Staff Grŵp UAC i wynebu her Welsh 3000 mewn un ymdrech olaf i godi arian ar gyfer elusen iechyd meddwl

Staff Grŵp UAC i wynebu her Welsh 3000 mewn un ymdrech olaf i godi arian ar gyfer elusen iechyd meddwl

Mae staff Undeb Amaethwyr Cymru a Gwasanaethau Yswiriant FUW wedi gosod un her olaf i’w hunain i godi arian hanfodol ar gyfer Sefydliad DPJ, elusen iechyd meddwl yng Nghymru sy’n cefnogi’r sector amaethyddol, a chroesi’r £50,000.

Bydd y tîm o 8, sy’n cael ei arwain gan wirfoddolwr o Sefydliad DPJ a’r mynyddwr brwd Iwan Meirion, yn cychwyn ar her galed 24 awr o hyd ar ddydd Iau 6 Gorffennaf i daclo’r Welsh 3000. Mae’n cynnwys y 15 mynydd yng Nghymru sydd ag uchder o 3000 troedfedd neu fwy, ac mae’r her dros 50km o hyd ac yn golygu dringo bron i 3,700m.

Mae'n daith anodd ar fynyddoedd uchaf Cymru, wedi'i rhannu'n 3 rhan, ac yn gwthio'r tîm i'w eithaf.

Mae’r her yn cychwyn trwy daclo’r Wyddfa, a dilyn llwybr Pyg. Yn fuan iawn bydd y tîm yn ddechrau dringo Crib Goch ac yn taclo tua 400 llath o grib, a fydd yn eu harwain at gopa cyntaf y dydd. Ymlaen wedyn i'r Garnedd a'r Wyddfa wedi hynny, ac yna byddant yn mynd lawr y llethrau serth i’r rheolfa cyntaf yn Nant Peris.

Mae’r ail ran yn dringo i fyny at Elidir Fawr. Er nad yw'n dechnegol anodd, mae'r rhan hon yn cynnwys tua 900m o ddringo parhaus. Ychydig o fyny ac i lawr wedyn – dros Y Garn, Glyder Fawr, Glyder Fach a Thryfan cyn disgyn yn serth i Ddyffryn Ogwen, a Rheolfa 2.

Ac yna daw dringfa fawr olaf y dydd i fyny i Ben Yr Ole Wen, a bydd hon yn profi’r tîm. Wedi’i ddisgrifio’n weddol hawdd wrth fynd i Garnedd Dafydd, a’r Elen, mae’r llwybr wedyn yn mynd â nhw yn ôl i’r brif grib ac i fyny i Garnedd Llewelyn.

Ar ôl cyrraedd y pwynt yma, mae’r dringo wedi gorffen, ond bydd angen taclo Foel Grach, Carnedd Gwenllian a Foel Fras cyn cwblhau'r her!

Ar ôl cyfle i dynnu llun ar frig y copa diwethaf, mae angen treulio awr a hanner yn mynd nôl lawr i’r pwynt gorffen a chasglu.

Yn arwain tîm UAC mae Uwch Swyddog Gweithredol Sirol, Emyr Wyn Davies. Wrth siarad am y digwyddiad codi arian olaf dywedodd: “Mae hyn yn mynd i’n herio ni mewn cymaint o ffyrdd – yn feddyliol ac yn gorfforol wrth gwrs. Fodd bynnag, rydym am roi un hwb enfawr i’n hymdrechion codi arian ar gyfer Sefydliad DPJ a chroesi’r £50,000.

“I’r tîm sy’n ymgymryd â’r her – allai ddim diolch digon i chi am eich dewrder! Gobeithio y bydd llawer ohonoch yn dangos eich cefnogaeth drwy noddi’r tîm. Mae’r gwaith y mae Sefydliad DPJ yn ei wneud bob dydd ar gyfer ein cymunedau amaethyddol a gwledig yn aruthrol. Maent yn achub bywydau bob dydd ac rydyn ni am wneud yn siŵr eu bod nhw’n gallu parhau i wneud hynny.”

Ychwanegodd Llywydd UAC Glyn Roberts: “Yn yr amser y mae Sefydliad DPJ wedi bod yn elusen i ni, maent wedi cynnig cwnsela proffesiynol i 741 o bobl, mae 964 o bobl wedi derbyn hyfforddiant Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl ac Atal Hunanladdiad mewn Amaethyddiaeth ac mae 177 o bobl wedi derbyn hyfforddiant mewn Profedigaeth ac Ymwybyddiaeth o Alar mewn Amaethyddiaeth. Maent wedi cefnogi teuluoedd sydd wedi colli anwyliaid oherwydd hunanladdiad ac wedi gweithio gyda phartneriaid i wella gwasanaethau iechyd meddwl a helpu i atal hunanladdiad.

“Rydyn ni eisiau parhau i’w cefnogi nhw i wneud y gwaith yma ac i achub bywydau – felly i’r tîm sy’n ymgymryd â’r her Welsh 3000, ewch amdani! Mae eich ymdrechion yn aruthrol a byddwn yn eich cefnogi ymhob ffordd posib. I’r rhai ohonoch sydd eisiau cefnogi’r tîm – plîs cyfrannwch yr hyn a allwch gan fod pob ceiniog, pob punt a roddwch yn mynd tuag at yr achos teilwng hwn.”

https://www.fuw.org.uk/cy/amdanon-ni/cyfrannu