Cyhoeddiad LlC ar y Cynllun Ffermio a phrotest ffermwyr ger y Senedd

Mae’n galondid gweld bod o leiaf rhai camau eisoes yn cael eu hystyried o gyhoeddiad y Gweinidog Materion Gwledig (27 Chwefror) ynghylch y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS).

Mynegodd UAC deimladau ei haelodau yn gwbl glir yn ystod y cyfarfod gyda Llywodraeth Cymru (19 Chwefror).  Yn y cyfarfod hwnnw galwodd UAC am ailfeddwl y cynigion SFS presennol ac am fwy o gydweithio ar y newidiadau sydd eu hangen i’r cynllun, mewn cydweithrediad â phartïon a chanddynt fuddiant a’r ddwy undeb amaethyddol.

Fodd bynnag, mae’n bwysig gwahaniaethu rhwng bod yn economaidd gynaliadwy ac yn economaidd gydnerth.  Mae hi hefyd yn hanfodol bod effeithiau unrhyw ofynion o ran coetir a chynefin yn cael eu hystyried yn llawn, hyd yn oed os nad ydyn nhw'n mynd mor bell â gwneud busnesau fferm yn ‘anhyfyw’.

Fel Undeb, bydd UAC yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu’r SFS.  Mi fydd UAC hefyd yn parhau gyda’i hymdrechion i lobïo swyddogion LlC a’r Gweinidog Materion Gwledig i newid cyfeiriad eu polisi TB, a thrafod y ffordd ymlaen gyda’r polisïau llygredd amaethyddol.

Wrth i filoedd o ffermwyr ymgynnull ger y Senedd i gyfleu cryfder y teimladau tuag at yr SFS presennol, mae UAC yn diolch iddynt am eu hymrwymiad i gynhyrchu bwyd o safon yn ystod cyfnod anodd.

Fel gwarcheidwaid tirwedd Cymru, gyda chyndeidiau sydd wedi gofalu o un genhedlaeth i’r llall am y bryniau glas sy’n ein hamgylchynu, roedd UAC yn falch o sefyll mewn undod ar risiau’r Senedd.

Mae UAC hefyd am ddiolch i’r cyhoedd am eu cefnogaeth barhaus i’r diwydiant.  Mae UAC wedi derbyn negeseuon o gefnogaeth o bob cwr o Gymru a thu hwnt dros yr wythnosau diwethaf, ac mae’n ddiolchgar bod pobl yn gwerthfawrogi’r camau a gymerir gan ffermwyr i gynhyrchu bwyd maethlon, safonol o fewn ein cymunedau lleol.

Yn olaf, mae rhyddid barn a phrotest heddychlon yn hawl sylfaenol pwysig o fewn democratiaeth.  Mae’n Hawl Dynol sy’n rhan annatod o Gyfraith y DU.  Mae UAC yn ymfalchïo yn yr hawl hwnnw i fynegi barn yn ddiogel, a chydag urddas, a pharch tuag at eraill, ac anogwyd pawb i fwynhau'r diwrnod, a gweithredu’n heddychlon ac o fewn y gyfraith.

Mae swyddogion a staff Undeb Amaethwyr Cymru’n parhau i annog a chynorthwyo aelodau a busnesau gwledig i ymateb i ymgynghoriad presennol Llywodraeth Cymru ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS).  Mae’r ymgynghoriad yn cau ar Ddydd Iau 7fed Mawrth 2024.