UAC Sir Gaerfyrddin yn edrych ymlaen at ddiwrnod agored parc bwyd

Mae cangen Sir Gaerfyrddin o Undeb Amaethwyr Cymru yn edrych ymlaen at ddiwrnod agored gyda Bwydydd Castell Howell yn Cross Hands gyda’r bwriad o godi arian ar gyfer Apêl Sir Gâr,  Sir Nawdd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru 2017.

Bydd y diwrnod agored cyntaf erioed yn cael ei gynnal ar ddydd Sadwrn 16 Medi 2017 gan ddechrau am 6.30yh, a bydd tocynnau ar gael o swyddfa UAC yng Nghaerfyrddin (01267 237974).

Gall y rhai sy'n ymuno â'r digwyddiad edrych ymlaen at daith o amgylch y busnes rhwng 6.30yh a 7.30yh a fydd yn dangos oddeutu 9,000 o linellau cynnyrch a’r offer sy’n torri a thrin y cig lleol sy’n cael ei brosesu yno.

Castell Howell yw un o’r prif gyflogwyr yn Sir Gaerfyrddin, yn cyflogi 670 ac yn gyfrifol am greu trosiant o £110 miliwn.

Mae’r tocyn (£15 y person) yn cynnwys, unai Mochyn Rhost Celtic Pride, rôl cig eidion Celtic Pride, ci poeth neu byrger Celtic Pride traddodiadol.  Bydd band lleol NEWSHAN yn diddanu, tynnu’r gelyn a bar trwyddedig.

Bydd Dan Biggar, chwaraewyr rygbi’r Ospreys, Cymru a’r Llewod a llysgennad y brand Celtic Pride, yn ogystal â nifer o chwaraewyr y Scarlets yn ymuno yn y digwyddiad hefyd.

Mae’r ocsiwn eisoes yn cynnwys crys y Llewod Prydeinig a Gwyddelig wedi cael ei arwyddo, crys y Southern Kings wedi ei arwyddo, mae yna addewid o grys South Africa Guinness Pro 14, y trelar cario stoc gyda tho CLH/UAC a bocs arbennig o sigârs Ciwbaidd eisoes wedi cyrraedd!

Dywedodd Joyce Owens, cynorthwyydd gweinyddol swyddfa UAC yng Nghaerfyrddin, ac sy’n cynorthwyo gyda’r trefniadau: “Mae’n argoeli i fod yn ddigwyddiad cyffrous sy’n rhoi cyfle i ni godi arian hollbwysig ar gyfer cronfa Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru Sir Gaerfyrddin. Rwy’n gobeithio gweld nifer o’n haelodau a ffrindiau’r Undeb yn bresennol ar y diwrnod.”

Dywedodd Sylfaenydd a Rheolwr Gyfarwyddwr Bwydydd Castell Howell a Llywydd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru 2017 Brian Jones: “Rwy’n hynod o falch cael croesawu pawb i’r Parc Bwyd yn Cross Hands. Gobeithio bydd y rhai hynny sy’n ymweld yn gweld y lle’n ddiddorol ac edrychaf ymlaen at weld nifer ohonoch yna.”

Ychwanegodd Mr Jones ei fod yn hynod o falch o’r cig lleol rhagorol sy’n cael ei brosesu yn y Parc Bwyd o dan logo Celtic Pride.

“Mae ffermydd lleol yn cynhyrchu anifeiliaid o’r ansawdd gorau ac rwy’n si?r bydd ganddynt ddiddordeb mewn gweld y cyfleusterau prosesu cig.”

Diwedd

 

Siec o £500 ar gyfer Ymchwil Canser Cymru

Mae Lowri Thomas, aelod o Undeb Amaethwyr Cymru, cangen Caernarfon wedi cyflwyno siec o £500 i Ymchwil Canser Cymru yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Cafodd yr arian ei godi yn ystod wythnos Brecwast Fferm UAC ym Meillionydd Bach, Rhoshirwaun ym mis Ionawr.

Dywedodd Swyddog Gweithredol UAC Sir Gaernarfon Gwynedd Watkin: “Bu’r teulu oll gan gynnwys Huw Thomas (g?r Lowri) a’i frawd Dei yn rhan allweddol o’r ymdrech arbennig i godi dros £2,000, ac mi roddwyd £500 ohono i Ymchwil Canser Cymru.  Ychwanegwyd gweddill yr arian at elusen ddewisedig y Llywydd sef BHF Cymru.  Rwy’n hynod o ddiolchgar iddynt am gynnal y brecwast ac am godi swm rhagorol o arian.”

UAC yn rhoi hwb o £39,000 i elusen y galon yn yr Eisteddfod

Mae ffermwyr Cymru wedi bod yn hael dros ben yn yr Eisteddfod wrth iddynt gyflwyno siec dros £39,000 i Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru (BHF) yn dilyn dwy flynedd o godi arian llwyddiannus.

Sefydlwyd Sefydliad Prydeinig y Galon ym 1961 gan gr?p o weithwyr proffesiynol meddygol a oedd am ariannu ymchwil ychwanegol i achosion, diagnosis, triniaeth ac atal clefyd y galon a chlefyd cylchredol.

Ar ôl hanner canrif o ddatblygiad gwyddonol a chymdeithasol eithriadol maent wedi helpu i drawsnewid sefyllfa clefyd y galon. Diolch i'w hymchwil, mae'r rhan fwyaf o fabanod, sy’n cael eu geni heddiw â namau ar y galon bellach yn goroesi, mae rheolyddion calon yn helpu pobl i reoli cyflyrau ar y galon, mae statinau'n lleihau lefelau colesterol i filiynau, gan leihau'r risg o gael trawiad ar y galon a strôc.

Hefyd, mae’r driniaeth ar gyfer trawiad ar y galon wedi cael ei chwyldroi a gall llawer o gyflyrau etifeddol gael eu diagnosio a'u trin yn llwyddiannus ac atal marwolaeth sydyn.

Wrth gyflwyno'r siec i Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru, dywedodd Llywydd UAC, Glyn Roberts: "Mae'n bleser gen i gyflwyno'r siec hon werth £39,000 i Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru heddiw. Mae’r gwaith maent yn ei wneud yn hanfodol wrth achub bywydau ac mae’n rhaid i’w hymchwil i glefyd y galon barhau, yn enwedig oherwydd bod 25 o bobl yn colli eu bywydau i glefyd cardiofasgwlaidd bob dydd yng Nghymru, ac yn difetha bywyd i’r rhai sy’n cael eu gadael ar ôl.

“Mae’r arian sydd wedi cael ei godi yn helpu Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru gyda’i hymchwil arloesol, sy’n ganolog i ddarganfod triniaethau hanfodol ar gyfer pobl sy’n byw gyda’r cyflyrau yma.

“Felly, rwyf am ddiolch i holl staff UAC, ffrindiau’r Undeb a’r rhai hynny sydd wedi helpu ni i godi swm anhygoel o arian.  Rydym wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau, gan gynnwys brecwastau, cerdded llwybr Clawdd Offa, cynnal nosweithiau bingo a gyrfaoedd chwist er mwyn codi arian, a ni fyddai hyn i gyd yn bosibl heb ymroddiad a phenderfyniad pawb a fu’n rhan o’r digwyddiadau.”

Mae Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru wedi bod yn gyfrifol am gyflwyno technegau arloesol mewn ysbytai, gan gynnwys sganiau sy’n medru edrych i mewn i’r galon, a phrofion megis angioplasti sydd bellach yn rhan o’r drefn.  Maent wedi bod yn gysylltiedig â rhai o'r datblygiadau mwyaf mewn triniaeth a gofal ar ôl trawiad ar y galon, o ddarganfod cyffuriau clotio ac effeithiolrwydd statinau i’r gofal mae cleifion yn ei dderbyn yn yr ysbyty.

Dywedodd Rheolwr Codi Arian Sefydliad Prydeinig y Galon De Orllewin Cymru Jayne Lewis: “Hoffwn ddiolch i Undeb Amaethwyr Cymru am yr holl gymorth a chefnogaeth dros y ddwy flynedd diwethaf.  Mae gormod o fywydau yn cael eu colli i glefyd y galon a chlefyd cylchredol yng Nghymru bob blwyddyn, ac rydym yn benderfynol o wneud popeth o fewn ein gallu i amddiffyn mwy o deuluoedd rhag y golled hon.

"Yn ystod mis yma, mae oddeutu 375,000 o bobl ledled Cymru yn ymladd y frwydr ddyddiol hon, a diolch i'r grwpiau a sefydliadau lleol, byddwn yn gallu ariannu hyn yn oed yn fwy o ymchwil i'r cyflyrau hyn."

Dywedodd Prif Weithredwr Sefydliad Prydeinig y Galon Simon Gillespie:"Hoffwn ddiolch yn fawr i Undeb Amaethwyr Cymru. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae ein partneriaeth wedi codi arian hanfodol sydd wedi hybu ein hymchwil i achub bywyd yng Nghymru.

"Rydym wedi arloesi ymchwil sydd wedi trawsnewid bywydau miliynau o bobl sy'n byw gyda chlefyd y galon, a hynny ers dros 50 mlynedd. Ond mae clefyd y galon a chlefyd cylchrediad yn dal i ladd mwy na 750 o bobl y mis yng Nghymru yn unig, a’u cymryd oddi wrth eu teuluoedd a'u hanwyliaid."

UAC yn pwysleisio cyfraniad amaethyddiaeth i’r Iaith Gymraeg yn yr Eisteddfod

Mae Undeb Amaethwyr Cymru’n edrych ymlaen at wythnos brysur yn yr Eisteddfod Genedlaethol (4-12 Awst) yn hyrwyddo pam bod #AmaethAmByth, a chyfraniad hanfodol teuluoedd amaethyddol wrth ddiogelu’r iaith Gymraeg yn ein cymunedau gwledig.

“Bydd cyfle i’r rhai sy’n ymweld â stondin UAC ddysgu mwy am bwysigrwydd #AmaethAmByth i’n economi wledig a bywyd gwledig Cymreig wrth gwrs.  Bydd croeso cynnes yn aros pawb sy’n mynychu’r Eisteddfod Genedlaethol, ac rwy’n gobeithio gweld nifer o’n haelodau ar y stondin,” dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts.

Mae ymchwil yn dangos, bod y rhai hynny sy’n siarad Cymraeg o fewn y categori ‘Amaethyddiaeth, egni a d?r’ ar draws Cymru yn gwneud cyfraniad hanfodol at ddiogelu’r iaith yn nhermau niferoedd ac yn enwedig o safbwynt y gyfran sy’n siarad Cymraeg o fewn y categori (29.5%) ac yn sylweddol uwch na’r gyfran gyffredinol sy’n siarad Cymraeg (17%).

Gellir dadlau, byddai dadansoddiad tebyg o rai sy'n ymwneud yn unig a’r diwydiant amaethyddol yn dangos canran uwch eto, ac yn dangos cyfraniadau uwch o ran y rôl a chwaraeir gan ffermio wrth warchod yr iaith Gymraeg.  Bydd yna wybodaeth bellach a’r adroddiad ‘Ffermio yng Nghymru a’r Gymraeg’ ar gael ar stondin UAC (rhif stondin 405-406).

Felly mae camau sy’n tanseilio hyfywedd amaethyddiaeth yng Nghymru yn debygol o fod yn fygythiad sylweddol i'r iaith Gymraeg. Mae effeithiau Brexit ar amaethyddiaeth yn bwnc sy'n cael ei drafod yn gyson: Bydd Llywydd UAC Glyn Roberts yn tynnu sylw at bwysigrwydd cyfnod pontio Brexit fesul cam yn ystod trafodaeth ar ‘ddyfodol cymunedau amaethyddol ar ôl Brexit’ ar stondin Cymdeithas yr Iaith dydd Llun am 2yp. Mae traean o boblogaeth Cymru yn byw mewn ardaloedd gwledig lle mae ffermio, a busnesau sy'n dibynnu ar amaethyddiaeth yn chwarae rôl hanfodol mewn economïau lleol, yn ogystal â'r iaith Gymraeg. 

Llywydd Glyn Roberts a'i w?r Caio yn sgwrsio am
pwysigrwydd #AmaethAmByth!

Wrth siarad am bwysigrwydd yr Iaith Gymraeg, dywedodd Llwydd UAC Glyn Roberts: “Mae’n rhaid i ni gydnabod y ffaith bod patrymau iaith yn newid, ond mae angen i economi gref Gymreig gael ei chefnogi gan ein hiaith, er mwyn cadw’n hunaniaeth Gymreig.

“Felly, nid ffermio’n unig sydd ar ein stondin,  mae'n ymwneud â'r gydnabyddiaeth ehangach o ‘#AmaethAmByth’, y cadwyni cyflenwi, sut mae arian yn cylchredeg yn yr economi leol, lle mae pobl yn goroesi, lle mae elw yn cael ei wneud, a’n diwylliant yn parhau i ffynnu.

"

 

UAC yn galaru’r aelod gwreiddiol diwethaf

Gyda thristwch mawr y mae Undeb Amaethwyr Cymru yn cyhoeddi bod yr aelod gwreiddiol diwethaf, Llew Jones wedi marw.

Yn arwain y teyrngedau, dywedodd Llywydd UAC: Rydym yn drist iawn i glywed y newyddion ac mae ein meddyliau a'n chofion cynnes gyda’r teulu ar adeg anodd iawn. Mae marwolaeth Mr Jones yn nodi diwedd cyfnod i UAC a bydd bob amser yn cael ei gofio am ei rhan yn ffurfio'r UAC yn ystod 1955."

Darlledwr enwog o Gymru a’i bodlediad yn ennill Gwobr Goffa Bob Davies UAC

Wrth gydnabod datblygiadau mewn technoleg a’r newid o ran cynulleidfa, roedd Undeb Amaethwyr Cymru yn falch clywed llais cyfarwydd yn ymuno a’r twf cynyddol o bodlediadau ar-lein.

Dei Tomos yw llais newyddion amaethyddol Radio Cymru bob bore (dydd Llun i ddydd Gwener) a dechreuodd ddarlledu ym 1982.  Ymunodd a’r llu o bodlediadau gyda ‘Bwletin Amaeth’ eleni, gan sicrhau bod y newyddion a’r materion amaethyddol diweddaraf i’r rhai hynny sy’n gweithio o fewn y diwydiant amaethyddol ar gael i ystod eang o wrandawyr.

Mae’r Undeb yn gwobrwyo Dei Tomos gyda Gwobr Goffa Bob Davies gan werthfawrogi cyfraniad y podlediad ar-lein.

Mae’r wobr, er cof am ohebydd Farmers Weekly Cymru a fu farw ym mis Tachwedd 2009, yn cael ei gynnig i’r person sydd wedi hyrwyddo proffil cyhoeddus ffermio yng Nghymru.

Mae poblogrwydd podlediadau yn cynyddu, gyda 4.7 miliwn o oedolion yn gwrando ar unrhyw fath o bodlediad yn y DU.  Y ffôn glyfar yw’r ffordd fwyaf poblogaidd o wrando ar bodlediad gyda 66% o oedolion 15 mlwydd oed a hyn yn gwrando ar ei hoff raglen yn y modd yma.

Wrth gyflwyno’r wobr i Dei Tomos, dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts:  “Mae podlediadau wedi gwella darlledu clywedol, yn apelio at y gwrandawyr anhraddodiadol a’r gwrandawyr iau ac yn cysylltu gyda chynulleidfaoedd mewn ffordd nid oes modd i gyfryngau arall wneud.  Felly, mae’n wych clywed bod ‘Bwletin Amaeth’ Dei Tom hefyd ar gael i’w wrando arno eto.

“Mae ei fwletinau radio cynnar bob bore o’r wythnos ar Radio Cymru yn hanfodol ar gyfer ffermwyr trwy Gymru, a rhai hyn yn oed yn dweud drwy’r byd, ond weithiau nid oes modd gwrando arnynt.  Ond, nid yw hyn yn broblem bellach, diolch i’r podlediad ar-lein.  Y cyfan sydd angen nawr yw bod rhaglen hanner awr Dei, ‘Byd Amaeth’ ar ddydd Sadwrn hefyd ar gael ar ffurf podlediad”.