UAC yn rhybuddio busnesau gwledig a ffermwyr am lythyr sgâm ‘Welsh Commercial Register’

Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn rhybuddio aelodau a busnesau gwledig i beidio ymateb i lythyr sgâm, gan yr hyn a elwir yn ‘Welsh Commercial Register’, yn gofyn iddynt ddatgelu manylion eu busnesau.

Mae’r llythyr yn gofyn i’w dderbynnydd ddarparu manylion pellach am y busnes a hynny am gost o 993 ewro gyda TAW yn ychwanegol.  Wrth arwyddo’r ffurflen, mae’r person yn rhoi caniatâd i ‘Direct Publisher S.L.U’ gofnodi a hysbysebu’r wybodaeth am gyfnod o dair blynedd.

Dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts: “Mae’r llythyr yn edrych fel un swyddogol gan y Llywodraeth, ac felly mae’n hawdd twyllo nifer o ffermwyr a busnesau gwledig i ddarparu eu manylion.

“Mae’r goblygiadau ariannol o roi’r manylion i’r cwmni yn medru bod yn niweidiol tu hwnt.  Rwy’n annog ffermwyr a busnesau gwledig i fod yn wyliadwrus o’r llythyron sgâm yma.”

Dylai unrhyw ffermwr sydd ddim yn si?r a yw llythyr sy’n gofyn am fanylion y busnes yn ddilys neu beidio, gysylltu gyda’i swyddfa safonau masnach leol neu wasanaethau cwsmer Cyngor ar Bopeth ar 03454 040506 neu’r llinell Gymraeg ar 03454 04 05 05.

Amseriad Synhwyrol i Adael yr Undeb Ewropeaidd yn Hanfodol

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi croesawu penderfyniad y Prif Weinidog i ddileu dod a chyfraith Erthygl 50  o Gytundeb Lisbon i rym ac yn galw ar y DU a’r UE i gytuno ar amserlen synhwyrol ar gyfer gadael, ar ôl i’r etholwyr bleidleisio gadael yr UE - neu beryglu goblygiadau difrifol ar gyfer y DU a’r 27 Aelod Wladwriaeth arall.

“Cefnogodd UAC yr ymgyrch dros aros ac roedd yn aelod o "Cryfach yn Ewrop", felly, yn naturiol, rydym yn siomedig gyda’r canlyniad, dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts.

“Fodd bynnag, fel mudiad democrataidd rydym ni’n parchu canlyniad y bleidlais, ac mae’r gwaith o adeiladu dyfodol positif i ffermio a’r economi wledig yng Nghymru tu allan i’r UE yn dechrau heddiw.”

Dywedodd Mr Roberts bod yr amserlen i adael yn hanfodol i’r fath gynllunio, ac y byddai gadael dros gyfnod rhy sydyn yn achosi goblygiadau enbyd ar gyfer y DU a’r UE.

“Mae’r gwaith sydd i’w wneud nawr yn anferthol yng nghyd-destun newid trefniadau a chyfreithiau gwladol, gan gynnwys deddfau sydd wedi eu datganoli i Gymru, heb son am y gwaith o’n dad-glymu o gyllideb yr UE yr ydym wedi ymrwymo iddo, trafod cytundebau masnach a chydio mewn materion megis rheolaeth o’n ffiniau.

“Bydd y materion yma yn golygu llawer iawn o waith ar lefel yr UE, ac ni fydd ymadael dros gyfnod o ychydig o flynyddoedd o fudd i’r DU na’r UE.

“Byddai hynny yn debygol o achosi'r gwaethaf i bawb,” ychwanegodd.

Mae’r Undeb wedi galw am gyfarfodydd cynnar gyda Llywodraeth Cymru a hefyd yn ymgynghori gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod llais amaeth Cymru yn cael ei glywed yn glir yn ystod yr amseroedd heriol yma.

“Rydym hefyd wedi bod mewn cysylltiad gyda gwledydd eraill sydd ddim yn aelodau o’r UE, megis Norwy a’r Swistir er mwyn deall eu modelau amaethyddol nhw, a bydd y cyfnewidiau gwybodaeth yma yn sicrhau bod eu profiadau hwy o fudd i unrhyw gynlluniau sy’n cael eu datblygu yng Nghymru,” dywedodd Mr Roberts.

Bydd yr Undeb hefyd yn defnyddio ei rhwydwaith eang o ganghennau sirol i sicrhau bod barn a lleisiau ein haelodau trwy Gymru gyfan yn cael eu clywed yn ystod y cynllunio a negydu’r broses o adael. Bwriedir cynnal cyfarfod o Gadeiryddion yr holl siroedd yn ystod wythnos gyntaf mis Gorffennaf.

“Mae’n hanfodol bod lleisiau ein haelodau yn cael eu clywed, felly byddwn yn ymgynghori gyda nhw mor eang â phosib er mwyn sicrhau bod Cymru yn derbyn yr hyn sydd ei angen arni er mwyn sicrhau dyfodol cynaliadwy i amaethyddiaeth ac economïau gwledig cryfach. “

 

Diwedd

UAC yn diolch i’w haelodau hiraf o staff gyda gwobr arbennig

 

[caption id="attachment_6452" align="alignleft" width="300"]Staff UAC sydd wedi cael eu cydnabod am hir wasanaeth i’r Undeb.  O’r chwith i’r dde: Dai Jones, Huw Jones, Peter Davies, Llywydd UAC Glyn Roberts, Margaret Shepherd a Kate Ellis Evans. Staff UAC sydd wedi cael eu cydnabod am hir wasanaeth i’r Undeb. O’r chwith i’r dde: Dai Jones, Huw Jones, Peter Davies, Llywydd UAC Glyn Roberts, Margaret Shepherd a Kate Ellis Evans.[/caption]

Cynhaliodd Undeb Amaethwyr Cymru seremoni wobrwyo arbennig yn ddiweddar er mwyn cydnabod yn gyhoeddus a diolch i’r aelodau hynny o staff sydd wedi rhoi 25 mlynedd a mwy o wasanaeth i’r Undeb.

Wrth gyflwyno’r gwobrau, dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts: “Mae hyn yn wobr newydd sy’n cydnabod ac yn dangos ein gwerthfawrogiad i nifer o aelodau o staff sydd wedi gweithio i’r Undeb ers 25 mlynedd neu’n fwy.

“Dywedir yn aml fod cwmni ond cystal â’i gweithwyr. Mae gan UAC ddigon o staff ardderchog, ymroddedig sy'n parchu’r sefydliad ac sy'n anrhydeddu gwerthoedd yr Undeb.

“Heddiw, rwy’n falch iawn medru cydnabod a gwobrwyo pum aelod o staff sydd wedi bod gyda ni ers 25 mlynedd neu fwy. Rhwng Kate Ellis Evans, Margaret Shepherd, Dai Jones, Huw Jones a Peter Davies, mae yna fwy na 125 mlynedd o wasanaeth rhyngddynt.

Yr un sydd wedi bod gyda’r Undeb hiraf yw Kate Ellis Evans, a hynny ers 37 mlynedd ar ôl ymuno gyda’r Undeb ym mis Ionawr 1979 fel Swyddog Cyllid.

“Mae Kate yn uchel ei pharch, ac yn aelod o staff effeithiol a chymwys dros ben. Rydym yn ddiolchgar tu hwnt iddi am ei ffyddlondeb a’i gwaith gwych,” dywedodd Glyn Roberts.

Yn ogystal â’i gwaith gyda’r Undeb, mae Kate hefyd yn helpu ar y fferm deuluol yn Llanon gyda’i g?r Ben. Mae’r cwpwl yn cadw oddeutu 700 o ddefaid ac yn rhedeg siop gig yn Llanon, yn ogystal â busnes bythynnod gwyliau.

Ymunodd Margaret Shepherd gyda UAC ym mis Mawrth 1981 ac mae wedi cael ei chyflogi gan yr Undeb ers 35 mlynedd. Dechreuodd Margaret fel Clerc/Teipydd, ac yna ymunodd gyda’r Adran Gyllid.

Yna, dechreuodd Margaret gyda’r gwaith gweinyddol, ac ers nifer fawr o flynyddoedd, hi yw goruchwyliwr y swyddfa. Mae’n briod â Jimmy, postmon o Aberystwyth, ac mi fydd ei mab Bryn, yn dechrau ar ei swydd fel athro yn ysgol gynradd Penllwyn, Capel Bangor ym mis Medi.

“Margaret sy’n gyfrifol am redeg y brif swyddfa yn Aberystwyth ac mae’n gweithio’n agos gydag aelodau o’r Pwyllgor Cyllid a Threfn Ganolog. Mae Margaret yn aelod o staff gwerthfawr, ardderchog ac yn tu hwnt o gymwys, ac nid wyf yn si?r beth y byddem yn ei wneud hebddi,” dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts.

Mae Dai Jones wedi bod yn gweithio gyda UAC ers 30 mlynedd fel Gweithredydd Cyfrif ar gyfer gogledd Ceredigion, sef yr ardaloedd o’r gogledd o Lanrhystud i Bonterwyd.

Ymunodd â UAC ym mis Rhagfyr 1986, a chyfarfod ei wraig, Elen, yng Nghynhadledd Busnes Flynyddol yr Undeb. Ar y pryd, roedd Elen yn Swyddog Ardal UAC yng Nghaernarfon.

Mae’r cwpwl yn rhedeg tyddyn 25 erw ac yn cadw oddeutu 60 o ddefaid. Mae’r ferch, Manon, yn gyfreithwraig dan hyfforddiant gyda Chyfreithwyr Arnold Davies a Vincent Evans a’r mab yn Llanbedr Pont Steffan ar ôl graddio o Brifysgol Caerdydd.

Mae’r mab, Dewi, newydd gwblhau ei ail flwyddyn yn astudio amaethyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mi fydd yn treulio blwyddyn o brofiad gwaith gyda Menter a Busnes cyn dychwelyd i’r Brifysgol i gwblhau ei astudiaethau cyn graddio ac ennill gradd yn amaethyddiaeth.

Dechreuodd Huw Jones fel ysgrifennydd sirol ym 1988 yn y swyddfa yn Nolgellau. Mae’n briod â Eirian, ac mae ganddynt ddwy ferch sef Glesni a Mererid.

Graddiodd Huw o Brifysgol Aberystwyth gyda gradd mewn Hanes. Yn wreiddiol, ymunodd a Banc Barclays a bu gyda’r banc am bedair blynedd a hanner yn gweithio yng nghangen Llanllieni cyn ymuno gyda UAC.

“Mae Huw wedi gweithio’n ddiflino a diolchwn iddo heddiw am ei holl waith caled. Mae’n uchel iawn ei barch ac yn aelod gwych o staff ac yn rhoi gwasanaeth rhagorol i aelodau.  Nid oes amheuaeth ei fod bob amser yn sicrhau bod yr Undeb yn weithgar ac yn amlwg yn y gymuned amaethyddol ym Meirionnydd.

“O drefnu digwyddiadau megis y brecwastau o fewn ei sir, mae Huw hefyd wedi cymryd rhan mewn nifer o ddigwyddiadau codi arian arall megis, Her y Tri Chopa a cherdded Llwybr Arfordir Cymru,” dywedodd Glyn Roberts.

Dechreuodd Peter Davies fel Swyddog Gweithredol Sirol gyda’r Undeb yng Nghaerfyrddin ym 1991 ac yna cafodd ei benodi fel Cyfarwyddwr Gweinyddiaeth ym 2006. Derbyniodd Peter yr MBE fel rhan o restr anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd ym 1996.  Mae’n briod â Barbara ac mae ganddynt 3 o blant sef Michael, Robert a Kate.

Mae wedi bod yn gyfrifol am nifer o ddigwyddiadau llwyddiannus ar ran yr Undeb. Mae'r rhain yn cynnwys trefnu brecwastau Cymreig yn y Cynulliad Cenedlaethol, T?’r Arglwyddi ac yn y senedd Ewropeaidd ym Mrwsel, cinio noson cyn y Sioe Laeth yng Nghaerfyrddin, ac arwain tarw Du Cymreig o amgylch Parc y Scarlets er mwyn hyrwyddo ansawdd cig eidion Cymreig cyn gem y Scarlets yn erbyn tîm o Ffrainc yng Nghwpan Ewropeaidd Heineken.

Peter hefyd oedd yn gyfrifol am dair gwobr newydd sydd bellach yn cael eu cydnabod fel digwyddiadau urddasol yn y calendr amaethyddol. Cyflwynir y gwobrau i bobl sydd wedi rhoi gwasanaeth neilltuol i amaeth yng Nghymru; gwasanaeth neilltuol i’r diwydiant llaeth yng Nghymru, a gwasanaeth neilltuol i amaeth yng Nghaerfyrddin.

Mae wedi trefnu nifer o ddigwyddiadau yn sir Gaerfyrddin, gan gynnwys protest yn erbyn mewnforion cig eidion o Frasil. Hefyd, arweiniodd Peter brotestiadau yn erbyn y fyddin yn defnyddio tir amaethyddol lleol at ddefnydd hyfforddi er mwyn dangos yr angerdd yn erbyn gwahardd hela gyda ch?n.

Tu allan i amaethyddiaeth, mae ganddo brofiad helaeth o sefydliadau arall. Bu Peter yn Gyfarwyddwr anweithredol o ymddiriedolaeth GIG Sir Gaerfyrddin am 12 mlynedd, ac yn Gadeirydd Pwyllgor Archwilio’r Ymddiriedolaeth am bron iawn yr holl amser yna.

Gwasanaethodd fel aelod o fwrdd S4C ac mae’n gyn Gadeirydd Cymdeithas Tai Cantref ac Antur Teifi.

“Mae Peter wedi cael gyrfa hir a llwyddiannus gyda ni yma yn UAC – a gobeithio bydd hyn yn parhau am flynyddoedd eto i ddod.  Rydym yn gwerthfawrogi ei frwdfrydedd a’i ddyfalbarhad.  Ar ran yr Undeb, rwy’n diolch iddo am ei gyfraniadau a’i waith gwych,” ychwanegodd Glyn Roberts.

Diffyg cyfleusterau band llydan ym Meirionnydd yn broblem enfawr ar gyfer busnesau gwledig

[caption id="attachment_6456" align="alignleft" width="300"](ch-dd) Swyddog gweithredol UAC Meirionnydd Huw Jones, Cynghorydd John Pugh Roberts, swyddog sirol UAC Meirionnydd Euros Pugh, Liz Saville Roberts AS, aelod UAC Sion Ifans a’i wraig Gwawr, Cyfarwyddwr Ofcom dros Gymru Rhodri Williams a Rheolwr Rhaglen BT dros Gymru Martin Jones. (ch-dd) Swyddog gweithredol UAC Meirionnydd Huw Jones, Cynghorydd John Pugh Roberts, swyddog sirol UAC Meirionnydd Euros Pugh, Liz Saville Roberts AS, aelod UAC Sion Ifans a’i wraig Gwawr, Cyfarwyddwr Ofcom dros Gymru Rhodri Williams a Rheolwr Rhaglen BT dros Gymru Martin Jones.[/caption]

Diffinnir band llydan fel modd o ymgysylltu byd eang o rwydweithiau unigol a weithredir gan lywodraeth, diwydiant, y byd academaidd a grwpiau preifat, a oedd yn wreiddiol yn bodoli er mwy ymgysylltu labordai oedd yn gysylltiedig gydag ymchwil y llywodraeth.

Mewn ychydig iawn o flynyddoedd, mae band llydan wedi datblygu i fod yn arf pwerus sydd wedi newid sut rydym yn trafod busnes, a’r ffordd rydym yn cyfathrebu am byth.

Mae’r nifer sy’n defnyddio’r rhyngrwyd yn fyd eang wedi cynyddu’n ddramatig, gydag ond 14 miliwn o ddefnyddwyr yn fyd eang ym 1993 i dros 3 biliwn o bobl heddiw a hynny yn ôl asiantaeth y Cenhedloedd Unedig sy’n goruchwylio cyfathrebiadau rhyngwladol.

Yn y blynyddoedd cynnar, roedd nifer yn pryderu y byddai’r rhyngrwyd yn lledu’r bwlch rhwng y gwledydd datblygedig a datblygol.
Mae’r bwlch digidol yn theori gymdeithasol a ddaeth i’r amlwg yn yr 1990au hwyr a hynny am yr anfanteision i’r rhai hynny nad oes ganddynt fynediad da i’r rhyngrwyd o gymharu â’r rhai sydd â chysylltiad da, ac mae hyn yn amlwg iawn, hyd yn oed yn yr ardaloedd mwyaf annisgwyl.

Er mwyn tynnu sylw at y broblem o ddiffyg band llydan yng Nghymru, cynhaliodd cangen Meirionnydd o Undeb Amaethwyr Cymru ymweliad â fferm Brynuchaf, Llanymawddwy ger Dinas Mawddwy, Machynlleth, Powys ar ddydd Gwener Mehefin 10.

Mae ffermwyr yn y sir wedi disgrifio’r diffyg band llydan fel problem enfawr yn enwedig pan ddaw’n amser defnyddio RPW ar-lein, TAW ar-lein a BCMS.
Trefnwyd y digwyddiad gan Siôn Ifans sy’n aelod o UAC. Mae gan ei gartref ef gysylltiad band llydan gwael a dywedodd: “Rydym yn cydnabod bod yna lawer o fanteision o gwblhau gwaith papur angenrheidiol ar-lein, ond mae yna broblem yn bodoli o hyd yn ein cymunedau gwledig ac mae angen i’r mater gael sylw ar frys.

“Mae’r ystod o wasanaethau a chyfleoedd sydd ar gael yn gyfan gwbl trwy gyfrwng y rhyngrwyd wedi cynyddu’n sylweddol dros y ddegawd ddiwethaf, ac mae mynediad i fand llydan bellach yn cael ei weld fel anghenraid gan y mwyafrif o fusnesau a chartrefi yn y DU.

“Fodd bynnag, gyda mynediad at fand llydan yn parhau i fod ymhell o dan y cyfartaledd cenedlaethol yn nifer o’n hardaloedd gwledig, a busnesau fferm yn cynrychioli’r gyfran uchaf o rheini heb fynediad i fand llydan, mae’n hanfodol bod y cyfyngiadau ar wasanaethau ar-lein a chyfathrebiadau yn cael eu cydnabod, a bod mynediad gwledig i fand llydan yn cael ei gynyddu.”

Hefyd, mae’r rhai hynny sy’n berchen bythynnod hunan arlwyo o dan anfantais sylweddol, gan fod angen WIFI bellach er mwyn marchnata ei busnes yn llwyddiannus.

Dywedodd Huw Jones, swyddog gweithredol yr undeb ym Meirionnydd: “Mae plant sydd ddim yn medru cael mynediad at fand llydan ar gyfer eu gwaith ysgol neu goleg ac un rhywun sydd am weithio o adre neu archwilio syniadau arallgyfeirio yn sicr o dan anfantais.

“Hefyd, yn sgil pa mor gyflym mae rheolau sy’n berthnasol i amaethyddiaeth yn newid, a’r cosbau sy’n gysylltiedig â thorri’r rheolau hynny, mae’n hanfodol bod newidiadau o’r fath, naill a’i yn cael eu trosglwyddo i’r diwydiant mewn modd cyfleus, unai drwy gopïau papur neu wrth sicrhau bod pob cartref yn cael mynediad i’r rhyngrwyd.

“Mae’n hanfodol bod ein gweinyddwyr yn cydnabod bod mynediad cyfyngedig i fand llydan yn nifer o gymunedau gwledig Cymru, a’i bod nhw’n gwneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau nad oes unrhyw fusnes o dan anfantais o ganlyniad i symud at wasanaethau ar-lein.

“Mae llawer o waith wedi ei wneud dros y pedair blynedd diwethaf i wella gwasanaethau ar gyfer mynediad i fand llydan, ac mae llawer o arian wedi cael ei fuddsoddi gan Lywodraeth Cymru er mwyn gwella gwasanaeth ‘cyflym’, ond nid yw’r gwasanaeth wedi cyrraedd pob ffermwr a busnesau gwledig arall ar draws Cymru”.

Roedd Liz Saville Roberts, yr AS lleol hefyd yn bresennol yn y digwyddiad a dywedodd: “Mae’r mynediad i fand llydan yn nifer o rannau o Ddwyfor Meirionnydd yn siomedig dros ben, yn enwedig yn y cymunedau gwledig anghysbell, lle mae nifer yn teimlo’n unig oherwydd y diffyg yn narpariaeth y rhwydwaith.

“Mae cael mynediad i fand llydan cyflym a dibynadwy yn bwysig iawn i nifer o fusnesau bach o fewn fy etholaeth, ac mae nifer ohonynt yn teimlo’n rhwystredig iawn gyda pha mor araf yw’r broses o gyflwyno’r gwasanaeth hyd yn hyn.

“Ers cael fy ethol, rwyf wedi lobio’r Llywodraeth yn galed ar y mater yma ac wedi galw am roi blaenoriaeth i ardaloedd gwledig Meirionnydd pan ddaw i gyflwyno band llydan.”

Un arall fu’n flaenllaw iawn yn nhrefniadau’r diwrnod oedd y Cynghorydd Gwynedd lleol ar gyfer ardaloedd Corris a Mawddwy John Pughe Roberts ac mi ddywedodd: “Mae’n hanfodol bod popeth yn cael ei wneud i gefnogi’r rhai hynny sy’n byw mewn cymunedau gwledig sydd am redeg busnes neu brosiectau elusennol o adref ar gyfer ffyniant economaidd cefn gwlad.

“Rwy’n benderfynol o weld y mater pwysig hwn yn cael ei ddatrys, mae’n annheg iawn i’r rhai hynny sy’n byw yn yr ardaloedd gwledig fod o dan anfantais.”

Cangen Ynys Môn o UAC yn hyrwyddo llaeth i blant yr ysgol gynradd leol

[caption id="attachment_6418" align="alignleft" width="300"]Plant llawen: Is Lywydd UAC Eifion Huws gyda disgyblion ysgol gynradd Caergeiliog Plant llawen: Is Lywydd UAC Eifion Huws gyda disgyblion ysgol gynradd Caergeiliog[/caption]

Mae cangen Ynys Môn o Undeb Amaethwyr Cymru wedi bod yn hyrwyddo’r manteision o yfed llaeth i blant yr ysgol gynradd leol ac yn esbonio o le daw llaeth.

Wrth ymweld â’r ysgol cyn y gwyliau hanner tymor ar ddydd Gwener, Mai 27, esboniodd Is Lywydd UAC Eifion Huws sut mae llaeth yn cyrraedd silff yr archfarchnadoedd a’r siopau i gr?p o 60 o blant. Esboniodd hefyd waith y fferm deuluol.

Gwrandawodd y plant yn astud ar storiâu Eifion a chwerthin pan glywsom sut mae’n enwi’r gwartheg ar ôl ei blant ac aelodau arall o’r teulu - Anne, Eirian, Doris, Helen, Kitty, Ceinwen a Heddwen i enwi rhai.

“Mae’n hanfodol ein bod ni fel diwydiant yn ymweld ag ysgolion i hyrwyddo amaethyddiaeth ac addysgu’r genhedlaeth nesaf am y broses o gynhyrchu bwyd.

“Mae gan laeth a chynnyrch llaeth ran bwysig yn ein diet dyddiol gan eu bod nhw’n rhoi protein a chalsiwm ac yn cynnwys fitaminau a mwynau hanfodol, ac mae angen y rhain i gyd er mwyn cael diet cytbwys.“Mae’r ffaith bod cynnyrch llaeth yn cael eu heithrio o’r ‘dreth siwgr’ yn dangos pa mor bwysig yw’r cynnyrch mewn diet iach.”

Yn siarad ar Ddiwrnod Llaeth y Byd (Mehefin 1), dywedodd swyddog gweithredol Ynys Môn Heidi Williams: “Cawsom brynhawn hyfryd yn ysgol gynradd Caergeiliog, ac roeddwn yn medru esbonio i’r plant sut yn union mae llaeth yn cael ei gynhyrchu a pa mor bwysig ydyw yn ein diet.

“Hefyd, dangoswyd y gwahanol gynnyrch sy’n cael eu gwneud o laeth megis iogyrtiau, cwstard, caws, a’r ffefryn wrth gwrs, pecyn o siocled!”

Ar ddiwedd y cyflwyniad, cafodd y plant gyfle i holi cwestiynau, ac roedd gan y plant doreth o bethau i’w holi i Mr Huws yngl?n â bywyd ffermwr.

Tegwen yn mynd am drip i’r dosbarth

[caption id="attachment_5996" align="aligncenter" width="300"]Tegwen visits TyCoch Primary school, Tycroes, Ammanford Tegwen visits TyCoch Primary school, Tycroes, Ammanford[/caption]

Mae buwch laeth UAC, Tegwen, sydd wedi ei pheintio yn lliwiau’r faner Gymreig ac sydd wedi bod ynghanol ymgyrch UAC i sicrhau  pris teg am laeth wedi bod yn ymweld â phlant ysgol yn sir Gaerfyrddin er mwyn dod ac ychydig o gefn gwlad mewn i’r ystafell ddosbarth.

Wrth ymweld â phlant dosbarth derbyn ysgol gynradd TyCoch, Tycroes, Rhydaman, roedd Tegwen yn dangos o ble daw cynnyrch llaeth.

Roedd athrawes ysgol gynradd TyCoch Valerie Davies yn awyddus i gynnal gwers ryngweithiol ar wartheg godro a’i cynnyrch yn dilyn ymweliad a Fferm Folly ac roedd UAC yn falch iawn i dderbyn y gwahoddiad.

Cynhaliodd rheolwr marchnata ac aelodaeth UAC Caryl Roberts wers ryngweithiol, gan ddefnyddio deunydd addysgiadol o wefan ‘Countryside Classroom’ a FACE Cymru (Addysg Ffermio a Chefn Gwlad) i blant y dosbarth derbyn yngl?n â llaeth a ffermio gwartheg godro yn ogystal â chyflwyno Tegwen a cynnig samplau o gaws cheddar lleol a tri math o laeth i flasu.

[caption id="attachment_5994" align="aligncenter" width="237"]FUW marketing and membership manager Caryl Roberts brought samples of local cheddar for the children at TyCoch Primary school FUW marketing and membership manager Caryl Roberts brought samples of local cheddar for the children at TyCoch Primary school[/caption]

Dywedodd Caryl Roberts: “Mae’n hanfodol bod plant yn dysgu o’r cychwyn cyntaf o ble daw eu bwyd.

“Nid yn unig mae'n ehangu eu dealltwriaeth o darddiad bwyd a diod, ond hefyd yn rhoi cipolwg iddynt o’u cymuned wledig.”

"Roedd yr adnoddau gan ‘Countryside Classroom’ a FACE Cymru yn ei gwneud yn hawdd i mi baratoi gwers addas ar gyfer y plant. Roedd y samplau o gaws a gynhyrchir yn lleol yn wobr am wrando mor astud."

Mae gan UAC ymroddiad hir dymor i gynorthwyo plant i ddysgu am fwyd, ffermio a'r amgylchedd naturiol ac mae'n awyddus i helpu ymhellach drwy ddod a chefn gwlad mewn i'r ystafell ddosbarth ysgolion ledled Cymru.

Mae deunydd addysgiadol am ddim ar wefan ‘Countryside Classroom’ http://countrysideclassroom.org.uk/ ac mae deunyddiau dwyieithog ar gael o wefan FACE Cymru http://www.face-cymru.org.uk/

Mae’r deunydd wedi cael ei rannu yn ôl cyfnod allweddol neu oedran mewn amrywiaeth o fformatau megis gemau, gweithgareddau, cwisiau a chyflwyniadau.