Amseriad Synhwyrol i Adael yr Undeb Ewropeaidd yn Hanfodol

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi croesawu penderfyniad y Prif Weinidog i ddileu dod a chyfraith Erthygl 50  o Gytundeb Lisbon i rym ac yn galw ar y DU a’r UE i gytuno ar amserlen synhwyrol ar gyfer gadael, ar ôl i’r etholwyr bleidleisio gadael yr UE - neu beryglu goblygiadau difrifol ar gyfer y DU a’r 27 Aelod Wladwriaeth arall.

“Cefnogodd UAC yr ymgyrch dros aros ac roedd yn aelod o "Cryfach yn Ewrop", felly, yn naturiol, rydym yn siomedig gyda’r canlyniad, dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts.

“Fodd bynnag, fel mudiad democrataidd rydym ni’n parchu canlyniad y bleidlais, ac mae’r gwaith o adeiladu dyfodol positif i ffermio a’r economi wledig yng Nghymru tu allan i’r UE yn dechrau heddiw.”

Dywedodd Mr Roberts bod yr amserlen i adael yn hanfodol i’r fath gynllunio, ac y byddai gadael dros gyfnod rhy sydyn yn achosi goblygiadau enbyd ar gyfer y DU a’r UE.

“Mae’r gwaith sydd i’w wneud nawr yn anferthol yng nghyd-destun newid trefniadau a chyfreithiau gwladol, gan gynnwys deddfau sydd wedi eu datganoli i Gymru, heb son am y gwaith o’n dad-glymu o gyllideb yr UE yr ydym wedi ymrwymo iddo, trafod cytundebau masnach a chydio mewn materion megis rheolaeth o’n ffiniau.

“Bydd y materion yma yn golygu llawer iawn o waith ar lefel yr UE, ac ni fydd ymadael dros gyfnod o ychydig o flynyddoedd o fudd i’r DU na’r UE.

“Byddai hynny yn debygol o achosi'r gwaethaf i bawb,” ychwanegodd.

Mae’r Undeb wedi galw am gyfarfodydd cynnar gyda Llywodraeth Cymru a hefyd yn ymgynghori gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod llais amaeth Cymru yn cael ei glywed yn glir yn ystod yr amseroedd heriol yma.

“Rydym hefyd wedi bod mewn cysylltiad gyda gwledydd eraill sydd ddim yn aelodau o’r UE, megis Norwy a’r Swistir er mwyn deall eu modelau amaethyddol nhw, a bydd y cyfnewidiau gwybodaeth yma yn sicrhau bod eu profiadau hwy o fudd i unrhyw gynlluniau sy’n cael eu datblygu yng Nghymru,” dywedodd Mr Roberts.

Bydd yr Undeb hefyd yn defnyddio ei rhwydwaith eang o ganghennau sirol i sicrhau bod barn a lleisiau ein haelodau trwy Gymru gyfan yn cael eu clywed yn ystod y cynllunio a negydu’r broses o adael. Bwriedir cynnal cyfarfod o Gadeiryddion yr holl siroedd yn ystod wythnos gyntaf mis Gorffennaf.

“Mae’n hanfodol bod lleisiau ein haelodau yn cael eu clywed, felly byddwn yn ymgynghori gyda nhw mor eang â phosib er mwyn sicrhau bod Cymru yn derbyn yr hyn sydd ei angen arni er mwyn sicrhau dyfodol cynaliadwy i amaethyddiaeth ac economïau gwledig cryfach. “

 

Diwedd