Ffermio yng Nghymru yw’r ateb i newid yn yr hinsawdd meddai FUW

Mae gan ffermio yng Nghymru ran fawr i’w chwarae wrth fynd i’r afael â’r argyfwng newid yn yr hinsawdd ac mae ffermwyr yn barod i wneud yn union hynny, meddai Undeb Amaethwyr Cymru.

Ond wrth gyfeirio at gasgliadau allweddol yr adroddiad ‘Defnydd Tir: Polisïau ar gyfer Sero-Net DU’ diweddaraf gan y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd, rhybuddiodd Llywydd yr Undeb, Glyn Roberts, am beryglon canolbwyntio ar gynhyrchu da byw neu blannu coed yn amhriodol.

Undebau amaethyddol â’r ffermwyr Ifanc yn gwesteio hystings Etholiad Cyffredinol yng Ngogledd Orllewin Cymru

Mae’r ddwy Undeb Amaethyddol a’r Ffederasiynnau Ffermwyr Ifanc lleol wedi dod at eu gilydd yng Ngogledd Orllewin Cymru i sicrhau bod eu haelodaeth yn cael y cyfle i holi ymgeiswyr yn yr Etholiad Cyffredinol mewn cyfres o bedwar cyfarfod hystings yn yr ardal. 

Mae NFU Cymru, Mudiadau Sirol y Ffermwyr Ifanc, ac Undeb Amaethwyr Cymru wedi cyd-weithio i gynnal hystings etholiadol ar gyfer etholaethau Aberconwy, Arfon, Dwyfor Meirionnydd ac Ynys Môn, gan wahodd yr holl ymgeiswyr i fynychu.  

Mae’r digwyddiadau i gymryd lle yn y lleoliadau canlynol:

Arfon – Nos Fercher 27ain o Dachwedd 2109 am 7:30yh yn Neuadd Bentref Caeathro, Caeathro

Ynys Môn – Nos Fawrth 3ydd o Ragfyr 2019 am 5:30yh yng Nghartio Môn, Bodedern

Aberconwy – Nos Fercher y 4ydd o Ragfyr 2019 am 7:30yh yn Ystafell Elwy, Canolfan Glasdir, Llanrwst

Meirionnydd Dwyfor – Nos Iau y 5ed o Ragfyr 2019 am 7:30yh yng Nghlwb Peldroed Porthmadog

UAC yn annog siopwyr i gefnogi busnesau lleol y Nadolig hwn

Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn annog siopwyr i wneud y siopa Nadolig yn lleol ac i gefnogi busnesau gwledig a lleol.

Dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts:  “Gyda’r Nadolig ar y trothwy, rwyf am eich annog chi i feddwl am brynu’r cinio Nadolig mawreddog ac anrhegion y teulu a chyfeillion gan fusnesau gwledig a lleol.

“Siaradwch gyda’r cigydd lleol am gig dros yr Ŵyl ac ewch i’r siop fferm leol i weld beth sydd gyda nhw i gynnig - Rwy'n addo y bydd y rhan fwyaf o'r cynhwysion sydd eu hangen arnoch ar gyfer y cinio Nadolig ar gael yn lleol.

“Mae yna hefyd lawer o siopau bach yn gwerthu crefft Cymreig ac anrhegion a gynlluniwyd yn lleol, ac wrth gwrs mae'r dewis ar gyfer anrhegion bwyd lleol yn helaeth. Mae'n werth cael golwg ar hyn. Bydd ein penderfyniadau bach siopa ni, yn eu tro, yn cael effaith fawr ar ein heconomi wledig.

"Bydd punt sy’n cael ei wario’n lleol yn mynd ymhellach na phunt sy’n cael ei wario mewn siop gadwyn ac mae'n cynnal ein heconomïau gwledig. Drwy gefnogi ein busnesau lleol, nid ydym yn chwyddo cyflog Prif Weithredwr er mwyn prynu cartref gwyliau arall, ond yn hytrach yn helpu mam a thad lleol i roi bwyd ar y bwrdd, mae teulu'n medru talu eu morgais, mae merch fach yn medru cael gwersi dawnsio ac mae bachgen bach yn medru cael crys ei hoff dîm."

Cyfarfod Blynyddol FUW Caernarfon i drafod dyfodol ffermio

Bydd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cangen Sir Gaernarfon o Undeb Amaethwyr Cymru yn cael ei gynnal yng Nghlwb Golff Caernarfon, ar nos Fercher 6 Tachwedd am 7.30 yr hwyr.

Prif bwnc y noson fydd Ffermio Cynaliadwy ac yn cyflwyno’r pwnc fydd Dr Prysor Williams o Brifysgol Bangor a Nia Williams o Gyfoeth Naturiol Cymru. Hefyd yn bresennol bydd Llywydd FUW, Glyn Roberts, a fydd yn rhoi diweddariad ar weithgaredd yr Undeb.

Dros £850 i elusen yn ‘Gwd Thing’

Roedd y cordyn bêls, cap stabal, rigger boots a mwstash allan gyda ffermwyr Sir Benfro wrth i'r Welsh Whisperer ddod i Faenclochog ar gyfer cyngerdd elusennol arbennig.

Trefnwyd y noson gan gangen Sir Benfro o Undeb Amaethwyr Cymru er mwyn codi arian ar gyfer dwy elusen leol anhygoel, The DPJ Foundation, a Farms For City Children yn Nhŷ Ddewi.

Anrhydeddu Dirprwy Lywydd FUW gyda Gwobr FUW – Cymdeithas Sioe Amaethyddol a Helwyr y Siroedd Unedig

Mae Dirprwy Lywydd newydd Undeb Amaethwyr Cymru, Ian Rickman, wedi cael ei gydnabod am ei wasanaethau i amaethyddiaeth yng Nghaerfyrddin gyda Gwobr Undeb Amaethwyr Cymru – Cymdeithas Sioe Amaethyddol a Helwyr y Siroedd Unedig.

Mae wedi bod yn aelod gweithgar o’r undeb am fwy nag 20 mlynedd ac roedd yn gadeirydd sir Caerfyrddin rhwng 2010 a 2012. Bu hefyd yn gadeirydd y Pwyllgor Tir Uchel a Thir Ymylol am bedair blynedd.  Yn 2017, etholwyd Ian yn Is-lywydd FUW ac yn Ddirprwy Lywydd yn 2019.