Llifogydd yn Nyffryn Dysynni yn gadael tir fferm gynhyrchiol yn ddiwerth

 

Mae lefel uchel o dd?r mewn ffosydd draenio yn nyffryn Dysynni a’r afon Dysynni wedi arwain at fethu defnyddio tir fferm gan ei adael yn hollol ddiwerth.

Mae cangen Meirionnydd o Undeb Amaethwyr Cymru wedi bod yn cynorthwyo ffermwyr er mwyn datrys y broblem ar frys ac maent wedi trefnu cyfarfod brys ar y safle gyda’r AS lleol Liz Saville Roberts.

Y tir fferm sy’n ddiwerth oherwydd y llifogydd

Dyffryn Dysynni yw un o’r nifer o’r Ardaloedd Draenio Mewnol ym Meirionnydd a weinyddir gan Gyfoeth Naturiol Cymru, lle mae ffermwyr yn talu cyfradd draenio statudol ar gyfer eu tir.

Mae UAC wedi bod yn rhan o faterion draenio ers nifer o flynyddoedd, ac mi roedd Huw Jones, Swyddog Gweithredol Sir Feirionnydd ar flaen y gad yn pwysleisio bod angen gweithredu ar frys er mwyn ymdrin â’r llif gwan yn y ffosydd, yr angen i glirio tyfiant y chwyn a’r planhigion, clirio a threillio nifer o ardaloedd ar hyd y dyffryn.

“Sylweddolais fod angen gweithredu ar frys.  Mae nifer o’n haelodau wedi son am eu pryderon yma yn swyddfa’r sir, a dyna pam rwyf wedi codi’r pryderon gyda’r Aelod Seneddol lleol.

“Rwy’n falch o fedru dweud wrth ein haelodau bod llythyr wedi cael ei anfon o swyddfa Liz Saville Roberts yn gofyn i Gyfoeth Naturiol Cymru ymdrin â’r problemau sy’n wynebu ein haelodau, gan gynnwys rhestr faith o bethau sydd angen eu gwneud yn syth,” dywedodd Huw Jones.

Mae Mr Jones eisoes wedi ymweld â’r safleoedd ac mae’r sefyllfa wedi arwain at dd?r yn cronni mewn nifer o gaeau, ac o ganlyniad, mae’r tir fferm gynhyrchiol yn ddiwerth.  Mae yna dystiolaeth glir hefyd o ddirywiad amgylcheddol.

Mae angen gweithredu ar frys er mwyn ymdrin â’r llif gwan yn y ffosydd, yr angen i glirio tyfiant y chwyn a’r planhigion, clirio a threillio nifer o ardaloedd ar hyd y dyffryn
 

“Mae’n effeithio ar y rhan fwyaf o ffermwyr yn y dyffryn ac mae UAC yn gwerthfawrogi bod gan Ddysynni system ddraenio unigryw sydd wedi cael ei ddisgrifio fel campwaith peirianneg y 19eg ganrif.  Ond mae’n hanfodol bod y system yn cael ei chynnal a chadw yn rheolaidd.  Mae’n glir bod yna ddiffygion difrifol yn y system, sydd wedi arwain at y sefyllfa yma heddiw,” dywedodd Mr Jones.

Ychwanegodd bod yr Undeb yn deall bod y gwaith o gynnal a chadw wedi dechrau, ond mae angen sicrwydd y bydd yn cael ei weithredu’n drwyadl.

“Rydym wedi gofyn am weithredu rhaglen cynnal a chadw ddwywaith y flwyddyn a dyma fu’r achos dros y blynyddoedd diwethaf.  Bydd y gwaith yn cael effaith fawr ar fywoliaeth ein haelodau ac mae’r UAC yn glir bod yn rhaid monitro'r gwaith dros yr wythnosau nesaf yn ofalus, a bod barn ffermwyr yn cael ei gymryd i ystyriaeth.  Gellir gwrthdroi'r niwed a achosir gan y llifogydd, gan olygu y gallai ein haelodau wneud defnydd llawn o’u caeau unwaith eto, ond mae hynny’n dibynnu’n llwyr ar y gwaith yn cael ei wneud yn gywir a cyn gynted a phosib,” ychwanegodd Mr Jones.

Aelodau UAC yn cyfarfod a’r AS lleol Liz Saville Roberts er mwyn trafod llifogydd ar dir fferm yn Nyffryn Dysynni.