UAC Sir Gaernarfon yn trafod #AmaethAmByth gydag AC Aberconwy

[caption id="attachment_7149" align="alignleft" width="300"]O'r chwith i dde, Swyddog Gweithredol UAC Sir Gaernarfon Gwynedd Watkin, AC Aberconwy Janet Finch Saunders a Llywydd UAC Glyn Roberts yn trafod #AmaethAmByth. O'r chwith i dde, Swyddog Gweithredol UAC Sir Gaernarfon Gwynedd Watkin, AC Aberconwy Janet Finch Saunders a Llywydd UAC Glyn Roberts yn trafod #AmaethAmByth.[/caption]

Mae cangen Sir Gaernarfon o Undeb Amaethwyr Cymru wedi cyfarfod gydag AC Aberconwy Janet Finch Saunders i drafod #AmaethAmByth, gan gynnwys cyllid ar gyfer amaethyddiaeth, bTB a band eang yn y dyfodol.

Dywedodd Swyddog Gweithredol UAC Sir Gaernarfon Gwynedd Watkin: “Hoffwn ddiolch i Janet Finch Saunders am gwrdd â ni i drafod #AmaethAmByth.

“Ar frig yr agenda wrth gwrs, oedd cyllid ar gyfer amaethyddiaeth yn dilyn Brexit, TB a’r trafferthion diri yn ymwneud a materion band eang a darpariaeth signal ffonau symudol yn yr ardal.  Pwysleisiwyd y pwysigrwydd o gael mynediad at fand eang i ffermwyr dros y sir gan fod dim modd i’r rhai sydd heb gysylltiad ddatblygu eu busnesau.

"Ni all y rhai hynny mewn ardaloedd gwledig sydd heb fynediad at fand eang gefnogi plant gyda'u gwaith cartref ac nid oes modd iddynt gysylltu yn rhwydd â rhaglenni’r Llywodraeth er mwyn cael cyngor a chefnogaeth fel sy’n ofynnol iddynt ei wneud. Yn syml, maent yn parhau i gael eu hanwybyddu ac mae’r bwlch yn parhau i ledu."

 

UAC yn cynnal ymweliad fferm lwyddiannus gydag AC Ynys Môn

[caption id="attachment_7119" align="alignleft" width="300"]Aelodau UAC yn trafod #AmaethAmByth gydag AC Ynys Môn Rhun ap Iorwerth. Aelodau UAC yn trafod #AmaethAmByth gydag AC Ynys Môn Rhun ap Iorwerth.[/caption]

Cynhaliodd cangen Ynys Môn o Undeb Amaethwyr Cymru ymweliad fferm lwyddiannus gyda Rhun ap Iorwerth AC yn ddiweddar.

Cynhaliwyd yr ymweliad yn Rhos Helyg, Gaerwen sy’n gartref i Iwan a Rebecca Jones, cwpwl ifanc sy’n denantiaid ar fferm y Cyngor Sir.  Mae’r cwpwl hefyd yn rhedeg canolfan gasglu defaid a gwartheg sydd wedi ei leoli’n ganolig ar yr ynys ac yn agos i’r A55.

Dywedodd Swyddog Gweithredol UAC Ynys Môn Heidi Williams: “Hoffwn ddiolch i Iwan a Rebecca am gynnal yr ymweliad.  Roedd yn gyfle i ni godi materion #AmaethAmByth gyda Rhun ap Iorwerth a cafwyd trafodaeth ar yr economi leol bresennol a phwysigrwydd y fferm deuluol yn ogystal â phryderon y diwydiant yn sgil Brexit.”

Wrth drafod pwysigrwydd ffermydd y Cyngor Sir a’i pwysigrwydd wrth roi sylfaen cychwynnol i bobl ifanc, ychwanegodd Mrs Williams: “Mae gwerthu daliadau’r cyngor lleol yn peri pryder mawr i ni yma yn Ynys Môn.  Mae ffermydd y cyngor yn rhoi cyfle i’n pobl ifanc ddod mewn i’r diwydiant a tra ein bod yn gwerthfawrogi anawsterau ariannol y cynghorau, nid yw gwerthu’r daliadau yn cynnig cymorth o gwbl i’r rhai hynny sydd am gychwyn yn y diwydiant.

“Os ydyn am sicrhau bod Cymru’n cael ei ddatblygu i’w llawn botensial fel pwerdy economaidd gwledig, mae’n rhaid i ni sicrhau bod hi’n ddeniadol i deuluoedd aros yma i weithio.  Gall amaethyddiaeth chwarae rhan enfawr yn hyn, o ystyried y nifer o swyddi sydd ar gael.  Ond, er mwyn sicrhau bod pobl ifanc yn cael y cyfle i gychwyn yn y lle cyntaf yn y diwydiant, mae’n rhaid mynd i’r afael a nifer o faterion.

“Os na caiff y broblem o ddiboblogi gwledig sylw ar frys, mi all gael effaith lem ar ein cymunedau gwledig ac yn ei dro ar ein heconomi wledig”.

UAC Sir Drefaldwyn yn cynnal trafodaethau cadarnhaol gydag AC Canolbarth a Gorllewin Cymru

[caption id="attachment_7116" align="alignleft" width="300"]Aelodau UAC yn mwynhau trafodaethau #AmaethAmByth gyda Simon Thomas AC Aelodau UAC yn mwynhau trafodaethau #AmaethAmByth gyda Simon Thomas AC[/caption]

Mae cangen Sir Drefaldwyn o Undeb Amaethwyr Cymru wedi cynnal cyfarfod cadarnhaol gydag AC Plaid Cymru dros Canolbarth a Gorllewin Cymru Simon Thomas wrth drafod materion #AmaethAmByth.

Cynhaliwyd y cyfarfod ar ddydd Llun Hydref 17 ym Marchnad Da Byw'r Trallwng.  Roedd nifer helaeth o aelodau’r Undeb yn bresennol a chafwyd sesiwn cwestiwn ac ateb da iawn gyda Mr Thomas.

Dywedodd Swyddog Gweithredol UAC Sir Drefaldwyn Emyr Wyn Davies: “Roedd hi’n bleser mynd a Mr Thomas o amgylch y Farchnad, sy’n cael ei adnabod fel prif farchnad ?yn Gorllewin Ewrop.  Hoffwn ddiolch iddo am gyfarfod gyda’n haelodau a chafwyd trafodaeth gadarnhaol ar #AmaethAmByth, yn cynnwys pwysigrwydd daliadau’r Cyngor Sir, TB mewn gwartheg, biwrocratiaeth y llywodraeth a goblygiadau posib Brexit i’n cymuned leol.”

 

UAC yn cynnal gweithdy ar faterion yn ymwneud ac ynni adnewyddadwy, cynllunio a thir

Mae cangen Ynys Môn o Undeb Amaethwyr Cymru yn ymuno gydag Ymgynghorwyr Eiddo Davies Meade i gynnal gweithdy ar faterion yn ymwneud ac ynni adnewyddadwy, cynllunio a thir gan gynnwys llwybr arfaethedig y Grid Cenedlaethol drwy Ynys Môn.

Cynhelir y gweithdy yn swyddfa UAC Ynys Môn yn 2-3 Heol Glanhwfa, Llangefni ar ddydd Mercher Tachwedd 2.

Dywedodd Swyddog Gweithredol UAC Ynys Môn Heidi Williams: “Rydym yn falch o gael croesawu ein haelodau i’r gweithdy yma ac yn gobeithio gweld nifer ohonoch yn bresennol. A wnewch chi archebu eich slot ymgynghorol hanner awr rhad ac am ddim ymlaen llaw drwy ffonio swyddfa’r sir ar 01248 750250.”

Ymateb cymysg UAC i ymgynghoriad TB yng Nghymru

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru o’i bwriad i ystyried dull o brofi a difa moch daear fel cam bach i’r cyfeiriad cywir, ond bydd nifer o ffermwyr yn poeni am oblygiadau rhannu Cymru’n rhanbarthau TB.

Cafodd yr awgrymiadau eu cyhoeddi fel rhan o ymgynghoriad Rhaglen Dileu TB mewn Gwartheg gan Ysgrifennydd y Cabinet Lesley Griffiths dydd Mawrth Hydref 18, ac yn cynnwys rhannu Cymru’n bum rhanbarth - un ardal TB Isel, dwy ardal TB Canolradd a dwy ardal TB Uchel, gydag agweddau gwahanol at ddileu TB ym mhob ardal.

Yn siarad yn y Senedd yng Nghaerdydd toc iawn ar ôl cyhoeddiad Ysgrifennydd y Cabinet, dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts: “Bydd y cynnig i rannu Cymru mewn i ranbarthau yn seiliedig ar lefelau TB yn cael ei groesawu gan rai, ond nid gan bawb a byddwn yn ymateb i hyn yn dilyn ymgynghoriad gyda’n haelodau.

“Byddai targedi moch daear heintus yn gam i’w groesawu, ond mae’n siomedig bod cynifer o flynyddoedd wedi mynd heibio bellach cyn bod synnwyr cyffredin yn ennill y dydd wedi i’r Llywodraeth flaenorol roi’r gorau i’r cynllun cynhwysfawr gwreiddiol i ymdrin â’r clefyd mewn bywyd gwyllt.”

Mae’r ddogfen ymgynghorol sef  ‘Rhaglen o’r newydd ar gyfer Dileu TB’ yn cydnabod rhan bywyd gwyllt wrth ymledu TB, gan ddweud bod 6.85 y cant o foch daear marw ers Medi 2014 wedi profi’n bositif ar gyfer TB.

Yn ôl ffigyrau diweddaraf DEFRA, mae’r ffigwr ar gyfer gwartheg Cymru oddeutu 0.4 y cant.

“Mae hyn yr un peth a 1 ymhob 15 mochyn daear yn profi’n bositif ar gyfer y clefyd, o’i gymharu gyda 1 ymhob 225 o wartheg, ac yn golygu bod lefel y clefyd ym moch daear oddeutu 15 gwaith yn fwy mewn gwartheg,” ychwanegodd Mr Roberts.

Ond, dywedodd Mr Roberts bod hi’n bwysig cydnabod bod y clefyd ddim yn bodoli ymhlith bywyd gwyllt ym mhob ardal o Gymru.

“Mewn rhai ardaloedd, does dim haint ymhlith bywyd gwyllt, ond mewn ardaloedd arall mae’r lefel yn uchel.  Felly, mae’n rhaid i ni dargedu pob ffynhonnell o haint yn briodol.”

Dywedodd Mr Roberts y bydd UAC yn ymateb yn llawn i’r ddogfen ymgynghorol ar ôl ymgynghori gyda’i changhennau sirol.

 

UAC Sir Feirionnydd yn dangos y manteision o fiomas a chynllun Glastir

[caption id="attachment_7049" align="alignleft" width="300"]Liz Saville Roberts AS, Simon Thomas AC, Tegwyn Jones Cadeirydd FWAG Cymru, Dewi Davies Ymgynghorydd Annibynnol Glastir, Euros Puw Cadeirydd UAC Meirionnydd, Wyn Jones Blaen Cwm a’i ferch Manon. Liz Saville Roberts AS, Simon Thomas AC, Tegwyn Jones Cadeirydd FWAG Cymru, Dewi Davies Ymgynghorydd Annibynnol Glastir, Euros Puw Cadeirydd UAC Meirionnydd, Wyn Jones Blaen Cwm a’i ferch Manon.[/caption]

Mae cangen Sir Feirionnydd o Undeb Amaethwyr Cymru ar y cyd a FWAG Cymru wedi cynnal ymweliad fferm ar ddydd Llun Hydref 3 i ddangos sut mae’r cynllun Glastir a’r defnydd o foeler biomas o fantais i fusnes y fferm.

Cafodd yr ymweliad ei chynnal gan Wyn a Laura Jones, y degfed genhedlaeth i ffermio Fferm Blaen Cwm, Cynllwyd, Llanuwchllyn, a chafodd ymwelwyr y cyfle i weld y tir, stoc, yr elfennau gwahanol o’r cynllun Glastir a’r cynllun Biomas.

Mae Blaen Cwm oddeutu 5 milltir o bentref Llanuwchllyn ger y Bala, ac yn ymestyn tua 1000 troedfedd uwchlaw’r môr, gyda’r rhan fwyaf o’r tir yn ymestyn ymhell dros 2000 troedfedd.  Mae’r fferm wedi bod yng nghynllun Glastir Sylfaenol ers 2014 ac yn y cynllun Uwch ers 2015.

[caption id="attachment_7054" align="alignleft" width="300"]Glenda Thomas o FWAG Cymru a Dewi Davies, Ymgynghorydd Annibynnol Glastir yn egluro’r gwahanol elfennau o Glastir. Glenda Thomas o FWAG Cymru a Dewi Davies, Ymgynghorydd Annibynnol Glastir yn egluro’r gwahanol elfennau o Glastir.[/caption]

Mae’r fferm deuluol yn ymestyn i 640 cyfer, y rhan fwyaf yn fynydd-dir heblaw am 50 cyfer o dir llawr gwlad a 25 cyfer sy’n cael ei gadw’n silwair bob blwyddyn.  Hefyd, mae gan y teulu 650 cyfer yn Llanymawddwy a fferm 300 cyfer ger Llawryglyn yn Llanidloes.

[caption id="attachment_7052" align="alignright" width="300"]Arwyn Jones yn dangos y defnydd o’r fainc lifio Arwyn Jones yn dangos y defnydd o’r fainc lifio[/caption]

Wrth fynd o amgylch y fferm, bu Glenda Thomas o FWAG Cymru a Dewi Davies Ymgynghorydd Annibynnol Glastir yn egluro’r gwahanol elfennau o’r cynllun Glastir a bu Greame Raine o ‘Raine or Shine’, arbenigwyr ynni adnewyddadwy yn cyflwyno’r cynllun biomas.  Hefyd bu Robin Roberts yn arddangos ei sgiliau o blygu perthi.

Siaradwr gwadd y diwrnod oedd Ysgrifennydd Cabinet cysgodol dros Ynni, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ac AC Canolbarth a Gorllewin Cymru Simon Thomas, ac mi ddywedodd: “Ffermwyr yw gwarcheidwaid cefn gwlad ac mae cynaliadwyedd amaethyddiaeth hefyd yn dibynnu ar reolaeth effeithiol a diogelu d?r, pridd a bioamrywiaeth.  Bydd Plaid Cymru yn gweithio gyda’r diwydiant ac eraill er mwyn datblygu ffyrdd arloesol y gall mesuriadau amaeth-amgylchedd, a ariennir gan y Cynllun Datblygu Gwledig megis Glastir, weithio er budd y cyhoedd ac edrych am ffyrdd o annog mwy o gydweithio rhwng ffermwyr a chyrff cadwraeth er mwyn trosglwyddo’r manteision cadarnhaol, ymarferol a realistig i reolaeth amgylcheddol yng Nghymru. “Er nad oedd Plaid Cymru yn cefnogi gadael yr UE, rydym wedi gweithredu’n gyflym er mwyn ymateb i’r refferendwm drwy ymgynghori ar bolisïau’r dyfodol ar gyfer Cymru wledig.  Mae’r ymweliad fferm hon yn rhan bwysig o’r ymgynghoriad yma er mwyn gwrando ar farn y sector amaethyddol yngl?n â’r ffordd orau ymlaen er mwyn cyflawni’r canlyniad orau ar gyfer cymunedau gwledig ar draws Cymru.”

[caption id="attachment_7056" align="alignright" width="300"]Ymunodd myfyrwyr o Ysgol y Berwyn, Y Bala gyda’i darlithydd John Thomas sy’n dilyn cwrs BTEC lefel 3 mewn amaethyddiaeth yn yr ymwelaid fferm Ymunodd myfyrwyr o Ysgol y Berwyn, Y Bala gyda’i darlithydd John Thomas sy’n dilyn cwrs BTEC lefel 3 mewn amaethyddiaeth yn yr ymwelaid fferm[/caption]

Roedd yr AS lleol, Liz Saville Roberts hefyd yn bresennol ar yr ymweliad ac mi ychwanegodd: “Rwy’n hynod o falch cael mynychu’r ymweliad fferm yma, sydd mewn lleoliad hudolus.  Mae’n esiampl berffaith o ffermwr ifanc yn cymryd pob cyfle, ac yn aros yn bositif ynghanol y sialensiau anochel yn sgil Brexit.  Mae’n braf gweld ei awydd i fentro, a’i fod yn edrych am syniadau newydd ar gyfer yr hir dymor.  Dymunaf bob llwyddiant i’w fenter yn y dyfodol.”

Dywedodd Huw Jones, Swyddog Gweithredol Sirol yr Undeb ym Meirionnydd: “Mae Wyn yn ffermwr sy’n gweithio’n galed, yn frwdfrydig iawn ac yn chwilio am y syniad neu’r cyfle nesaf i gynyddu incwm y fferm.  Roedd hi’n ddiddorol gweld sut mae’r fferm wedi manteisio ar gynlluniau amaeth-amgylchedd dros y blynyddoedd diwethaf, a gweld sut mae ffermio a chadwraeth yn mynd llaw yn llaw yma.

[caption id="attachment_7051" align="alignleft" width="300"]Liz Saville Roberts AS Meirionnydd Dwyfor yn siarad ar fferm Blaen Cwm. Liz Saville Roberts AS Meirionnydd Dwyfor yn siarad ar fferm Blaen Cwm.[/caption]

“Dangosodd Wyn Jones y peiriant asglodi yn gweithio a bu ei dad Arwyn Jones yn dangos y defnydd o’r fainc lifio.  Mae’r busnes felin goed yn wych, yn enwedig gan fod modd iddynt sychu’r coed hefyd.  Sefydlwyd y cynllun biomas yn 2014 ac mae’r ynni sy’n cael ei gynhyrchu yn darparu gwers ar gyfer dau gartref a sied amaethyddol.

“Hoffwn ddiolch i’r teulu am gynnal yr ymweliad hynod o ddiddorol yma a gobeithio bod y rhai oedd yn bresennol wedi mwynhau cymaint â mi.  Hoffwn ddiolch hefyd i ddisgyblion Ysgol y Berwyn, y Bala sy’n astudio cwrs BTEC lefel 3 mewn amaethyddiaeth a fu’n bresennol gyda’i darlithydd John Thomas.”

 

 

[caption id="attachment_7050" align="aligncenter" width="300"]Simon Thomas AC, Ysgrifennydd Cabinet cysgodol Plaid Cymru dros Ynni, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig yn y Cynulliad Cenedlaethol yn siarad ar fferm Blaen Cwm. Simon Thomas AC, Ysgrifennydd Cabinet cysgodol Plaid Cymru dros Ynni, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig yn y Cynulliad Cenedlaethol yn siarad ar fferm Blaen Cwm.[/caption]