UAC Sir Gaerfyrddin yn edrych ymlaen at ddiwrnod agored parc bwyd

Mae cangen Sir Gaerfyrddin o Undeb Amaethwyr Cymru yn edrych ymlaen at ddiwrnod agored gyda Bwydydd Castell Howell yn Cross Hands gyda’r bwriad o godi arian ar gyfer Apêl Sir Gâr,  Sir Nawdd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru 2017.

Bydd y diwrnod agored cyntaf erioed yn cael ei gynnal ar ddydd Sadwrn 16 Medi 2017 gan ddechrau am 6.30yh, a bydd tocynnau ar gael o swyddfa UAC yng Nghaerfyrddin (01267 237974).

Gall y rhai sy'n ymuno â'r digwyddiad edrych ymlaen at daith o amgylch y busnes rhwng 6.30yh a 7.30yh a fydd yn dangos oddeutu 9,000 o linellau cynnyrch a’r offer sy’n torri a thrin y cig lleol sy’n cael ei brosesu yno.

Castell Howell yw un o’r prif gyflogwyr yn Sir Gaerfyrddin, yn cyflogi 670 ac yn gyfrifol am greu trosiant o £110 miliwn.

Mae’r tocyn (£15 y person) yn cynnwys, unai Mochyn Rhost Celtic Pride, rôl cig eidion Celtic Pride, ci poeth neu byrger Celtic Pride traddodiadol.  Bydd band lleol NEWSHAN yn diddanu, tynnu’r gelyn a bar trwyddedig.

Bydd Dan Biggar, chwaraewyr rygbi’r Ospreys, Cymru a’r Llewod a llysgennad y brand Celtic Pride, yn ogystal â nifer o chwaraewyr y Scarlets yn ymuno yn y digwyddiad hefyd.

Mae’r ocsiwn eisoes yn cynnwys crys y Llewod Prydeinig a Gwyddelig wedi cael ei arwyddo, crys y Southern Kings wedi ei arwyddo, mae yna addewid o grys South Africa Guinness Pro 14, y trelar cario stoc gyda tho CLH/UAC a bocs arbennig o sigârs Ciwbaidd eisoes wedi cyrraedd!

Dywedodd Joyce Owens, cynorthwyydd gweinyddol swyddfa UAC yng Nghaerfyrddin, ac sy’n cynorthwyo gyda’r trefniadau: “Mae’n argoeli i fod yn ddigwyddiad cyffrous sy’n rhoi cyfle i ni godi arian hollbwysig ar gyfer cronfa Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru Sir Gaerfyrddin. Rwy’n gobeithio gweld nifer o’n haelodau a ffrindiau’r Undeb yn bresennol ar y diwrnod.”

Dywedodd Sylfaenydd a Rheolwr Gyfarwyddwr Bwydydd Castell Howell a Llywydd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru 2017 Brian Jones: “Rwy’n hynod o falch cael croesawu pawb i’r Parc Bwyd yn Cross Hands. Gobeithio bydd y rhai hynny sy’n ymweld yn gweld y lle’n ddiddorol ac edrychaf ymlaen at weld nifer ohonoch yna.”

Ychwanegodd Mr Jones ei fod yn hynod o falch o’r cig lleol rhagorol sy’n cael ei brosesu yn y Parc Bwyd o dan logo Celtic Pride.

“Mae ffermydd lleol yn cynhyrchu anifeiliaid o’r ansawdd gorau ac rwy’n si?r bydd ganddynt ddiddordeb mewn gweld y cyfleusterau prosesu cig.”

Diwedd