Cydnabod plant Ynys Môn am fod yn blant prysur

Cafodd y plant a gymerodd rhan yng nghystadlaethau ysgolion cynradd UAC Ynys Môn, a noddwyd gan Katie Hayward o Felin Honeybees, eu cydnabod am fod yn blant prysur yn sioe Ynys Môn.

Cyflwynwyd gwobrau i enillydd categori blwyddyn 0-2 a gynlluniodd cerdyn pen-blwydd yn cynnwys gwenynen, blwyddyn 3 i 4 fu’n brysur yn tynnu llun o ardd yn cynnwys gwenynen a blwyddyn 5 i 6 fu’n ysgrifennu stori fer o dan y teitl ‘The Busy Bee’. 

Plant ysgol Ynys Môn sydd wedi bod yn brysur yn creu lluniau a straeon byr ar fywyd gwenyn (ch-dd) Twm Williams, Erin Rowlands, Ela Edwards, Arwen Pollock, Rebecca Williams a Lena Clode.

Dywedodd Swyddog Gweithredol UAC Ynys Môn Heidi Williams: “Rwyf am ddiolch i’r holl blant sydd wedi cymryd rhan yn ein cystadleuaeth, ac i Felin Honeybees wrth gwrs am noddi’r rhosglymau.  Roedd yn llwyddiant ysgubol unwaith eto ac rwy’n llongyfarch y plant am wneud mor dda.”

Hefyd, bu swyddogion yr Undeb yn cyflwyno rhosglymau UAC i’r holl dywyswyr ifanc y da byw dros gyfnod y sioe.

Tegan Cairns, enillydd dosbarth tywyswyr ifanc y da byw

“Rydym wedi bod yn gwneud hyn ers deng mlynedd.  Mae’n sicrhau, bod plentyn yn cael rhosglwm i fynd adref hyd yn oed os nad ydynt wedi ennill gwobr,” dywedodd Heidi Williams.