich bysedd i ni erbyn mis Medi.”

Felly sut mae capten tîm Cymru yn mynd i baratoi ei hun ar gyfer yr her nesaf?

“Os bydd amser yn caniatáu, rwyf am yrru’r c?n allan ar ddarnau eang o dir gyda defaid arall ynghanol y darn, ond nid wyf wedi gorffen y cynhaeaf na’r cneifio eto,” ychwanegodd.

Wrth roi darn o gyngor i’r genhedlaeth nesaf o bencampwyr treialon c?n defaid, dywedodd Medwyn: “I fod yn gallu trafod ci yn dda, mae’n rhaid medru ei hyfforddi hefyd a medru rhagweld symudiad nesaf y ddafad.  Mae rhaid i chi wylio’n ofalus sut mae’r trafodwr gorau yn trin eu c?n ac amseru eu gorchmynion.”

Bu Llywydd UAC Glyn Roberts yn y Treialon C?n Defaid Cenedlaethol a dywedodd: “Cawsom dri diwrnod tu hwnt o lwyddiannus yn Nhyfos.  Roedd y gystadleuaeth yn ddwys ac mae’n rhaid i fi longyfarch pawb sydd wedi ennill lle yn nhîm Cymru.FUW Sheepdog trials 4

“Arwyddair tîm pêl-droed Cymru oedd “Gorau Chwarae Cyd Chwarae” a petai ni’n mabwysiadu’r un meddylfryd, yn enwedig wrth edrych ar safon ein tîm a pha mor dda y maent yn gweithio gyda'u c?n, nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y byddant yn gwneud yn dda ym mis Medi , ac rwy'n dymuno'r gorau iddynt. "