UAC Sir Feirionnydd yn dangos y manteision o fiomas a chynllun Glastir

[caption id="attachment_7049" align="alignleft" width="300"]Liz Saville Roberts AS, Simon Thomas AC, Tegwyn Jones Cadeirydd FWAG Cymru, Dewi Davies Ymgynghorydd Annibynnol Glastir, Euros Puw Cadeirydd UAC Meirionnydd, Wyn Jones Blaen Cwm a’i ferch Manon. Liz Saville Roberts AS, Simon Thomas AC, Tegwyn Jones Cadeirydd FWAG Cymru, Dewi Davies Ymgynghorydd Annibynnol Glastir, Euros Puw Cadeirydd UAC Meirionnydd, Wyn Jones Blaen Cwm a’i ferch Manon.[/caption]

Mae cangen Sir Feirionnydd o Undeb Amaethwyr Cymru ar y cyd a FWAG Cymru wedi cynnal ymweliad fferm ar ddydd Llun Hydref 3 i ddangos sut mae’r cynllun Glastir a’r defnydd o foeler biomas o fantais i fusnes y fferm.

Cafodd yr ymweliad ei chynnal gan Wyn a Laura Jones, y degfed genhedlaeth i ffermio Fferm Blaen Cwm, Cynllwyd, Llanuwchllyn, a chafodd ymwelwyr y cyfle i weld y tir, stoc, yr elfennau gwahanol o’r cynllun Glastir a’r cynllun Biomas.

Mae Blaen Cwm oddeutu 5 milltir o bentref Llanuwchllyn ger y Bala, ac yn ymestyn tua 1000 troedfedd uwchlaw’r môr, gyda’r rhan fwyaf o’r tir yn ymestyn ymhell dros 2000 troedfedd.  Mae’r fferm wedi bod yng nghynllun Glastir Sylfaenol ers 2014 ac yn y cynllun Uwch ers 2015.

[caption id="attachment_7054" align="alignleft" width="300"]Glenda Thomas o FWAG Cymru a Dewi Davies, Ymgynghorydd Annibynnol Glastir yn egluro’r gwahanol elfennau o Glastir. Glenda Thomas o FWAG Cymru a Dewi Davies, Ymgynghorydd Annibynnol Glastir yn egluro’r gwahanol elfennau o Glastir.[/caption]

Mae’r fferm deuluol yn ymestyn i 640 cyfer, y rhan fwyaf yn fynydd-dir heblaw am 50 cyfer o dir llawr gwlad a 25 cyfer sy’n cael ei gadw’n silwair bob blwyddyn.  Hefyd, mae gan y teulu 650 cyfer yn Llanymawddwy a fferm 300 cyfer ger Llawryglyn yn Llanidloes.

[caption id="attachment_7052" align="alignright" width="300"]Arwyn Jones yn dangos y defnydd o’r fainc lifio Arwyn Jones yn dangos y defnydd o’r fainc lifio[/caption]

Wrth fynd o amgylch y fferm, bu Glenda Thomas o FWAG Cymru a Dewi Davies Ymgynghorydd Annibynnol Glastir yn egluro’r gwahanol elfennau o’r cynllun Glastir a bu Greame Raine o ‘Raine or Shine’, arbenigwyr ynni adnewyddadwy yn cyflwyno’r cynllun biomas.  Hefyd bu Robin Roberts yn arddangos ei sgiliau o blygu perthi.

Siaradwr gwadd y diwrnod oedd Ysgrifennydd Cabinet cysgodol dros Ynni, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ac AC Canolbarth a Gorllewin Cymru Simon Thomas, ac mi ddywedodd: “Ffermwyr yw gwarcheidwaid cefn gwlad ac mae cynaliadwyedd amaethyddiaeth hefyd yn dibynnu ar reolaeth effeithiol a diogelu d?r, pridd a bioamrywiaeth.  Bydd Plaid Cymru yn gweithio gyda’r diwydiant ac eraill er mwyn datblygu ffyrdd arloesol y gall mesuriadau amaeth-amgylchedd, a ariennir gan y Cynllun Datblygu Gwledig megis Glastir, weithio er budd y cyhoedd ac edrych am ffyrdd o annog mwy o gydweithio rhwng ffermwyr a chyrff cadwraeth er mwyn trosglwyddo’r manteision cadarnhaol, ymarferol a realistig i reolaeth amgylcheddol yng Nghymru. “Er nad oedd Plaid Cymru yn cefnogi gadael yr UE, rydym wedi gweithredu’n gyflym er mwyn ymateb i’r refferendwm drwy ymgynghori ar bolisïau’r dyfodol ar gyfer Cymru wledig.  Mae’r ymweliad fferm hon yn rhan bwysig o’r ymgynghoriad yma er mwyn gwrando ar farn y sector amaethyddol yngl?n â’r ffordd orau ymlaen er mwyn cyflawni’r canlyniad orau ar gyfer cymunedau gwledig ar draws Cymru.”

[caption id="attachment_7056" align="alignright" width="300"]Ymunodd myfyrwyr o Ysgol y Berwyn, Y Bala gyda’i darlithydd John Thomas sy’n dilyn cwrs BTEC lefel 3 mewn amaethyddiaeth yn yr ymwelaid fferm Ymunodd myfyrwyr o Ysgol y Berwyn, Y Bala gyda’i darlithydd John Thomas sy’n dilyn cwrs BTEC lefel 3 mewn amaethyddiaeth yn yr ymwelaid fferm[/caption]

Roedd yr AS lleol, Liz Saville Roberts hefyd yn bresennol ar yr ymweliad ac mi ychwanegodd: “Rwy’n hynod o falch cael mynychu’r ymweliad fferm yma, sydd mewn lleoliad hudolus.  Mae’n esiampl berffaith o ffermwr ifanc yn cymryd pob cyfle, ac yn aros yn bositif ynghanol y sialensiau anochel yn sgil Brexit.  Mae’n braf gweld ei awydd i fentro, a’i fod yn edrych am syniadau newydd ar gyfer yr hir dymor.  Dymunaf bob llwyddiant i’w fenter yn y dyfodol.”

Dywedodd Huw Jones, Swyddog Gweithredol Sirol yr Undeb ym Meirionnydd: “Mae Wyn yn ffermwr sy’n gweithio’n galed, yn frwdfrydig iawn ac yn chwilio am y syniad neu’r cyfle nesaf i gynyddu incwm y fferm.  Roedd hi’n ddiddorol gweld sut mae’r fferm wedi manteisio ar gynlluniau amaeth-amgylchedd dros y blynyddoedd diwethaf, a gweld sut mae ffermio a chadwraeth yn mynd llaw yn llaw yma.

[caption id="attachment_7051" align="alignleft" width="300"]Liz Saville Roberts AS Meirionnydd Dwyfor yn siarad ar fferm Blaen Cwm. Liz Saville Roberts AS Meirionnydd Dwyfor yn siarad ar fferm Blaen Cwm.[/caption]

“Dangosodd Wyn Jones y peiriant asglodi yn gweithio a bu ei dad Arwyn Jones yn dangos y defnydd o’r fainc lifio.  Mae’r busnes felin goed yn wych, yn enwedig gan fod modd iddynt sychu’r coed hefyd.  Sefydlwyd y cynllun biomas yn 2014 ac mae’r ynni sy’n cael ei gynhyrchu yn darparu gwers ar gyfer dau gartref a sied amaethyddol.

“Hoffwn ddiolch i’r teulu am gynnal yr ymweliad hynod o ddiddorol yma a gobeithio bod y rhai oedd yn bresennol wedi mwynhau cymaint â mi.  Hoffwn ddiolch hefyd i ddisgyblion Ysgol y Berwyn, y Bala sy’n astudio cwrs BTEC lefel 3 mewn amaethyddiaeth a fu’n bresennol gyda’i darlithydd John Thomas.”

 

 

[caption id="attachment_7050" align="aligncenter" width="300"]Simon Thomas AC, Ysgrifennydd Cabinet cysgodol Plaid Cymru dros Ynni, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig yn y Cynulliad Cenedlaethol yn siarad ar fferm Blaen Cwm. Simon Thomas AC, Ysgrifennydd Cabinet cysgodol Plaid Cymru dros Ynni, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig yn y Cynulliad Cenedlaethol yn siarad ar fferm Blaen Cwm.[/caption]