O'r chwith, yr Arglwydd Morris, y prif gontractwr adeiladu Guy Walker, y pensaer Gareth Thomas, cyn-lywydd UAC Emyr Jones a'r pensaer Gareth Lewis pan agorodd yn ffurfiol bafiliwn UAC wedi iddo gael ei adnewyddu, yn ystod Sioe Frenhinol Cymru 2012. Dywedodd Emyr Jones ei fod yn benderfyniad hawdd i ddewis yr Arglwydd Morris i agor y pafiliwn yn swyddogol, mae ei waith a'i gefnogaeth i'r Undeb dros y blynyddoedd wedi bod yn anhygoel.

UAC yn talu teyrnged i'w gyn-ddirprwy ysgrifennydd cyffredinol, yr Arglwydd Morris o Aberafan

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi talu teyrnged i'w gyn-ddirprwy ysgrifennydd cyffredinol a'i gynghorydd cyfreithiol, yr Arglwydd Llafur, Barwn Morris o Aberafan sydd wedi marw yn 91 oed.

Roedd yr Arglwydd Morris yn allweddol wrth sefydlu UAC fel llais cydnabyddedig i ffermwyr Cymru a gwasanaethodd fel ei ddirprwy ysgrifennydd cyffredinol ac ymgynghorydd cyfreithiol rhwng 1955 a 1957, fe'i disgrifiodd fel ".. dwy o flynyddoedd mwyaf heriol fy mywyd, addewais i aros yng Nghymru am 3 mis, aeth 3 mis yn flwyddyn, ac aeth blwyddyn yn ddwy". Aeth ymlaen wedyn i gael ei ethol yn AS Llafur Aberafan ym Morgannwg yn Etholiad Cyffredinol 1959.

Cyfeiriodd yr Arglwydd Morris at gyfarfod ym Marchnad Chwilog yn ei lyfr 'Fifty years in Politics and the Law'. Mae'n cofio cannoedd o ffermwyr yn ymgynnull am ddadl enfawr ynglŷn â sefydlu Undeb amaethyddol annibynnol i ffermwyr Cymru, a dywedodd ei fod yn falch ei fod wedi ei drefnu. Mae Llywydd UAC, Glyn Roberts, yn cofio sgwrs gyda'r Arglwydd Morris nifer o flynyddoedd yn ddiweddarach pan ddywedodd mai'r amser mwyaf cyffrous yn ei yrfa wleidyddol a chyfreithiol oedd y cyfarfod gydag aelodau posib yn Chwilog.

Dim ond tri mis roddwyd i’r Undeb yn wreiddiol gan rai beirniaid, meddai'r Arglwydd Morris: "Rhoddodd bleser mawr i mi fynychu'r dathliadau 50 mlynedd yn Y Drenewydd yn 2005, cyfnod dipyn yn hirach na'r tri mis a ragwelwyd ym 1955."

Sefydlodd a golygodd bapur newydd yr Undeb Y Tir, sy'n parhau i gael ei gyhoeddi'n fisol, a theithiodd filoedd o filltiroedd yn sefydlu canghennau'r Undeb a rhoi cyngor cyfreithiol i ffermwyr ledled Cymru.

Dywedodd Llywydd UAC, Glyn Roberts, "Mae UAC, amaethu yng Nghymru a Chymru gyfan wedi colli ffrind ac eiriolwr gwych.”

"Byddwn bob amser yn ddyledus i'r Arglwydd Morris am ei waith cynnar yn helpu i sefydlu UAC ac am aros yn ffrind agos i'r Undeb hyd y diwedd."

Dywedodd Mr Roberts fod yr Arglwydd Morris yn parhau i gyfathrebu gydag UAC ar faterion amaethyddol a godai yn Nhŷ'r Cyffredin trwy gydol ei oes.

Ym 1978, tra'n gwasanaethu fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru, sicrhaodd yr Arglwydd Morris gydnabyddiaeth ffurfiol i UAC gan y Llywodraeth fel Undeb annibynnol sy'n cynrychioli buddiannau ffermwyr yng Nghymru.

Roedd John Morris yn Aelod Seneddol dros Aberafan rhwng 1959 a 2001 a bu'n dal swyddi yn llywodraethau James Callaghan, Harold Wilson a Tony Blair. Rhwng 1974 a 1979 gwasanaethodd fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru a bu'n Dwrnai Cyffredinol rhwng 1997 a 1999. Fe'i gwnaed yn arglwydd am oes yn 2001.

Cyn ei farwolaeth ar 5ed Mehefin 2023 ef oedd yr aelod olaf i oroesi o gabinet Harold Wilson rhwng 1974–76, a'r Cyfrin Gwnselydd sydd wedi hiraf ei wasanaeth.