Mae ffermwyr bîff a defaid o Forgannwg Richard Walker a’i bartner Rachel Edwards yn rhedeg Fferm Flaxland - fferm bîff a defaid 120 acer ar gyrion Y Barri ym Morgannwg. Mae’r cwpwl yn dweud y bydd rhaid iddynt gael gwared ar eu gwartheg os na fydd y Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) cyfredol yn cael eu haddasu i ymgorffori argymhellion a wneir gan grwpiau rhanddeiliaid y diwydiant.
Mae Richard a Rachel yn cadw 35 o wartheg magu a 130 o ddefaid magu ac maent ar fin cyrraedd pen eu tennyn.
“Rydyn ni wedi cael sesiwn gyda Cyswllt Ffermio i weld be’ mae’n rhaid i ni ei wneud, a wnaethon nhw ddim dweud dim byd nad oeddem ni’n ei wybod yn barod, heblaw bod gennym ni ddigon o dir i ymdopi â’r slyri rydyn ni’n ei gynhyrchu. Felly ni fyddai’n rhaid i ni allforio. Ond byddai’n rhaid i ni orchuddio un o’n hiardiau ni, sy’n siâp lletchwith, a gorchuddio’r iard rydyn ni’n hel slyri iddo, a gosod storfa slyri. Nid oes gennym ni un ar y funud,” meddai Rachel Edwards.
“Yn mynd yn ôl faint y gwnaeth y sied y gwnaethom ni ei chodi yn ddiweddar gostio, dw i ddim yn meddwl y bydd newid allan o £50,000 os ydyn ni’n trio bodloni gofynion y rheoliadau newydd. Dydi 35 buwch ddim yn dod â’r math yna o bres i chi. O le ydych chi’n cael yr arian? Ac mae’n rhaid ei dalu’n ôl ar y diwedd os ydych chi’n ei fenthyg. Rydyn ni’n edrych ar y plant yn gorfod talu’r hyn rydyn ni’n ei wario yn ei ôl, mae’n debyg. Byddai’n llawer mwy o straen gorfod talu’r arian hwnnw i gyd yn ôl na chael gwared ar y gwartheg.”
“Bydd y rheoliadau hyn yn cael effaith anferth ar fusnes ein fferm. Os nad oes dim yn cael ei wneud i ddiwygio neu ganslo’r hyn rydyn ni’n ei wynebu, ni fydd dewis ond cael gwared a’r gwartheg. Byddai trio cydymffurfio gyda’r rheoliadau’n costio gormod i ni,” meddai Richard Walker.