UAC yn mynd a phryderon ynghylch ymosodiadau da byw i Lundain

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi dweud wrth Gr?p Hollbleidiol ar Les Anifeiliaid yn Llundain am y problemau cynyddol sy’n cael eu hachosi gan ymosodiadau ar dda byw.

Yn ogystal â UAC, clywodd y Gr?p gan dirfeddianwyr, llywodraeth leol, yr heddlu, ac elusennau c?n am yr hyn sy’n cael ei wneud i ymdrin ag atal ymosodiadau c?n ar dda byw, gyda’r bwriad o sefydlu ymarfer da fel ffordd o leihau’r nifer o ymosodiadau.

Mae UAC wedi dweud ers peth amser, bod rhaid cael gwell ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd, yn ogystal â chofnod canolog o ymosodiadau, rheoliad tynnach a gorfodaeth well er mwyn diogelu ffermydd rhag pwysau ariannol a straen emosiynol difrifol.

Elwyn Probert

Yn siarad ar ôl y cyfarfod, dywedodd Elwyn Probert, is gadeirydd Pwyllgor Da Byw UAC sy’n ffermio ar ffiniau dwyreiniol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: “Mae’r gr?p wedi rhoi cyfle gwych i UAC drafod y materion cyfoes, cyfle i ni son am ein gweithgareddau ni a thrafod y ffordd ymlaen.

"Yn anffodus, ac er gwaethaf buddsoddiad sylweddol yn y diwydiant, nid yw'r cyhoedd yn llwyr ymwybodol o allu eu c?n i ymosod, anafu neu ladd da byw. Hefyd, ar hyn o bryd nid oes cofnod canolog o ymosodiadau c?n ar dda byw, sy'n golygu bod yr union effaith yn parhau i fod yn anhysbys ac mae'n debyg nid yw llawer o achosion yn gweld golau ddydd. "

Yn gynharach eleni, cyflwynodd UAC dystiolaeth i ASau yn Nh?'r Arglwyddi ar y colledion ariannol ac emosiynol yn sgil c?n yn ymosod ar dda byw. Gall colledion oherwydd ymosodiadau ar dda byw fod yn ddegau o filoedd o bunnoedd ac maent hyd yn oed wedi arwain at fethiant rhai busnesau.

"Mae colledion busnes yn cynnwys colli stoc, cynhyrchu'n lleihau oherwydd straen, erthyliadau a cholli arian yn stoc y dyfodol. Gall y costau hyn fod yn sylweddol ar y cyd a chostau yswiriant, biliau milfeddygol a gwaredu carcasau.

"Mae UAC yn parhau i annog aelodau'r cyhoedd i gadw c?n ar dennyn wrth ymyl da byw ac yn defnyddio'r wybodaeth a gafwyd yn ddiweddar gan y Gr?p Hollbleidiol er mwyn gweithio ymhellach o fewn y maes yma," ychwanegodd Elwyn Probert.

UAC yn chwilio am enwebiadau am wasanaeth neilltuol i’r diwydiant llaeth Cymreig

Unwaith yn rhagor, mae Undeb Amaethwyr Cymru eisiau cydnabod unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad neilltuol i ddatblygiad y diwydiant llaeth ac sydd wedi dod yn rhan hanfodol o’r diwydiant yng Nghymru.

Er mwyn cydnabod y fath wasanaethau, mae’r Undeb yn chwilio am enwebiadau ar gyfer y wobr ar gyfer gwasanaeth neilltuol i ddiwydiant llaeth Cymreig UAC/HSBC.

Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi, a’r wobr yn cael ei chyflwyno yn Sioe Laeth Cymru sydd i’w chynnal yng Nghaerfyrddin ar ddydd Mawrth Hydref 24.

David Waters

Dywedodd Swyddog Gweithredol UAC Sir Gaerfyrddin David Waters: “Mae yna nifer o unigolion teilwng iawn yng Nghymru sy’n haeddu’r wobr yma, ac wrth edrych nôl, rydym wedi cael enwebiadau ac enillwyr teilwng iawn.  Felly os ydych yn ymwybodol o berson yng Nghymru sydd wedi cyfrannu’n helaeth tuag at ddatblygiad y diwydiant llaeth ac sydd wedi dod yn rhan hanfodol ohono yng Nghymru, yna ewch ati i’w henwebu nhw ar gyfer y wobr urddasol hon.”

Mae cyn enillwyr y wobr yn cynnwys cyn Lywydd UAC Sir Gaerfyrddin Ogwyn Evans yn 2008; ffermwr o Sir Gaerfyrddin Bryan Thomas - cyn aelod o gyngor Cymdeithas Holstein Friesian a sylfaenydd Sioe Laeth Cymru yn 2009, ffermwr llaeth o Sir Fflint Terrig Morgan, sylfaenydd y gr?p trafod llwyddiannus ar gyfer cynhyrchwyr llaeth ifanc yn Sir Fflint sydd bellach yn cael ei redeg gan DairyCo, “The Udder Group” yn 2010; Cadeirydd DairyCo Tim Bennett yn 2011; cyn Gadeirydd Pwyllgor Llaeth UAC Eifion Huws o Ynys Môn yn 2012; cadeirydd Bwrdd Llaeth NFU Lloegr a Cymru Mansel Raymond yn 2013; ffermwr o Wynedd Rhisiart Tomos Lewis yn 2014; perchennog Daioni Organig Laurence Harris yn 2015 a Gareth Roberts o Llaeth y Llan yn 2016.

Dylai’r enwebiadau fod ar ffurf llythyr yn rhoi manylion llawn gwaith a chyflawniadau’r enwebedig a’i anfon i Swyddfa UAC Sir Gaerfyrddin, 13a Barn Road, Caerfyrddin, SA31 1DD cyn dydd Gwener Hydref 6.

UAC yn croesawu cydnabyddiaeth Llafur bod angen cyfnod trosiannol Brexit

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi croesawu cefnogaeth y blaid Lafur i gadw'r DU yn y farchnad sengl a’r undebau tollau am gyfnod trosiannol ar ôl gadael yr UE.

Wrth siarad yng Nghyngor mis Medi yr Undeb, dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts mai Llafur oedd y diweddaraf o lawer o gyrff i gefnogi barn hirdymor yr Undeb am yr angen am gyfnod trosiannol Brexit diogel.

Rydym yn croesawu bod y ffaith ein bod wedi galw am amserlen ddiogel, a amlygwyd gennym ym mis Mehefin 2016 a'r galw mwyaf blaenllaw a amlinellir yn ein Maniffesto ym mis Mai 2017, bellach yn cael ei gydnabod gan lawer," meddai.

Wrth ysgrifennu yn yr Observer, soniodd ysgrifennydd cysgodol Brexit, Syr Keir Starmer, am safbwynt newydd Llafur, gan ddweud bod angen cyfnod trosiannol er mwyn osgoi simsanu’r economi a byddai Llafur yn ceisio darganfod cytundeb trosiannol sy’n golygu aros yn rhan o’r undebau tollau gyda'r UE ac o fewn y farchnad sengl yn ystod cyfnod trosiannol.

Hefyd, amlygodd Mr Roberts ei bryderon yngl?n â Mesur Ymadael a’r DU oherwydd bod y Senedd yn pleidleisio'n hwyrach heddiw (10 Medi), gan ddweud wrth aelodau'r Cyngor: "Ar ddiwrnod refferendwm yr UE gofynnwyd i'r etholwyr a oeddent am i ni adael neu aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Ni ofynnwyd iddynt a ddylem ni newid cydbwysedd y pwerau rhwng gweinyddiaethau datganoledig, ac ni ofynnwyd a ddylem adael neu aros yn y farchnad sengl neu'r undeb tollau. "

Ategodd Mr Roberts ymateb diweddar yr Undeb i Ymgynghoriad Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar Fesur yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a'i oblygiadau i Gymru, lle dywedodd yr Undeb: "Dylai trafodaethau trefniadau trosiannol Brexit gyda'r UE sy'n caniatáu digon o amser i gytuno ar fasnachu a materion eraill, ac archwilio a gweithredu newidiadau i ddeddfwriaeth cartref, gan gynnwys unrhyw Fesur ymadael fod yn flaenoriaeth.”

Mae’r angen am gyfnod trosiannol diogel hefyd wedi cael ei gydnabod gan nifer sydd y tu allan i’r DU – mis diwethaf, mewn cynhadledd, dywedodd cyn y cyn Brif Weinidog Gwyddelig a llysgennad y DU yn yr UDA John Bruton bod y pwysau cynyddol yn sgil y trafodaethau...” wedi'i lliniaru gan "... ymestyn llinell amser trafod y cytundeb o ddwy flynedd i chwe blynedd, gan ganiatáu i'r DU aros yn yr UE tan ddiwedd y cyfnod hwnnw."

"Ni fyddai newid o'r fath yn newid yr hyn sy’n mynd i ddigwydd o ran y DU yn gadael yr UE, ond byddai'n caniatáu i hyn ddigwydd dros amserlen fwy realistig a chymesur," meddai Mr Roberts.

UAC yn cwestiynu’r rhesymau tu ôl i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru

Mae ffermwyr ar draws Cymru wedi mynegi pryderon yngl?n â’r cynigion sy’n cael eu gwneud yn ymgynghoriad Llywodraeth Cymru “Bwrw ymlaen â rheoli adnoddau naturiol Cymru yn gynaliadwy” a’r ffaith bod cymaint o gynigion pellgyrhaeddol yn cael eu cynnig mewn un ddogfen heb unrhyw ymgynghoriad na rhybudd blaenorol.

Wrth fynychu Prif Gyngor Undeb Amaethwyr Cymru, cwestiynodd yr aelodau y rhesymeg y tu ôl i'r ddogfen.  Er mwyn mynd at wraidd yr amgylchiadau a'r rhesymeg a arweiniodd at sefyllfa mor anghyffredin, awgrymodd a cytunodd aelodau'r Cyngor yn unfrydol, y dylid gwneud cais Rhyddid Gwybodaeth yn gofyn am gopïau o holl ohebiaeth Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n ymwneud â'r ddogfen ymgynghori, y cynigion a gynhwysir ynddi, y penderfyniad i ymgorffori'r rhain mewn i un ddogfen ac amseriad yr ymgynghoriad.

Glyn Roberts

Dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts: "Mae teitl yr ymgynghoriad yn ymddangos yn ddiniwed, ond mae’n cuddio mwy na hanner cant o gynigion, ac mae llawer ohonynt yn ddadleuol iawn i ystod eang o randdeiliaid. Felly, rydym wedi cyflwyno cais Rhyddid Gwybodaeth i Lywodraeth Cymru ac rydym yn gobeithio y bydd yr ymateb yn darparu’r  eglurhad angenrheidiol."

Mae’r ymgynghoriad “Bwrw ymlaen â rheoli adnoddau naturiol Cymru yn gynaliadwy” yn rhoi sylw i feysydd mor amrywiol â choedwigaeth, mynediad cyhoeddus i dir a dyfrffyrdd, pysgota, draenio, amaethyddiaeth a bywyd gwyllt - i enwi ond ychydig, gyda chynigion penodol yn cynnwys caniatáu beiciau mynydd ar bob llwybr cyhoeddus, caniatáu pobl i wersylla a chwarae gemau lle bynnag y maent yn dymuno ar dir mynediad agored, gan leihau'r amgylchiadau y gellir diogelu’r cyhoedd pan fydd coed yn pydru ac yn beryglus, a dirwyon yn y fan a'r lle ar gyfer gyrwyr ceir sy’n taflu sbwriel.

"Ac os nad yw un o'r pedwar hyn yn peri pryder neu ddryswch i unigolyn, mae yna bumdeg un arall i'w dewis, gyda digon o gyfle i godi pryderon ymhlith pob rhanddeiliad, o ffermwyr i naturiolwyr, o bysgotwyr i goedwigwyr. Yr hyn sy'n ei wneud yn waeth yw na cafodd rhanddeiliaid unrhyw rybudd o gwbl y byddai ymgynghoriad mor eang yn cael ei gyhoeddi.

"Yn flaenorol, byddai llawer o'r cynigion unigol wedi cael sylw mewn ymgynghoriadau unigol, yn hytrach na chael eu 'pecynnu' mewn i un casgliad enfawr o gynigion gyda theitl mor ddiniwed.

"Wedi'r cyfan, byddai newid pob llwybr cerdded yng Nghymru i lwybr beicio neu lwybr ceffyl yn cynrychioli newid enfawr i ganrifoedd o gyfraith sefydledig sy’n berthnasol i hawliau tramwy. Yn sicr, dylai cynnig o'r fath gael ei gynnwys mewn dogfen ar wahân, yn hytrach na chael ei gladdu fel 'Cynnig 10' ar dudalen 44 o ddogfen 98 tudalen," ychwanegodd Mr Roberts.

Mae UAC yn annog aelodau i ymateb i'r ymgynghoriad cyn y dyddiad cau ar Fedi 30 drwy eu swyddfa sirol leol i sicrhau bod eu sylwadau yn cael ei gynnwys yn ymateb swyddogol yr Undeb i'r cynigion.

Llifogydd yn Nyffryn Dysynni yn gadael tir fferm gynhyrchiol yn ddiwerth

 

Mae lefel uchel o dd?r mewn ffosydd draenio yn nyffryn Dysynni a’r afon Dysynni wedi arwain at fethu defnyddio tir fferm gan ei adael yn hollol ddiwerth.

Mae cangen Meirionnydd o Undeb Amaethwyr Cymru wedi bod yn cynorthwyo ffermwyr er mwyn datrys y broblem ar frys ac maent wedi trefnu cyfarfod brys ar y safle gyda’r AS lleol Liz Saville Roberts.

Y tir fferm sy’n ddiwerth oherwydd y llifogydd

Dyffryn Dysynni yw un o’r nifer o’r Ardaloedd Draenio Mewnol ym Meirionnydd a weinyddir gan Gyfoeth Naturiol Cymru, lle mae ffermwyr yn talu cyfradd draenio statudol ar gyfer eu tir.

Mae UAC wedi bod yn rhan o faterion draenio ers nifer o flynyddoedd, ac mi roedd Huw Jones, Swyddog Gweithredol Sir Feirionnydd ar flaen y gad yn pwysleisio bod angen gweithredu ar frys er mwyn ymdrin â’r llif gwan yn y ffosydd, yr angen i glirio tyfiant y chwyn a’r planhigion, clirio a threillio nifer o ardaloedd ar hyd y dyffryn.

“Sylweddolais fod angen gweithredu ar frys.  Mae nifer o’n haelodau wedi son am eu pryderon yma yn swyddfa’r sir, a dyna pam rwyf wedi codi’r pryderon gyda’r Aelod Seneddol lleol.

“Rwy’n falch o fedru dweud wrth ein haelodau bod llythyr wedi cael ei anfon o swyddfa Liz Saville Roberts yn gofyn i Gyfoeth Naturiol Cymru ymdrin â’r problemau sy’n wynebu ein haelodau, gan gynnwys rhestr faith o bethau sydd angen eu gwneud yn syth,” dywedodd Huw Jones.

Mae Mr Jones eisoes wedi ymweld â’r safleoedd ac mae’r sefyllfa wedi arwain at dd?r yn cronni mewn nifer o gaeau, ac o ganlyniad, mae’r tir fferm gynhyrchiol yn ddiwerth.  Mae yna dystiolaeth glir hefyd o ddirywiad amgylcheddol.

Mae angen gweithredu ar frys er mwyn ymdrin â’r llif gwan yn y ffosydd, yr angen i glirio tyfiant y chwyn a’r planhigion, clirio a threillio nifer o ardaloedd ar hyd y dyffryn
 

“Mae’n effeithio ar y rhan fwyaf o ffermwyr yn y dyffryn ac mae UAC yn gwerthfawrogi bod gan Ddysynni system ddraenio unigryw sydd wedi cael ei ddisgrifio fel campwaith peirianneg y 19eg ganrif.  Ond mae’n hanfodol bod y system yn cael ei chynnal a chadw yn rheolaidd.  Mae’n glir bod yna ddiffygion difrifol yn y system, sydd wedi arwain at y sefyllfa yma heddiw,” dywedodd Mr Jones.

Ychwanegodd bod yr Undeb yn deall bod y gwaith o gynnal a chadw wedi dechrau, ond mae angen sicrwydd y bydd yn cael ei weithredu’n drwyadl.

“Rydym wedi gofyn am weithredu rhaglen cynnal a chadw ddwywaith y flwyddyn a dyma fu’r achos dros y blynyddoedd diwethaf.  Bydd y gwaith yn cael effaith fawr ar fywoliaeth ein haelodau ac mae’r UAC yn glir bod yn rhaid monitro'r gwaith dros yr wythnosau nesaf yn ofalus, a bod barn ffermwyr yn cael ei gymryd i ystyriaeth.  Gellir gwrthdroi'r niwed a achosir gan y llifogydd, gan olygu y gallai ein haelodau wneud defnydd llawn o’u caeau unwaith eto, ond mae hynny’n dibynnu’n llwyr ar y gwaith yn cael ei wneud yn gywir a cyn gynted a phosib,” ychwanegodd Mr Jones.

Aelodau UAC yn cyfarfod a’r AS lleol Liz Saville Roberts er mwyn trafod llifogydd ar dir fferm yn Nyffryn Dysynni.

 

 

 

 

 

 

Cydnabod plant Ynys Môn am fod yn blant prysur

Cafodd y plant a gymerodd rhan yng nghystadlaethau ysgolion cynradd UAC Ynys Môn, a noddwyd gan Katie Hayward o Felin Honeybees, eu cydnabod am fod yn blant prysur yn sioe Ynys Môn.

Cyflwynwyd gwobrau i enillydd categori blwyddyn 0-2 a gynlluniodd cerdyn pen-blwydd yn cynnwys gwenynen, blwyddyn 3 i 4 fu’n brysur yn tynnu llun o ardd yn cynnwys gwenynen a blwyddyn 5 i 6 fu’n ysgrifennu stori fer o dan y teitl ‘The Busy Bee’. 

Plant ysgol Ynys Môn sydd wedi bod yn brysur yn creu lluniau a straeon byr ar fywyd gwenyn (ch-dd) Twm Williams, Erin Rowlands, Ela Edwards, Arwen Pollock, Rebecca Williams a Lena Clode.

Dywedodd Swyddog Gweithredol UAC Ynys Môn Heidi Williams: “Rwyf am ddiolch i’r holl blant sydd wedi cymryd rhan yn ein cystadleuaeth, ac i Felin Honeybees wrth gwrs am noddi’r rhosglymau.  Roedd yn llwyddiant ysgubol unwaith eto ac rwy’n llongyfarch y plant am wneud mor dda.”

Hefyd, bu swyddogion yr Undeb yn cyflwyno rhosglymau UAC i’r holl dywyswyr ifanc y da byw dros gyfnod y sioe.

Tegan Cairns, enillydd dosbarth tywyswyr ifanc y da byw

“Rydym wedi bod yn gwneud hyn ers deng mlynedd.  Mae’n sicrhau, bod plentyn yn cael rhosglwm i fynd adref hyd yn oed os nad ydynt wedi ennill gwobr,” dywedodd Heidi Williams.