Ydych chi’n byw ar y cyfryngau cymdeithasol? Dangoswch pam bod #AmaethAmByth yn y Sioe Frenhinol

Rheolwr Marchnata ac Aelodaeth Teleri Fielden

Yw blogio, Snapchat, Instagram, Facebook a Twitter yn rhan hanfodol o’ch bywyd? Diolch i Undeb Amaethwyr Cymru, bydd modd i chi gymryd mantais o Wifi am ddim a medru parhau i fwynhau’r cyfryngau cymdeithasol ar faes y Sioe Frenhinol eleni.

Unwaith eto, mae UAC yn noddi’r wifi am ddim, ac yn deall pa mor bwysig yw hi i gael mynediad at y rhyngrwyd ac yn gofyn i bawb sy’n mynd i’r sioe rannu eu lluniau a’u profiadau ar-lein.

Dywedodd Rheolwr Marchnata ac Aelodaeth UAC Teleri Fielden: “Rwy’n edrych ymlaen at y sioe, ac yn gobeithio bydd pawb yno yn mwynhau’r Wifi am ddim. Bellach mae pawb eisiau ac angen mynediad i’r rhyngrwyd a ni fydd rhaid poeni am beidio cael Wifi yn sioe amaethyddol fwyaf Cymru.

“Mae technoleg ddigidol wedi trawsnewid cymaint o fywydau mewn meysydd arall, ac mae’n rhaid i ni fanteisio ar hyn yn amaethyddiaeth hefyd. Efallai nad yw’n cyffroi rhai cenedlaethau ond mae’n rhywbeth naturiol iawn i ffermwyr ifanc.

“Felly rhannwch eich lluniau a thrydar #AmaethAmByth gyda ni yn ystod wythnos y sioe ar Twitter @FUW_UAC a Facebook @FarmersUnionofWales. Bydd cyfle i ennill par o docynnau am ddim i Ffair Aeaf Frenhinol Cymru am y trydar a’r lluniau gorau sy’n dangos pam bod #AmaethAmByth”.