Academi Amaeth ar agor ar gyfer ceisiadau

Mae ffenestr ymgeisio Academi Amaeth 2024 ar agor bellach.  Mae’r Academi Amaeth yn darparu rhaglen o hyfforddiant, mentora, cymorth ac arweiniad dros dair sesiwn breswyl ddwys a sesiynau rhithiol ychwanegol.

Mae dwy Academi wahanol:

Academi Amaeth – ar gyfer unigolion dros 21 oed, sy’n anelu at gynorthwyo ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid ac arloeswyr y byd amaeth yng Nghymru.

Academi yr Ifanc – sy’n anelu at gynorthwyo pobl ifanc rhwng 16 a 21 oed sy’n gobeithio dilyn gyrfa neu sefydlu busnes yn y diwydiant bwyd neu amaeth.

Rhaid cyflwyno unrhyw geisiadau cyn canol dydd ar Ddydd Llun 15 Ebrill 2024.

Am fwy o fanylion a sut i ymgeisio ewch i:

https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy/busnes/academi-amaeth