Ffermwr o Sir Gaerfyrddin wedi’i ethol yn unfrydol yn Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru

Ffermwr o Sir Gaerfyrddin wedi’i ethol yn unfrydol yn Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru

Mae ffermwr defaid a bîff o Sir Gaerfyrddin, Ian Rickman, wedi’i ethol yn Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru yng nghyfarfod Cyngor yr Undeb yn Aberystwyth ddydd Gwener 30 Mehefin 2023. Mae’n cymryd yr awenau oddi wrth Glyn Roberts, a wasanaethodd yr Undeb am 8 mlynedd fel Llywydd.

Symudodd rhieni Ian Rickman, Robert a Margaret Rickman, i Gurnos, Llangadog, Sir Gaerfyrddin ym 1975, a dyna oedd profiad cyntaf Ian o ffermio sydd wedi datblygu’n angerdd gydol oes.

“Roeddent yn cadw defaid, yn ogystal â buches o wartheg sugno Duon Cymreig hefyd. “Yn 13 mlwydd oed ar y pryd, sylweddolais fy mod yn mwynhau ffermio’n fawr. Penderfynais fy mod am gael gyrfa mewn amaethyddiaeth, felly mynychais Goleg Amaethyddol Cymru yn Aberystwyth. Mi wnes i gwrs rhyngosod yno, ac yn fy mlwyddyn ganol, es i weithio at Iori a Heulwen Evans, ym Mhentywyn oedd yn godro tua 400 o wartheg ar y pryd,” eglura Ian.

Pan adawodd y coleg aeth yn ôl i weithio at Iori fel heusor am ychydig flynyddoedd, ac yna teithiodd i Awstralia a Seland Newydd am 9 mis i gael profiad o ffermio mewn gwahanol rannau o'r byd.

Pan ddechreuodd iechyd ei dad ddirywio ar ddiwedd y 1980au, dychwelodd Ian adref i Gurnos. Heddiw mae mewn cytundeb ffermio cyfran gyda’i bartner busnes Sean Jeffreys, ac yn cadw defaid ac yn magu lloi Wagyu. Mae Ian yn briod â Helen ac mae ganddynt dri o feibion, Thomas, Sean a Rhys, sydd i gyd wedi dilyn gyrfaoedd eraill.

Ar ddiwedd yr 80au / 90au cynnar dechreuodd Ian fynd i gyfarfodydd UAC yn Sir Gaerfyrddin ac mae'n cofio ei ddyddiau cynnar gyda UAC.

“Rwy’n cofio mynd i’m cyfarfod cangen gyntaf yn Llangadog yr holl flynyddoedd yn ôl. Mae Sir Gaerfyrddin wastad wedi bod yn un o gadarnleoedd UAC a Peter Davies oedd ysgrifennydd y sir pan ymunais â’r Undeb. Es i gyfarfodydd y gangen leol ac yna dechreuais fynd i gyfarfodydd gweithredol sirol lleol. Cefais fy mhenodi’n gadeirydd y sir tua 2010 ac roeddwn hefyd yn gynrychiolydd ar bwyllgor Tir Mynydd UAC ac yn gadeirydd y pwyllgor am gyfnod,” dywedodd.

Yn 2017 etholwyd Ian yn is-lywydd rhanbarthol De Cymru, ac yna’n Ddirprwy Lywydd yn 2019.

Wrth siarad am gael ei ethol yn Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, dywedodd: “Doeddwn i erioed wedi rhagweld bod yn Llywydd UAC ond mae’n anrhydedd cael fy ethol i’r rôl. Rhaid diolch i Glyn Roberts am ei wasanaeth ymroddedig dros yr 8 mlynedd diwethaf. Mae'r esgidiau sydd gennyf i'w llenwi yn enfawr ac ni all byth fod digon o eiriau i gyfleu ein dyled a'n diolch i Glyn am bopeth y mae wedi'i wneud. Byddaf bob amser yn ddiolchgar am y gefnogaeth a gefais gan yr aelodau lleol yn Sir Gaerfyrddin a ledled Cymru.

Mae sawl her yn wynebu’r diwydiant, ac mae Ian yn gwbl glir, y bydd angen sylw llawn yr Undeb ar faterion fel y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, y Bil Amaethyddiaeth – a fydd yn effeithio ar y diwydiant am genedlaethau i ddod, cyllid ar gyfer amaethyddiaeth - sy’n hanfodol i ffermydd teuluol Cymru, a'r rheoliadau NVZ.

“Mae angen eglurder ar frys ynghylch cyllid ar gyfer ffermio yng Nghymru. Ar hyn o bryd rydym ni fwy neu lai yn gwybod beth y gallwn ei ddisgwyl tan 2024 o ran cymorth i amaethyddiaeth, ond ar ôl hynny, mae’n anodd iawn i fusnesau gynllunio. Yn realistig, nid ydym yn gwybod y manylion ynghylch sut y bydd cymorth fferm yn edrych yn y dyfodol. Mae llawer o fy ngwaith yn y dyfodol agos yn mynd i ganolbwyntio ar gael eglurder ar hyn i’n haelodau,” meddai Llywydd newydd UAC.

Mae TB mewn gwartheg hefyd yn fater o flaenoriaeth iddo. “Mae wedi bod yn broblem i’r genhedlaeth flaenorol a bydd yn parhau i fod yn broblem i’r genhedlaeth nesaf o ffermwyr os na fydd dim yn newid. Byddwn yn gweithio gyda’r prif filfeddyg newydd a Llywodraeth Cymru i barhau i geisio dod o hyd i atebion ymarferol i’r mater.

“Fodd bynnag, ni ddylai fod unrhyw gamddealltwriaeth – mae aelodau ar ddiwedd eu tennyn ac mae’r sefyllfa barhaus TB yn bryder enfawr i ffermwyr yma yng Nghymru, sydd yn y pen draw hefyd yn peryglu ein diogelwch bwyd.”

Un uchelgais i’r Undeb yn ei dymor fel Llywydd yw bod Ian yn gobeithio annog mwy o aelodau ifanc i ymuno â UAC, ac annog mwy o aelodau i gymryd swyddi fel swyddogion o fewn y sefydliad, yn lleol ac yn genedlaethol.

“Mae olyniaeth yn UAC yr un mor bwysig ag ydyw ar fferm. Rwy’n angerddol am yr Undeb ac mae UAC yn gwbl ddemocrataidd a bydd yn parhau i fod yn gwbl ddemocrataidd. Mae'n cael ei redeg gan aelodau ac rydym yn gweithio o'n system llawr gwlad. Fodd bynnag, mae rhwystrau i olyniaeth yn yr Undeb a byddaf yn gweithio gyda’r tîm i’w datrys er mwyn i’r Undeb allu parhau i fod yn ffyniannus a chynaliadwy, gan sicrhau bod gennym ni ffermydd teuluol ffyniannus, cynaliadwy yma yng Nghymru,” ychwanegodd.