UAC Sir Gaernarfon yn trafod #AmaethAmByth gydag AC Aberconwy

[caption id="attachment_7149" align="alignleft" width="300"]O'r chwith i dde, Swyddog Gweithredol UAC Sir Gaernarfon Gwynedd Watkin, AC Aberconwy Janet Finch Saunders a Llywydd UAC Glyn Roberts yn trafod #AmaethAmByth. O'r chwith i dde, Swyddog Gweithredol UAC Sir Gaernarfon Gwynedd Watkin, AC Aberconwy Janet Finch Saunders a Llywydd UAC Glyn Roberts yn trafod #AmaethAmByth.[/caption]

Mae cangen Sir Gaernarfon o Undeb Amaethwyr Cymru wedi cyfarfod gydag AC Aberconwy Janet Finch Saunders i drafod #AmaethAmByth, gan gynnwys cyllid ar gyfer amaethyddiaeth, bTB a band eang yn y dyfodol.

Dywedodd Swyddog Gweithredol UAC Sir Gaernarfon Gwynedd Watkin: “Hoffwn ddiolch i Janet Finch Saunders am gwrdd â ni i drafod #AmaethAmByth.

“Ar frig yr agenda wrth gwrs, oedd cyllid ar gyfer amaethyddiaeth yn dilyn Brexit, TB a’r trafferthion diri yn ymwneud a materion band eang a darpariaeth signal ffonau symudol yn yr ardal.  Pwysleisiwyd y pwysigrwydd o gael mynediad at fand eang i ffermwyr dros y sir gan fod dim modd i’r rhai sydd heb gysylltiad ddatblygu eu busnesau.

"Ni all y rhai hynny mewn ardaloedd gwledig sydd heb fynediad at fand eang gefnogi plant gyda'u gwaith cartref ac nid oes modd iddynt gysylltu yn rhwydd â rhaglenni’r Llywodraeth er mwyn cael cyngor a chefnogaeth fel sy’n ofynnol iddynt ei wneud. Yn syml, maent yn parhau i gael eu hanwybyddu ac mae’r bwlch yn parhau i ledu."