Darlledwr enwog o Gymru a’i bodlediad yn ennill Gwobr Goffa Bob Davies UAC

Wrth gydnabod datblygiadau mewn technoleg a’r newid o ran cynulleidfa, roedd Undeb Amaethwyr Cymru yn falch clywed llais cyfarwydd yn ymuno a’r twf cynyddol o bodlediadau ar-lein.

Dei Tomos yw llais newyddion amaethyddol Radio Cymru bob bore (dydd Llun i ddydd Gwener) a dechreuodd ddarlledu ym 1982.  Ymunodd a’r llu o bodlediadau gyda ‘Bwletin Amaeth’ eleni, gan sicrhau bod y newyddion a’r materion amaethyddol diweddaraf i’r rhai hynny sy’n gweithio o fewn y diwydiant amaethyddol ar gael i ystod eang o wrandawyr.

Mae’r Undeb yn gwobrwyo Dei Tomos gyda Gwobr Goffa Bob Davies gan werthfawrogi cyfraniad y podlediad ar-lein.

Mae’r wobr, er cof am ohebydd Farmers Weekly Cymru a fu farw ym mis Tachwedd 2009, yn cael ei gynnig i’r person sydd wedi hyrwyddo proffil cyhoeddus ffermio yng Nghymru.

Mae poblogrwydd podlediadau yn cynyddu, gyda 4.7 miliwn o oedolion yn gwrando ar unrhyw fath o bodlediad yn y DU.  Y ffôn glyfar yw’r ffordd fwyaf poblogaidd o wrando ar bodlediad gyda 66% o oedolion 15 mlwydd oed a hyn yn gwrando ar ei hoff raglen yn y modd yma.

Wrth gyflwyno’r wobr i Dei Tomos, dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts:  “Mae podlediadau wedi gwella darlledu clywedol, yn apelio at y gwrandawyr anhraddodiadol a’r gwrandawyr iau ac yn cysylltu gyda chynulleidfaoedd mewn ffordd nid oes modd i gyfryngau arall wneud.  Felly, mae’n wych clywed bod ‘Bwletin Amaeth’ Dei Tom hefyd ar gael i’w wrando arno eto.

“Mae ei fwletinau radio cynnar bob bore o’r wythnos ar Radio Cymru yn hanfodol ar gyfer ffermwyr trwy Gymru, a rhai hyn yn oed yn dweud drwy’r byd, ond weithiau nid oes modd gwrando arnynt.  Ond, nid yw hyn yn broblem bellach, diolch i’r podlediad ar-lein.  Y cyfan sydd angen nawr yw bod rhaglen hanner awr Dei, ‘Byd Amaeth’ ar ddydd Sadwrn hefyd ar gael ar ffurf podlediad”.