Cyn Is Lywydd UAC yn cael ei anrhydeddu gyda gwobr fewnol am wasanaethau i amaethyddiaeth

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi anrhydeddu cyn Is Lywydd UAC Brian Walters gyda gwobr fewnol yr Undeb am wasanaethau i amaethyddiaeth er mwyn diolch iddo am yr hyn mae wedi ei wneud dros y diwydiant.

Ar ôl 20 mlynedd o wasanaeth ffyddlon i’r Undeb yn lleol ac yn genedlaethol, ymddeolodd Brian Walters fel Is Lywydd UAC ym mis Mehefin.

Mae Brian, sy’n gefnogwr angerddol ac ymroddedig o UAC wedi bod yn aelod ers iddo ddechrau ffermio. Bu’n is gadeirydd sir o 1995 hyd nes 1997, ac yna bu’n gadeirydd y sir am ddwy flynedd.  Roedd yn gyn gadeirydd o bwyllgor llaeth cangen Caerfyrddin ym 1995.  Bu hefyd yn gadeirydd y pwyllgor llaeth a chynnyrch llaeth canolog yr Undeb o 1996 i 2000.  Bu’n is lywydd UAC ers 2000.

Bu’n gynrychiolydd ardal ar Fwrdd De Cymru Milk Marque ac yna’n gynrychiolydd rhanbarth ar Fwrdd First Milk hyd nes 2002.  Cynrychiolodd Brian yr Undeb ar Gyngor CFfI a Gr?p Llywio Organig.  Mae wedi cyflwyno tystiolaeth ar TB mewn gwartheg i Bwyllgor Amaeth T?’r Cyffredin ac i Bwyllgor yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae Brian wedi actio yn y gr?p actio lleol am 20 mlynedd ac yn cyflwyno cyngherddau lleol.  Mae hefyd yn siaradwr gwadd mewn ciniawau.  Yn ystod ei amser gyda UAC mae wedi rhoi nifer o gyfweliadau ar y teledu ac ar y radio yng Nghymraeg a Saesneg ar bynciau amrywiol ar gyfer Radio Cymru, Radio Wales a Radio 5 Live, yn ogystal â chymryd rhan ar ‘Farming Today’ Radio 4 a rhaglen Jeremy Vine ar Radio 2, yn ogystal â nifer o orsafoedd radio lleol.

Wrth gyflwyno’r wobr ar nos Fercher wythnos y Sioe Frenhinol (Gorffennaf 26), dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts: “Rwy’n diolch i Brian o waelod calon am yr hyn y mae wedi ei wneud i UAC, y diwydiant amaethyddol a’n heconomi Cymreig.  Mae ei ymroddiad a’i wasanaeth i’r Undeb ac amaethyddol wedi bod tu hwnt o werthfawr a diolchaf iddo am bopeth.”