Hanes yn ailadrodd ei hun medd UAC wrth i’r Senedd wrthod dau gynnig amaethyddol

Yn dilyn protest gan filoedd o ffermwyr a staff busnesau cysylltiedig ar risiau’r Senedd ym Mae Caerdydd ar 28 Chwefror, aeth y Senedd yn ei blaen i drafod a gwrthod dau gynnig ar bolisïau’n ymwneud â’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) a TB Gwartheg.

Roedd cynnig Ceidwadwyr Cymru’n galw ar Lywodraeth Cymru i ddiddymu cynigion presennol y cynllun ffermio cynaliadwy ac ail-ymgysylltu â’r sector amaethyddol i ddatblygu cynllun newydd sy’n cael ei gefnogi gan y gymuned ffermio.

Roedd yr ail gynnig ar TB Gwartheg, a gyflwynwyd gan Plaid Cymru, yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd ati ar frys i gynnal gwerthusiad ac arfarniad hirdymor o’r rheolaethau gwartheg presennol, i bennu eu heffeithiolrwydd mewn perthynas ag atal a rheoli trosglwyddiad y clefyd.  Yn ogystal, roedd y cynnig yn gofyn am newidiadau di-oed i’r polisi difa ar ffermydd, ac am sefydlu polisïau sy’n adlewyrchu rôl bywyd gwyllt fel ffynhonnell haint.

Mae UAC yn ymfalchïo yn y ffaith bod y gymuned amaethyddol wedi sefyll mewn undod ar risiau’r Senedd i fynegi cryfder y teimlad tuag at y sefyllfa bresennol, a chyfeiriad y polisi amaethyddol yng Nghymru yn y dyfodol.

Dywedodd nifer o siaradwyr, gan gynnwys Aelodau’r Senedd, bod yn rhaid inni sefyll gyda’n gilydd mewn undod ar adegau anodd.  Fodd bynnag, serch presenoldeb UAC a rhwystredigaeth go iawn y gymuned ffermio, a welwyd yn ystod digwyddiadau ledled Cymru dros yr wythnosau diwethaf, roedd pleidleisiau’r Senedd yn adlewyrchu blaenoriaethau gwleidyddiaeth bleidiol yn hytrach nag ystyriaeth go iawn o’r ffeithiau.

Dyma hanes yn ailadrodd ei hun, oherwydd ddwy flynedd yn ôl cafodd cynnig Plaid Cymru i ddiddymu rheoliadau NVZ Rheoli Llygredd Amaethyddol ei wrthod, o 30 pleidlais i 27, serch y cyfeiriadau mynych at y rheoliadau fel ‘defnyddio morthwyl i dorri cneuen’.

Yn dilyn cyfarfodydd diweddar gyda’r ddwy undeb amaethyddol a chynrychiolwyr eraill o’r byd amaeth, cyhoeddodd y Prif Weinidog a’r Gweinidog Materion Gwledig ddatganiad ar y cyd, yn amlinellu’r camau nesaf sy’n cael eu hystyried nawr ar gyfer yr SFS.  Gwnaed rhai sylwadau hefyd gan y Llywodraeth ynghylch TB Gwartheg a’r rheoliadau NVZ, ond does dim ffordd glir ymlaen wedi’i phennu ar gyfer y naill fater na’r llall.

Er ei bod hi’n galondid gweld bod o leiaf rhai camau’n cael eu hystyried bellach o ran yr SFS, mae’n ddigalondid llwyr meddwl ei bod wedi cymryd miloedd o bobl yn sefyll ar risiau’r Senedd i Lywodraeth Cymru gydnabod difrifoldeb y sefyllfa, a chyhoeddi datganiad eithaf di-ddim, sydd ddim yn dod yn agos at leddfu’r pryderon.

Fel undeb amaethyddol broffesiynol, gyda buddiannau’r aelodau wrth wraidd popeth a wna, mae gan UAC ddyletswydd i weithio gyda’r llywodraeth sydd mewn grym yn ogystal â’r gwrthbleidiau i symud pethau ymlaen.  Bydd UAC yn parhau i sicrhau bod sector amaethyddol Cymru a’n ffermydd teuluol ni’n cael yr ystyriaeth a’r parch maent yn ei haeddu.