Ffermwr llaeth o Ynys Môn yn cael ei ethol fel aelod oes o UAC

Ffermwr llaeth o Ynys Môn yn cael ei ethol fel aelod oes o UAC

Mae ffermwr llaeth o Ynys Môn ac Is-lywydd Undeb Amaethwyr Cymru Eifion Huws, wedi cael ei ethol fel aelod oes o UAC.

Etholwyd Mr Huws fel aelod oes yng nhyfarfod o Gyngor yr Undeb a gynhaliwyd yn Aberystwyth ddydd Mercher 29 o Fawrth.

Mae Eifion Huws yn ffermio ym Mhenrhos, Bodedern, fferm laeth bu’n cadw buches o wartheg pedigri Ayrshire. Roedd gan y fuches laeth record cynhyrchu ac arddangos rhagorol, ac mae Eifion yn feirniad gwartheg Ayrshire uchel iawn ei barch.

Mae wedi bod yn aelod gweithgar o Bwyllgor Cyllid a Threfn Ganolog yr Undeb, a bu hefyd yn Gadeirydd Pwyllgor Llaeth yr Undeb rhwng 2004 a 2011. Mae Eifion hefyd wedi cynrychioli UAC ar Fforwm Ffermwyr Llaeth y DU.

Yn ystod ei wasanaeth ffyddlon i'r Undeb, mae Eifion wedi teithio ar hyd a lled y wlad, ac yn aml i Gaerdydd, Llundain ac Ewrop i gynrychioli’r diwydiant llaeth a barn UAC wrth geisio sicrhau gwell cefnogaeth a phrisiau i ffermwyr.

Derbyniodd Eifion wobr fewnol UAC yn 2011/2012 am ei wasanaethau i’r Undeb a’r diwydiant amaethyddol yng Nghymru, a cafodd ei ddewis fel enillydd gwobr UAC/Banc HSBC am ei gyfraniad neilltuol i’r diwydiant llaeth yng Nghymru.

Mae cyfoeth gwybodaeth Eifion o’r diwydiant yn werthfawr. Mae ei egni, frwdfrydedd a’i angerdd dros y diwydiant llaeth yn ysbrydoliaeth, ac mae ei allu i gefnogi ei gyd-ffermwyr yn amhrisiadwy.

Wrth siarad am etholiad Mr Huws yn aelod oes, dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts:

“Mae Eifion wedi bod yn un o hoelion wyth ffyddlon yr Undeb. Roedd Eifion bob amser yn fwy na bodlon dirprwyo ar fy rhan ar fusnes yr Undeb. Mae ei ymrwymiad, ei ddycnwch a’i angerdd cyson dros y diwydiant llaeth a ffermio yng Nghymru yn ysbrydoliaeth ac mae’r anrhydedd hwn yn haeddiannol iawn. Mae’n dilyn yn ôl traed ei dad fel aelod oes.”