Cyn Lywydd UAC yn cael ei ethol fel Aelod am Oes yr Undeb

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi ethol cyn Lywydd yr Undeb Emyr Jones fel Aelod am Oes UAC mewn cydnabyddiaeth o’i gyfraniad neilltuol i’r Undeb ac amaethyddiaeth yng Nghymru dros nifer fawr o flynyddoedd.

Mae Mr Jones, a safodd i lawr fel Llywydd UAC yn dilyn 15 mlynedd o wasanaeth ffyddlon i'r sefydliad ar lefel genedlaethol ym mis Mehefin 2015, eisoes wedi derbyn gwobr fewnol yr Undeb am ei wasanaethau i’r diwydiant amaethyddol.

Cafodd yr argymhelliad ei fod yn cael ei wneud yn aelod am oes ei dderbyn yn unfrydol gan Brif Gyngor yr Undeb.

Dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts: “Rwyf bob amser wedi edmygu Emyr am y ffordd yr oedd yn cynrychioli ni gydag urddas ac egni yn ystod cyfarfodydd preifat gyda Gweinidogion a swyddogion Llywodraeth ac mewn digwyddiadau cyhoeddus ledled Cymru yn ystod ei gyfnod yn y swydd. Roedd ganddo dalent gwych i gydnabod y materion sy'n effeithio ar Gymru gyfan, ond ddim yn colli golwg ar y rhai yn nes at adref. Nid oes unrhyw amheuaeth ynghylch faint o feddwl sydd gan Emyr o’r diwydiant, y teuluoedd sy’n ffermio a'n heconomi wledig. Mae'n ffigwr blaenllaw yn y byd amaethyddol ac yn hyrwyddwr gwych o UAC."

Bu Emyr Jones yn Gadeirydd Cangen Meirionnydd o 1998 i 2000 pan gafodd ei ethol i gynrychioli Gogledd Cymru ar bwyllgor cyllid a threfn ganolog yr Undeb.

Cafodd ei ethol yn Is Lywydd cenedlaethol yn 2002, Dirprwy Lywydd yn 2003 ac yn Lywydd yn 2011.

Mae Mr Jones yn briod gyda thri o blant ac mae ganddo bedwar o wyrion.  Yn siaradwr Cymraeg, cafodd ei eni a’i fagu ar y fferm deuluol Rhiwaedog, Rhosygwaliau ger Y Bala.

Mae’r fferm yn ymestyn i 360 acer, gyda 400 acer ychwanegol yn cael eu rhenti, ac yn cynnal buches o 70 o wartheg sugno Duon Cymreig pur a 1,700 o ddefaid magu.

Mae Mr Jones yn aelod blaenllaw o nifer o sefydliadau, yn flaenor yn ei gapel lleol ac yn Gyfarwyddwr Sioe Sir Meirionnydd.

Cafodd ei gyfraniad i amaethyddiaeth ei gydnabod pan gafodd ei wneud yn aelod cyswllt o’r Cymdeithasau Amaethyddol Brenhinol, ac yna derbyniodd yr anrhydedd o Gymrodoriaeth y Cymdeithasau Amaethyddol Brenhinol yn 2001.