Mae dros 40 o bobl wedi cael eu lladd ar ffermydd y DU eleni yn ôl hysbysiadau marwolaeth gan Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE), gan gynnwys naw yng Nghymru ers mis Ionawr 2020. Mae'r niferoedd yn pwysleisio'r realiti dirdynnol am ba mor beryglus y gall ffermio fod, ac mae Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) yn galw ar y diwydiant i wneud newid a dechrau cymryd diogelwch ar ffermydd o ddifrif.
Dywedodd Dirprwy Lywydd FUW, Ian Rickman: “Mae angen i ni sylweddoli difrifoldeb yr ystadegyn hwn. Mae dros 40 o bobl wedi marw ar ffermydd ledled y DU yn 2020. Dyna dros 40 o deuluoedd sydd wedi colli rhywun annwyl ac sy’n mynd trwy’r trawma, straen a phryder hefyd. Mae'r ffigur yn eithriadol o uwch na'r llynedd a rhaid i ni wneud newidiadau ar ein ffermydd er mwyn lleihau nifer y marwolaethau yn sylweddol.”
Mae FUW, fel rhan o Bartneriaeth Diogelwch Ffermydd Cymru, wedi ymrwymo i dynnu sylw at y ffaith bod heriau Iechyd a Diogelwch difrifol ar ffermydd a thrwy ei waith gyda'r grŵp mae'n anelu at helpu i wella'r sefyllfa ac achub bywydau ar ffermydd.
Mae pob sefydliad yng Nghymru sydd wedi ymrwymo i’r ‘Siarter Iechyd a Diogelwch ar y Fferm’ wedi ymrwymo i: “Cydweithio i wneud ffermio’n ddiogel”.