Mae Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) yn annog y cyhoedd i ddilyn canllawiau’r Llywodraeth a pharchu’r Côd Cefn Gwlad yn sgil yr argyfwng Coronafirws.
Ar ôl derbyn nifer o alwadau gan ffermwyr ynglŷn â’r cyhoedd yn cerdded ar draws tir fferm, gadael gatiau ar agor a gadael i’w cŵn redeg heb dennyn, mae Llywydd yr Undeb, Glyn Roberts, yn annog y cyhoedd i ddilyn y rheolau.
Wrth siarad o’i fferm yng Ngogledd Cymru, dywedodd Mr Roberts: “Nid oes unrhyw amheuaeth - mae llwybrau cyhoeddus a thir mewn sawl ardal boblogaidd ledled Cymru wedi bod ar gau er mwyn osgoi torfeydd yn ymgynnull, a hynny am reswm da iawn.
“Fodd bynnag, er gwaethaf arweiniad clir, rydym yn parhau i dderbyn galwadau gan aelodau bod y cyhoedd yn anwybyddu’r cyfyngiadau, gan adael gatiau ar agor a gadael i’w cŵn redeg yn rhydd ar dir sydd â da byw.
“Beth sy’n rhaid i’r cyhoedd ei gofio pan fyddant yn defnyddio llwybrau cyhoeddus sy’n croesi tir fferm, yw bod nhw’n cerdded trwy gartref a gweithle rhywun. Mae llawer o'n ffermwyr yn y categori bregus ac yn hunan ynysu tra hefyd yn gofalu am eu hanifeiliaid.
“Petai nhw'n mynd yn sâl, fydd neb i ofalu am eu hanifeiliaid a chynhyrchu'r bwyd rydyn ni gyd ei angen.”