Bydd y sylw’n cael ei roi ar ddiogelwch ar ffermydd a sut y gall ffermwyr amddiffyn eu hunain a'u busnes mewn gweminar, a gynhelir gan Wasanaethau Yswiriant FUW Ltd yn y Sioe Frenhinol Cymru rithwir. Mae'r digwyddiad, sydd yn agored i bawb, yn cael ei gynnal ddydd Mercher 21 Gorffennaf am 10yb trwy Zoom a bydd yn cael ei gynnal ar wefan digwyddiad Sioe Frenhinol Cymru.
Ymhlith y prif siaradwyr ar y diwrnod mae Tony Succamore, Cyfarwyddwr Gwerthu a Gweithrediadau, Gwasanaethau Yswiriant FUW Ltd; Georgina Davis, Rheolwr Datblygu Busnes (Canolbarth Lloegr), British Engineering Services; cynrychiolydd Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch Christopher Maher ac arbenigwr a hyfforddwr diogelwch fferm, Brian Rees. Yn cadeirio'r weminar mae Dirprwy Lywydd UAC ac aelod o fwrdd Gwasanaethau Yswiriant FUW Ltd. Ian Rickman.