UAC yn lansio cystadleuaeth ffotograffiaeth ar gyfer calendr elusen 2024

Mae Undeb Amaethwyr Cymru yn galw ar bob ffotograffydd brwd i gymryd rhan yn ei chystadleuaeth ffotograffiaeth ar gyfer calendr elusennol yn dangos ffotograffau o gefn gwlad ac amaethyddiaeth Cymru.

Bydd y calendr yn cael ei werthu er budd elusen nesaf Llywydd UAC yn Sioe Aeaf Frenhinol Cymru yn Llanelwedd.

Dywedodd Llywydd yr Undeb, Ian Rickman: “Ar ôl llwyddiant cystadleuaeth 2022 rydym wedi penderfynu ei chynnal eto ar gyfer calendr y flwyddyn nesaf ac rydym yn chwilio am luniau ar gyfer pob tymor, pob sector a phob tirwedd i greu calendr cofiadwy ar gyfer 2024.

“Byddwn yn datgelu ein helusen newydd maes o law, ond am y tro rydym yn gwahodd cynigion ar gyfer y gystadleuaeth hon. Mae yna brif wobr o £250 am y llun gorau hefyd.”

Bydd angen anfon pob llun trwy e-bost at This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it. erbyn Awst 28 2023 ac yn o leiaf 1MB o ran maint y ffeil.