Ymateb UAC i ymgynghoriad y Cynllun Ffermio Cynaliadwy’n mynegi pryderon am faint y newid sydd ei angen o fewn y ffrâm amser

Mae ymateb Undeb Amaethwyr Cymru i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy:  ‘Cadw Ffermwyr i Ffermio’ wedi mynegi pryder am faint y newid sydd ei angen i sicrhau bod y cynllun yn addas i’r diben o fewn yr amser sydd ar gael.

Lluniwyd ymateb yr Undeb yn dilyn trafodaethau ag aelodau a chynrychiolwyr y sector yn ystod 13 o gyfarfodydd rhanbarthol a gynhaliwyd ledled Cymru.

 Roedd y cyfarfodydd hyn, a fynychwyd gan gannoedd o aelodau, yn ogystal ag eraill sydd â diddordeb uniongyrchol ac anuniongyrchol yn y diwydiant amaeth, yn gyfrwng i lunio ymateb UAC. Bu ymgysylltu hefyd yn ystod 12 o gyfarfodydd Pwyllgorau Gweithredol Sirol UAC, a chyfarfodydd deg Pwyllgor Sefydlog yr Undeb.

Mae ymateb yr Undeb i’r ymgynghoriad terfynol hwn ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) yn darparu darlun cynhwysfawr o farn a phryderon aelodau UAC.

Yn gyntaf, mae UAC o’r farn bod yn rhaid adolygu amcanion cyffredinol y cynllun er mwyn iddyn nhw gyd-fynd ag egwyddorion Y Ffordd Ymlaen i Gymru a’r naw amcan sy’n sail i fframwaith PAC presennol yr UE, megis lleihau’r effeithiau economaidd andwyol a maint yr amharu ar fusnesau, sectorau a rhanbarthau.

Rhaid i’r SFS, o leiaf, ddarparu cymorth ac incwm ystyrlon i ffermwyr gweithredol yng Nghymru am gynhyrchu bwyd cynaliadwy yn unol ag amcan cyntaf Rheoli Tir yn Gynaliadwy.

Mae ymateb UAC hefyd yn galw am sefydlu grŵp bach penodol o randdeiliaid i ganolbwyntio ar ddylunio’r SFS, sy’n cynnwys undebau ffermio, i ystyried y newidiadau i’r SFS a’r cyfraddau tâl cysylltiedig.  Dylid cael yr opsiwn hefyd o greu is-grwpiau neu baneli i ystyried manylion elfennau gwahanol o’r SFS, er enghraifft, mewn perthynas â meysydd polisi bras megis coetiroedd.

Mae’n hanfodol bod yr ychydig fisoedd nesaf yn cael eu defnyddio’n effeithiol i ail-ddylunio elfennau o’r cynllun, mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill.

Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod cyfraddau tâl y cynllun yn cael eu cyfrifo mewn cytundeb â’r undebau ffermio, trwy ddefnyddio tystiolaeth a gasglwyd o asesiadau effaith economaidd a data busnesau fferm.  Mi fyddai hynny’n sicrhau bod y taliadau’n uwch na’r incwm a gollir a’r costau a wynebir, fel bod y cynllun yn un economaidd gynaliadwy i fusnesau fferm.

Mae hyn hefyd yn cynnwys yr angen i sicrhau bod yr holl Weithredoedd Sylfaenol a rheolau’r cynllun yn hygyrch ac yn ymarferol i bawb, ac nad ydynt yn rhwystrau rhag ymuno â’r cynllun.

Dylai grŵp o’r fath hefyd asesu’r gyllideb gyfan sy’n ofynnol i gyflenwi fersiynau gwahanol o’r SFS, fel bod modd cyflwyno achos gerbron Llywodraeth y DU ar gyfer cyllid digonol.  Gellir gwneud newidiadau i’r cynllun terfynol os nad yw’r cyllid hwnnw’n bodloni’r gofynion.

Rhaid i’r Llywodraeth bresennol a’r un newydd yng Nghymru roi ystyriaeth ddifrifol bellach i bob un o’r miloedd o ymatebion i’r ymgynghoriad, a gweithio gyda’r diwydiant i ddylunio cynllun sy’n wirioneddol addas i’r diben.