Diffyg cyfleusterau band llydan ym Meirionnydd yn broblem enfawr ar gyfer busnesau gwledig

[caption id="attachment_6456" align="alignleft" width="300"](ch-dd) Swyddog gweithredol UAC Meirionnydd Huw Jones, Cynghorydd John Pugh Roberts, swyddog sirol UAC Meirionnydd Euros Pugh, Liz Saville Roberts AS, aelod UAC Sion Ifans a’i wraig Gwawr, Cyfarwyddwr Ofcom dros Gymru Rhodri Williams a Rheolwr Rhaglen BT dros Gymru Martin Jones. (ch-dd) Swyddog gweithredol UAC Meirionnydd Huw Jones, Cynghorydd John Pugh Roberts, swyddog sirol UAC Meirionnydd Euros Pugh, Liz Saville Roberts AS, aelod UAC Sion Ifans a’i wraig Gwawr, Cyfarwyddwr Ofcom dros Gymru Rhodri Williams a Rheolwr Rhaglen BT dros Gymru Martin Jones.[/caption]

Diffinnir band llydan fel modd o ymgysylltu byd eang o rwydweithiau unigol a weithredir gan lywodraeth, diwydiant, y byd academaidd a grwpiau preifat, a oedd yn wreiddiol yn bodoli er mwy ymgysylltu labordai oedd yn gysylltiedig gydag ymchwil y llywodraeth.

Mewn ychydig iawn o flynyddoedd, mae band llydan wedi datblygu i fod yn arf pwerus sydd wedi newid sut rydym yn trafod busnes, a’r ffordd rydym yn cyfathrebu am byth.

Mae’r nifer sy’n defnyddio’r rhyngrwyd yn fyd eang wedi cynyddu’n ddramatig, gydag ond 14 miliwn o ddefnyddwyr yn fyd eang ym 1993 i dros 3 biliwn o bobl heddiw a hynny yn ôl asiantaeth y Cenhedloedd Unedig sy’n goruchwylio cyfathrebiadau rhyngwladol.

Yn y blynyddoedd cynnar, roedd nifer yn pryderu y byddai’r rhyngrwyd yn lledu’r bwlch rhwng y gwledydd datblygedig a datblygol.
Mae’r bwlch digidol yn theori gymdeithasol a ddaeth i’r amlwg yn yr 1990au hwyr a hynny am yr anfanteision i’r rhai hynny nad oes ganddynt fynediad da i’r rhyngrwyd o gymharu â’r rhai sydd â chysylltiad da, ac mae hyn yn amlwg iawn, hyd yn oed yn yr ardaloedd mwyaf annisgwyl.

Er mwyn tynnu sylw at y broblem o ddiffyg band llydan yng Nghymru, cynhaliodd cangen Meirionnydd o Undeb Amaethwyr Cymru ymweliad â fferm Brynuchaf, Llanymawddwy ger Dinas Mawddwy, Machynlleth, Powys ar ddydd Gwener Mehefin 10.

Mae ffermwyr yn y sir wedi disgrifio’r diffyg band llydan fel problem enfawr yn enwedig pan ddaw’n amser defnyddio RPW ar-lein, TAW ar-lein a BCMS.
Trefnwyd y digwyddiad gan Siôn Ifans sy’n aelod o UAC. Mae gan ei gartref ef gysylltiad band llydan gwael a dywedodd: “Rydym yn cydnabod bod yna lawer o fanteision o gwblhau gwaith papur angenrheidiol ar-lein, ond mae yna broblem yn bodoli o hyd yn ein cymunedau gwledig ac mae angen i’r mater gael sylw ar frys.

“Mae’r ystod o wasanaethau a chyfleoedd sydd ar gael yn gyfan gwbl trwy gyfrwng y rhyngrwyd wedi cynyddu’n sylweddol dros y ddegawd ddiwethaf, ac mae mynediad i fand llydan bellach yn cael ei weld fel anghenraid gan y mwyafrif o fusnesau a chartrefi yn y DU.

“Fodd bynnag, gyda mynediad at fand llydan yn parhau i fod ymhell o dan y cyfartaledd cenedlaethol yn nifer o’n hardaloedd gwledig, a busnesau fferm yn cynrychioli’r gyfran uchaf o rheini heb fynediad i fand llydan, mae’n hanfodol bod y cyfyngiadau ar wasanaethau ar-lein a chyfathrebiadau yn cael eu cydnabod, a bod mynediad gwledig i fand llydan yn cael ei gynyddu.”

Hefyd, mae’r rhai hynny sy’n berchen bythynnod hunan arlwyo o dan anfantais sylweddol, gan fod angen WIFI bellach er mwyn marchnata ei busnes yn llwyddiannus.

Dywedodd Huw Jones, swyddog gweithredol yr undeb ym Meirionnydd: “Mae plant sydd ddim yn medru cael mynediad at fand llydan ar gyfer eu gwaith ysgol neu goleg ac un rhywun sydd am weithio o adre neu archwilio syniadau arallgyfeirio yn sicr o dan anfantais.

“Hefyd, yn sgil pa mor gyflym mae rheolau sy’n berthnasol i amaethyddiaeth yn newid, a’r cosbau sy’n gysylltiedig â thorri’r rheolau hynny, mae’n hanfodol bod newidiadau o’r fath, naill a’i yn cael eu trosglwyddo i’r diwydiant mewn modd cyfleus, unai drwy gopïau papur neu wrth sicrhau bod pob cartref yn cael mynediad i’r rhyngrwyd.

“Mae’n hanfodol bod ein gweinyddwyr yn cydnabod bod mynediad cyfyngedig i fand llydan yn nifer o gymunedau gwledig Cymru, a’i bod nhw’n gwneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau nad oes unrhyw fusnes o dan anfantais o ganlyniad i symud at wasanaethau ar-lein.

“Mae llawer o waith wedi ei wneud dros y pedair blynedd diwethaf i wella gwasanaethau ar gyfer mynediad i fand llydan, ac mae llawer o arian wedi cael ei fuddsoddi gan Lywodraeth Cymru er mwyn gwella gwasanaeth ‘cyflym’, ond nid yw’r gwasanaeth wedi cyrraedd pob ffermwr a busnesau gwledig arall ar draws Cymru”.

Roedd Liz Saville Roberts, yr AS lleol hefyd yn bresennol yn y digwyddiad a dywedodd: “Mae’r mynediad i fand llydan yn nifer o rannau o Ddwyfor Meirionnydd yn siomedig dros ben, yn enwedig yn y cymunedau gwledig anghysbell, lle mae nifer yn teimlo’n unig oherwydd y diffyg yn narpariaeth y rhwydwaith.

“Mae cael mynediad i fand llydan cyflym a dibynadwy yn bwysig iawn i nifer o fusnesau bach o fewn fy etholaeth, ac mae nifer ohonynt yn teimlo’n rhwystredig iawn gyda pha mor araf yw’r broses o gyflwyno’r gwasanaeth hyd yn hyn.

“Ers cael fy ethol, rwyf wedi lobio’r Llywodraeth yn galed ar y mater yma ac wedi galw am roi blaenoriaeth i ardaloedd gwledig Meirionnydd pan ddaw i gyflwyno band llydan.”

Un arall fu’n flaenllaw iawn yn nhrefniadau’r diwrnod oedd y Cynghorydd Gwynedd lleol ar gyfer ardaloedd Corris a Mawddwy John Pughe Roberts ac mi ddywedodd: “Mae’n hanfodol bod popeth yn cael ei wneud i gefnogi’r rhai hynny sy’n byw mewn cymunedau gwledig sydd am redeg busnes neu brosiectau elusennol o adref ar gyfer ffyniant economaidd cefn gwlad.

“Rwy’n benderfynol o weld y mater pwysig hwn yn cael ei ddatrys, mae’n annheg iawn i’r rhai hynny sy’n byw yn yr ardaloedd gwledig fod o dan anfantais.”