Anrhydeddu CFfI Cymru am wasanaethau i amaethyddiaeth

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi anrhydeddu CFfI Cymru gyda’i gwobr allanol am wasanaethau i amaethyddiaeth yn ystod Sioe Frenhinol Cymru.

Mae Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru yn fudiad ieuenctid gwirfoddol sy'n gweithredu yn ddwyieithog ledled Cymru wledig.

Ar hyn o bryd, mae dros 5,000 o bobl ifanc rhwng 10 a 26 mlwydd oed yn aelodau o’r mudiad, gyda’r cyfan yn aelodau o rwydwaith o 157 o glybiau CFfI a deuddeg Ffederasiwn Sirol.

Wrth gyflwyno’r wobr, dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts: “Mae’n bleser cyflwyno’r wobr i CFfI Cymru.  Maent yn sefydliad deinamig ac yn gwneud llawer iawn dros ein hiaith Gymraeg drwy weithredu’n ddwyieithog ar gyfer ein pobl ifanc gwledig.

Nid oes modd canmol gormod ar waith y CFfI, maent yn cynorthwyo ac yn cefnogi pobl ifanc i ddod yn ffermwyr llwyddiannus, unigolion hyderus cyfrifol sy’n cyfrannu at yr economi. Mi fyddai’n braf cymryd brwdfrydedd y CFfI a’i drosglwyddo i’n trefi a’n dinasoedd mawr, mae’n si?r y byddai’n fodd o waredu nifer o’n problemau cymdeithasol.”

 

Diwedd