Crynodeb o Newyddion Mawrth 2024

Allforion cig defaid Cymru’n cynyddu yn 2023

Mae data newydd CThEF yn dangos bod allforion cig defaid wedi parhau i gynyddu yn 2023.  Amcangyfrifir bod cyfanswm maint y cig defaid a allforir o Gymru wedi cyrraedd bron i 30,500 o dunelli, sef cynnydd o 12% ar gyfer y flwyddyn, tra bod y cyfanswm gwerth wedi bwrw £190.9 miliwn, sef cynnydd o 10% ar gyfer y flwyddyn.

Dangosodd data CThEF ar gyfer cig eidion a chig defaid fel ei gilydd bod cyfanswm gwerth allforion cig coch o Gymru ar gyfer 2023 wedi cyrraedd £267.9 miliwn, i fyny o £257.5 miliwn yn 2022 (4.1%) tra bod cyfanswm maint amcangyfrifedig allforion cig coch o Gymru ar gyfer 2023 bron yn 48,500 o dunelli (0.5%).

Mae’r ffigurau diweddaraf dal i fod yn is na’r cyfanswm uchaf o 55,500 o dunelli yn 2020.



Gweriniaeth Iwerddon yn cyhoeddi estyniad i’r rhaglen galchu

Mae Llywodraeth Iwerddon wedi cyhoeddi estyniad i'r rhaglen galchu genedlaethol a gyflwynwyd yn 2023 fel cymhelliad i ddefnyddio calch fel cyflyrydd pridd naturiol, sy’n cywiro asidedd y pridd, yn golygu bod mwy o faethynnau ar gael i blanhigion, ac yn gwella iechyd y pridd.

Bellach mae gan ffermwyr yn Iwerddon hyd at 28ain Mehefin 2024 i wasgaru’r calch a brynwyd dan y rhaglen, sef estyniad o 31ain Mawrth 2024.  Mae 14,500 o ffermwyr wedi defnyddio’r rhaglen, ond maent wedi cael anhawster i wasgaru’r calch am fod y tir mor wlyb.

Dyma’r ail estyniad a roddwyd, roedd yr estyniad blaenorol yn ymestyn y dyddiad cau o 31ain Hydref 2023 i 31ain Mawrth 2024.

 

 

Cyhoeddi cynigion pecyn symleiddio’r PAC

Mae’r Comisiwn Ewropeaidd wedi cyhoeddi cynigion i symleiddio’r PAC, sy’n anelu at liniaru baich argyfwng amaethyddol yr UE, a achoswyd gan y rhyfel yn Wcráin a’r newid yn yr hinsawdd.

Dan y cynigion, bydd ffermydd gyda llai na 10ha (65% o hawlwyr PAC) wedi’u heithrio rhag gwiriadau cydymffurfio amgylcheddol.  Maent hefyd yn bwriadu diwygio 6 allan o’r 9 o safonau cyflwr amaethyddol ac amgylcheddol da (GAEC), a fyddai’n caniatáu i aelod-wladwriaethau’r UE gynnig eithriadau rhag y safonau.

Bydd angen i’r Senedd Ewropeaidd a’r Cyngor basio’r pecyn er mwyn gwireddu’r cynigion.