UAC yn rhybuddio busnesau gwledig a ffermwyr am lythyr sgâm ‘Welsh Commercial Register’

Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn rhybuddio aelodau a busnesau gwledig i beidio ymateb i lythyr sgâm, gan yr hyn a elwir yn ‘Welsh Commercial Register’, yn gofyn iddynt ddatgelu manylion eu busnesau.

Mae’r llythyr yn gofyn i’w dderbynnydd ddarparu manylion pellach am y busnes a hynny am gost o 993 ewro gyda TAW yn ychwanegol.  Wrth arwyddo’r ffurflen, mae’r person yn rhoi caniatâd i ‘Direct Publisher S.L.U’ gofnodi a hysbysebu’r wybodaeth am gyfnod o dair blynedd.

Dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts: “Mae’r llythyr yn edrych fel un swyddogol gan y Llywodraeth, ac felly mae’n hawdd twyllo nifer o ffermwyr a busnesau gwledig i ddarparu eu manylion.

“Mae’r goblygiadau ariannol o roi’r manylion i’r cwmni yn medru bod yn niweidiol tu hwnt.  Rwy’n annog ffermwyr a busnesau gwledig i fod yn wyliadwrus o’r llythyron sgâm yma.”

Dylai unrhyw ffermwr sydd ddim yn si?r a yw llythyr sy’n gofyn am fanylion y busnes yn ddilys neu beidio, gysylltu gyda’i swyddfa safonau masnach leol neu wasanaethau cwsmer Cyngor ar Bopeth ar 03454 040506 neu’r llinell Gymraeg ar 03454 04 05 05.