UAC yn cwrdd â’r Gweinidog Materion Gwledig i drafod manylion pellach y datganiad diweddar ar ffermio yng Nghymru

Cafodd Undeb Amaethwyr Cymru gyfarfod dilynol â’r Gweinidog Materion Gwledig, cynrychiolydd Gogledd Cymru a’r Trefnydd, Lesley Griffiths ar 4ydd Mawrth, i drafod manylion pellach y datganiad ar y cyd a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf.

Roedd y datganiad gan y Prif Weinidog Mark Drakeford a Lesley Griffiths, a gyhoeddwyd ar 27ain Chwefror, yn amlinellu camau nesaf mewn perthynas â’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS), yn ogystal ag ailadrodd sylwadau ynghylch TB Gwartheg a rheoliadau NVZ Rheoli Llygredd Amaethyddol.

Dyma’r cyntaf o’r cyfarfodydd mwy rheolaidd y mae’r Gweinidog wedi’u haddo i UAC yn ystod y cyfnod heriol hwn, a manteisiodd UAC ar y cyfle i’w holi hi am y mân fanylion tu ôl i’r datganiad yr wythnos diwethaf.

Cytunwyd ar y ddwy ochr i’r bwrdd bod amser yn ein herbyn go iawn, o ystyried bwriad Llywodraeth Cymru i lansio’r SFS y flwyddyn nesaf.  Mi fydd y modd y mae’r Prif Weinidog newydd a’i lywodraeth yn defnyddio’r ychydig fisoedd nesaf i ailfeddwl y cynigion hyn, drwy ddylunio ar y cyd â’r diwydiant, yn hanfodol.

Pwysleisiodd UAC felly bod yn rhaid i’r adolygiad rheolaidd rhwng Llywodraeth Cymru â’r undebau ffermio gynnwys trafodaethau ystyrlon sy’n arwain at newidiadau go iawn i’r cynigion presennol.

Mae’n amlwg, wrth inni lunio ymateb terfynol UAC i’r ymgynghoriad, bod yna bryderon sylweddol sydd angen sylw cyn lansio’r SFS.  Mae’r rhain yn cynnwys:

  • rhwystrau ymarferol a biwrocrataidd o fewn pob un o’r Gweithredoedd Sylfaenol
  • sut a ble y dylid, neu na ddylid, yn ein tyb ni, ymgorffori’r Gweithredoedd hyn i fframwaith y cynllun
  • sut y mae’r fethodoleg o ran taliadau yn gwobrwyo ffermwyr yn briodol ac yn darparu sefydlogrwydd economaidd drwy fod yn uwch na’r incwm a gollir a’r costau a wynebir
  • Cafodd y prosesau a fydd yn caniatáu i UAC gyfrannu at adolygiad y Grŵp Cynghori Technegol TB Gwartheg o ddifa gwartheg ar ffermydd, a’r adolygiad 4 blynedd o reoliadau NVZ Rheoli Llygredd Amaethyddol dros y misoedd nesaf eu trafod gyda’r Gweinidog a’i swyddogion hefyd.

Roedd UAC yn croesawu’r cyfarfod defnyddiol hwn gyda’r Gweinidog a’i swyddogion.  Mae UAC yn credu’n gryf bod digwyddiadau diweddar wedi gwneud hi’n glir bod angen gweithredu brys, o du’r Llywodraeth bresennol a’r un newydd yng Nghymru, mewn perthynas â chyfeiriad polisi amaethyddol Cymru i’r dyfodol.  Mae UAC yn wirioneddol obeithio bod y negeseuon hyn yn cael eu gwireddu bellach ac y byddant yn cael eu rhoi ar waith dros y misoedd nesaf.