Mae’r ffermwr llaeth o Sir Fôn William Williams, sydd wedi bod yn amaethu un o ffermydd cyngor y sir am fwy na 30 mlynedd, yn dweud mai teuluoedd amaethyddol yw sylfaen ein cymunedau lleol, ac yn hanfodol wrth gynhyrchu bwyd cynaliadwy a hefyd er mwyn lliniaru newid hinsawdd.
Ers yn ifanc mae William wedi gwirioni ar gynhyrchu llaeth, ac yn gofalu am ei fuches odro o 200 yng Nghlwch Dernog Bach, Llanddeusant, sy’n uned 400 erw o dir rhent ac 80 erw o dir a berchnogir yn breifat. “Cefais fy magu ar fferm laeth ac roedd fy nhad yn arfer godro 6 buwch. Fe’m hysbrydolwyd i gychwyn godro cyn gynted ag y medrwn,” meddai William.
Cychwynnodd William gyda dim ond 25 o wartheg godro, gan ehangu’r fuches wrth i’r cwotâu llaeth ddirwyn i ben, ond er gwaetha’r cynnydd mewn niferoedd ar ei fferm, mae’n dweud ei bod mor gynaliadwy ag y medr fod. “Rwyf o’r farn bod ein dull ni o ffermio llaeth yn gynaliadwy iawn. Rydym wedi bod yn amaethu yn y ffordd hon ers mwy na 50 mlynedd. Mae gennym ni fwy o wartheg ar ein daliad bellach ond, mae’n bwysig cofio, ar un adeg roedd mwy o ffermydd yn y cyffiniau hyn, tua 10 ohonynt. Roedd gan bawb lefelau stoc is, gyda buches o tua 10-20 buwch. Mae’r ffermydd hynny bellach wedi’u huno yn unedau mwy o faint, felly mae gennym lai o ffermydd, ond yr un nifer o wartheg yn yr ardal, i’r un nifer o erwau.”
Mae William yn bendant bod y newidiadau mewn amaethyddiaeth wedi cael effaith ar y gymuned leol. “All neb wneud bywoliaeth yn godro 20 o wartheg heddiw. Roedd yn rhaid i ni addasu ac mae hyn wedi newid cymunedau. Mae ysgolion wedi cau hefyd. Roedd 4 ysgol leol arfer bod yma, nawr 1 ysgol fawr sydd. Mae’r ffermydd llai o faint wedi mynd, yn debyg iawn i’r ysgolion bach. Mae’n drist mewn gwirionedd ac yn dangos mai ffermydd teuluol sy’n cadw cymunedau lleol yn fyw, yn ogystal â’n diwylliant a’r iaith Gymraeg,” meddai.