UAC yn edrych ymlaen at brysurdeb Sioe Frenhinol Cymru

Llywydd UAC Glyn Roberts

Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn edrych ymlaen at wythnos brysur o hyrwyddo #AmaethAmByth yn Sioe Frenhinol Cymru (24-27 Gorffennaf) ac wedi trefnu cyfres o seminarau a grwpiau trafod, gan ganolbwyntio ar y prif faterion sy’n wynebu’r diwydiant.

“Mae Sioe Frenhinol Cymru, nid yn unig yn gyfle i gymdeithasu, ymlacio a gweld ffermio, da byw a chynnyrch Cymru ar eu gorau, mae hefyd yn gyfle i ffermwyr ofyn am gyngor gan y llu o gyrff a gynrychiolir yno.

“Mae UAC yn cymryd agwedd ymarferol a llawn gwybodaeth yn y sioe eleni, gan ganolbwyntio ar faterion megis troseddau gwledig, rôl merched mewn amaethyddiaeth, ffermwyr ifanc ac olyniaeth, cysylltedd digidol, gofal cymdeithasol ac iechyd meddwl o fewn cymunedau gwledig," meddai Llywydd UAC Glyn Roberts.

“Gyda sylw pawb yn troi tuag at faes y sioe yn Llanelwedd, mae’r Undeb yn cychwyn yr wythnos gyda seminar ‘agwedd rhagweithiol’ tuag at atal troseddau gwledig ar ddydd Llun Gorffennaf 24 am 1.00yp ym mhafiliwn UAC.

"Bob blwyddyn mae troseddau cefn gwlad yn costio miliynau o bunnoedd ac yn achosi pryder i ffermwyr a busnesau gwledig. Mae'r seminar yn anelu at bwysleisio’r materion, gwella dealltwriaeth a gwella diogelwch cymunedol a gobeithiwn y gall llawer ohonoch ymuno â ni ar y dydd,” meddai Rheolwr Marchnata ac Aelodaeth UAC Teleri Fielden.

“Mae’r siaradwyr yn cynnwys Heddwas Troseddau Gwledig Heddlu Dyfed Powys Matthew Howells, Rheolwr Tîm Troseddau Gwledig Heddlu Gogledd Cymru Rob Taylor, Cyfarwyddwr Cysylltiadau Amaethyddol Barclays Kathryn Whitrow, a fydd yn siarad am ddiogelwch seiber a Rheolwr Gyfarwyddwr Plant-I Jason McAuley yn sôn am rai’r o’r atebion ymarferol i droseddau gwledig.  Olivia Midley, Pennaeth Newyddion a Busnes y Farmers’ Guardian fydd yn cadeirio’r seminar.

Caiff y sylw ei droi at bobl ifanc y diwydiant ar nos Fawrth y sioe (Gorffennaf 25) pan fydd UAC yn cynnal digwyddiad rhwydweithio ar gyfer ffermwyr ifanc (o dan 40 mlwydd oed) rhwng 4 a 6yh.

Rheolwr Marchnata ac Aelodaeth UAC Teleri Fielden

Yn ymuno gyda’r sesiwn rhwydweithio fydd Jon MacCalmont, cynorthwy-ydd ymchwil mewn Bio-ynni, IBERS; Ruth Wonfor, Darlithydd mewn Gwyddor Anifeiliaid, IBERS; Sarah Lewis, Rheolwr Rhaglen Dysgu a Datblygu Gydol Oes Cyswllt Ffermio-Lantra; Einir Haf Davies, Rheolwr Datblygu a Mentora Cyswllt Ffermio; Alison Harvey, Rheolwr Amaethyddol ?yn, Dunbia; Julie Finch, Rheolwr Polisi a Strategaeth Gorfforaethol HCC; Delyth Davies, Pennaeth Datblygu Llaeth Cymru, Dairy Co ac Andy Middleton, Aelod Bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru.

Dywedodd Swyddog Polisi UAC Charlotte Priddy sy’n trefnu’r digwyddiad rhwydweithio: “Mae hyn yn gyfle gwych i’n pobl ifanc ddod ynghyd, mwynhau bwyd Cymreig gwych a sgwrsio gyda chyrff y diwydiant a ffermwyr arall mewn awyrgylch anffurfiol. Rwy’n gobeithio gweld nifer ohonoch yn bresennol ar y noson ac edrychaf ymlaen at drafod materion yn ymwneud â #AmaethAmByth.”

Rhwng 4-5yp ar y prynhawn dydd Mercher (Gorffennaf 26), bydd UAC yn cynnal grwp trafod yn canolbwyntio ar y newid yn rôl menywod mewn amaethyddiaeth. Bydd y siaradwyr yn cynnwys y Farwnes Eluned Morgan, ffermwraig ceirw o Frycheiniog Kath Shaw, y ffermwraig o Feirionnydd ac aelod o Fwrdd HCC Rachael Davies a siaradwr gwadd cyfrinachol i’w ddatgelu ar y dydd.

“Prif bwrpas y seminar yw trafod cyfraniad merched i amaethyddiaeth a'u rôl ehangach wrth lunio'r diwydiant. Rwyf wir yn edrych ymlaen at glywed am eu gweledigaeth ar gyfer menywod mewn amaethyddiaeth yn y dyfodol, yn ogystal â'u profiad fel menyw yn y diwydiant” meddai Llywydd UAC Glyn Roberts.

Swyddog Polisi UAC Charlotte Priddy

Dydd Iau o’r sioe (Gorffennaf 27) bydd yr Undeb yn edrych ar ba fath o gymorth sydd ar gael yn y cymunedau gwledig i’r rhai sy’n dioddef o broblemau iechyd meddwl ac yn croesawu Gareth Davies o Tir Dewi a David Williams, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Cymru Farming Community Network i’w pafiliwn.

Mae’r seminar, 'Mae'n iawn i ddweud' - rhoi sylw ar iechyd meddwl yn y gymuned amaethyddol' yn dechrau am 11yb ac yn agored i bawb.

“Ynghanol cyfnodau drwg, mae ffermwyr yn dueddol o gario ymlaen gan anwybyddu problemau a chuddio pethau oddi wrth y teulu a ffrindiau; mae nifer yn teimlo’n anghyfforddus yn siarad am eu teimladau.

“Rydym wedi wynebu cyfnodau drwg iawn fel cymuned amaethyddol yn ystod y blynyddoedd gyda TB, ansefydlogrwydd prisiau ac ansicrwydd ynghylch ein dyfodol ar ôl Brexit, mae hyn i gyd yn rhoi straen ar bethau. Ond mae’n bryd torri’r stigma sydd ynghlwm ag iechyd meddwl ac os ydych yn teimlo’n fregus, siaradwch a rhywun.

“Bydd y seminar hwn yn taflu rhywfaint o oleuni ar y cymorth sydd ar gael mewn ardaloedd gwledig, ac rwy'n gobeithio y bydd yn cynnig rhywfaint o arweiniad a sicrwydd i'r rhai sy'n dioddef â phroblemau iechyd meddwl, a'u teuluoedd," ychwanegodd Glyn Roberts.