Diffyg ystyriaeth i denantiaid a newydd-ddyfodiaid o fewn y cynigion SFS yn destun pryder, medd Tîm Polisi Llywyddol UAC

Roedd diffyg ystyriaeth i ffermwyr tenant a chymorth priodol i newydd-ddyfodiaid yn rhai o’r pryderon allweddol a fynegwyd gan Dîm Polisi Llywyddol Undeb Amaethwyr Cymru yn ystod cyfarfod a gynhaliwyd yn ddiweddar yn Llanfair-ym-muallt.

Hwn oedd y cyfarfod ffurfiol terfynol a gynhaliwyd gan UAC i drafod yr adborth cyntaf a dderbyniwyd gan dros 1,500 o ffermwyr mewn cyfarfodydd sirol lleol ledled Cymru dros yr wythnosau diwethaf.  Bydd yn cael ei ddefnyddio i lunio ymateb terfynol yr Undeb i ymgynghoriad y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS).

Tra bod nifer o’r sylwadau a’r pryderon a godwyd yng nghyfarfodydd sirol lleol UAC wedi’u trafod yn fanwl, cododd swyddogion yr Undeb rai pryderon difrifol am y problemau ymarferol y gall ffermwyr tenant eu hwynebu wrth geisio ymuno â’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

Croesewir, wrth gwrs, y symudiad tuag at gytundebau blynyddol a’r eithrio rhag y gofynion  10% o orchudd coed ar gyfer tenantiaid.  Fodd bynnag, rhaid hefyd ystyried nifer o gyfyngiadau ymarferol eraill o ran tenantiaid, megis y gallu i gael caniatâd y landlord i greu pyllau a chynefinoedd newydd, neu benderfynu pwy sydd â rheolaeth o nodweddion hanesyddol, neu goed unigol o fewn gwrychoedd.

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, wedi dweud droeon os nad yw’r SFS yn gweithio ar gyfer y sector tenantiaid yna nid yw’n gweithio o gwbl.  Mi fydd angen mynd i’r afael â’r holl enghreifftiau ymarferol hyn os ydy pob ffermwr gweithredol am gael cyfle cyfartal i ymuno â’r cynllun.

Mae’n amlwg bod y pryderon a’r cwestiynau a godwyd yn ystod cyfarfodydd Gweithgor Newydd-ddyfodiaid Llywodraeth Cymru hefyd wedi’u diystyru yma.

Mi fydd yn rhaid i newydd-ddyfodiaid a phobl ifanc sy’n penderfynu ymuno â’r cynllun o’r flwyddyn nesaf ymlaen ildio gwerth miloedd o bunnoedd o hawliau, ac ni fydd y rhai sy’n ymuno â’r diwydiant o’r flwyddyn nesaf ymlaen yn cael hawlio’r taliad sefydlogrwydd o gwbl.

Mae Llywodraeth Cymru’n honni ei bod wedi cael gwared â’r rhwystrau i newydd-ddyfodiaid a phobl ifanc, ond does dim ymrwymiad o hyd i roi cymorth priodol i’r unigolion hyn sy’n newydd i’r diwydiant, gyda rhywbeth sy’n gyfystyr â thaliad atodol ystyrlon.

Yn ystod y cyfarfod hefyd, tynnwyd sylw at y diffyg manylder o ran faint o gymorth fydd ar gael i borwyr tir comin wrth i’r BPS ddod i ben yn raddol, ac wrth roi’r Gweithredoedd Cydweithredol ar waith.

I nifer o borwyr, mae’r gyfran tir comin o’u taliad BPS yn sylweddol, ac mae’r rhan fwyaf eisoes wedi wynebu cwtogi sylweddol yn eu taliadau rhwng Glastir Tir Comin a Chynllun Cynefin Cymru.