Dros 40 o bobl wedi marw ar ffermydd - mae'n bryd newid hyn, meddai FUW

Mae dros 40 o bobl wedi cael eu lladd ar ffermydd y DU eleni yn ôl hysbysiadau marwolaeth gan Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE), gan gynnwys naw yng Nghymru ers mis Ionawr 2020. Mae'r niferoedd yn pwysleisio'r realiti dirdynnol am ba mor beryglus y gall ffermio fod, ac mae Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) yn galw ar y diwydiant i wneud newid a dechrau cymryd diogelwch ar ffermydd o ddifrif.

Dywedodd Dirprwy Lywydd FUW, Ian Rickman: “Mae angen i ni sylweddoli difrifoldeb yr ystadegyn hwn. Mae dros 40 o bobl wedi marw ar ffermydd ledled y DU yn 2020. Dyna dros 40 o deuluoedd sydd wedi colli rhywun annwyl ac sy’n mynd trwy’r trawma, straen a phryder hefyd. Mae'r ffigur yn eithriadol o uwch na'r llynedd a rhaid i ni wneud newidiadau ar ein ffermydd er mwyn lleihau nifer y marwolaethau yn sylweddol.”

Mae FUW, fel rhan o Bartneriaeth Diogelwch Ffermydd Cymru, wedi ymrwymo i dynnu sylw at y ffaith bod heriau Iechyd a Diogelwch difrifol ar ffermydd a thrwy ei waith gyda'r grŵp mae'n anelu at helpu i wella'r sefyllfa ac achub bywydau ar ffermydd.

Mae pob sefydliad yng Nghymru sydd wedi ymrwymo i’r ‘Siarter Iechyd a Diogelwch ar y Fferm’ wedi ymrwymo i: “Cydweithio i wneud ffermio’n ddiogel”.

“Y gwir yw bod ffermio yn ddiwydiant peryglus. Rydym yn gweithio gyda pheiriannau, cerbydau, cemegau a da byw a all fod yn beryglus, ar uchder neu'n agos at byllau a seilos.

“Mae hefyd yn eithaf amlwg y gallem fel diwydiant wneud llawer mwy o ran cadw ein hunain ac aelodau’r teulu yn ddiogel. Mae'r niferoedd yn cadarnhau'r digwyddiadau mwyaf trasig, ond nid ydynt yn cynnwys y damweiniau llai, sydd hefyd yn rhybudd.

“Felly plîs, pan fyddwch yn gadael y tŷ yn y bore ac yn dweud ‘gweld chi nes ymlaen’- eich bod yn ei olygu. Rhowch sylw i'r hyn rydych chi'n ei wneud, arafwch ychydig, gwnewch yn siŵr fod y brêc ymlaen a'r injan i ffwrdd pan fyddwch chi'n dod oddi ar y tractor, a gwisgwch helmed pan fyddwch chi ar y cwad a byddwch yn ddiogel.

“Wrth gwrs mae’n haws dweud na gwneud, yn enwedig ar fferm brysur le nad oes byth amser i ymlacio, ond gallai cynllunio’r swydd - beth bynnag y bo hynny - achub bywyd,” ychwanegodd Ian Rickman.