Siec o £500 ar gyfer Ymchwil Canser Cymru

Mae Lowri Thomas, aelod o Undeb Amaethwyr Cymru, cangen Caernarfon wedi cyflwyno siec o £500 i Ymchwil Canser Cymru yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Cafodd yr arian ei godi yn ystod wythnos Brecwast Fferm UAC ym Meillionydd Bach, Rhoshirwaun ym mis Ionawr.

Dywedodd Swyddog Gweithredol UAC Sir Gaernarfon Gwynedd Watkin: “Bu’r teulu oll gan gynnwys Huw Thomas (g?r Lowri) a’i frawd Dei yn rhan allweddol o’r ymdrech arbennig i godi dros £2,000, ac mi roddwyd £500 ohono i Ymchwil Canser Cymru.  Ychwanegwyd gweddill yr arian at elusen ddewisedig y Llywydd sef BHF Cymru.  Rwy’n hynod o ddiolchgar iddynt am gynnal y brecwast ac am godi swm rhagorol o arian.”

Mae canser yn effeithio cymaint o deuluoedd ar draws Cymru, ac wrth siarad â phobl, mae bron pawb naill ai wedi dioddef o ganser ei hunain neu yn adnabod rhywun sydd yn neu wedi dioddef o ganser.  Mae pawb yn gwerthfawrogi'r gwaith ardderchog sydd yn cael ei wneud gan Ymchwil Canser Cymru, ac rydym yn falch o fedru cyfrannu at eu gwaith,” dywedodd Lowri Thomas.

“Rydym am ddiolch i bawb a ddaeth i’r brecwast, ac i’r rhai hynny fethodd fod yn bresennol ar y diwrnod ond a gyfrannodd yn ariannol neu wrth noddi’r bwyd fel y gwnaeth nifer o fusnesau lleol,” ychwanegodd.

Wrth dderbyn y siec, dywedodd Rheolwr Cyllid Ymchwil Canser Cymru Enid Lewis: “Mae Ymchwil Canser Cymru am ddiolch i Lowri Thomas a’i theulu am y rhodd caredig yma.  Mae rhoddion fel hyn yn cefnogi prosiectau arloesol sy’n anelu at rwystro canser, gwella triniaethau a gobeithio dod a ni un cam yn agosach at ganfod gwellhad.  Rydym yn falch dweud bod yr holl arian sy’n cael ei godi yn cael ei wario ar ymchwil canser mewn ysbytai a phrifysgolion yng Nghymru – ymchwil sydd ond yn bosib oherwydd y gefnogaeth wych rydym yn ei dderbyn ar draws Cymru.”

Mae Lowri Thomas am ddiolch i’r canlynol am noddi cynnyrch y brecwast: Llaethdy Ll?n; Carwyn a Carys Evans, Botwnnog; Wyau Ll?n Pencaerau; Hirdre Isaf’s Happy Eggs o Dudweiliog; Hufenfa De Arfon; Cig Ceirion, Sarn; Clwc Clwc, Rhoshirwaen; R H Evans (Hywel Jones) Pwllheli; Cigydd A Ll ac H Williams, Edern; Londis, Llanbedrog; Becws Islyn, Aberdaron; Ian Fruit & Veg; Peredur Jones, Yr Ynys, Mynytho; Wynnstay, Penygroeslon; Asda Pwllheli; Spar, Pwllheli; Garej a Siop Morfa Nefyn; Llaeth y Llan, Llanefydd; Welsh Lady, Y Ffôr.