Arolwg traethawd hir

Mae myfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth wrthi’n ysgrifennu traethawd hir ar ‘Astudiaeth yn dangos gallu ffermydd Cymru i oroesi gyda, neu heb gymorthdaliadau gan y llywodraeth ac effeithiau posibl y newidiadau sydd i ddod i Gynllun y Taliad Sylfaenol (BPS)’.

Mae’r myfyriwr wedi creu holiadur i ffermwyr yn y DU ac mae’n gobeithio cael gymaint o ymatebion â phosib.

Ni fydd unrhyw ddata personol yn cael ei gasglu yn ystod yr holiadur, a bydd yr holl ddata’n aros yn ddienw.  Ni ddylai’r holiadur hwn gymryd mwy na 10 munud, ac mae’n gofyn am fanylion am eich fferm, a’ch gwybodaeth am y cynllun taliadau digyswllt newydd a fydd yn ei le o Ionawr 2024, gan ddisodli Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS).

Mae’r holiadur ar gael yma:

https://www.survio.com/survey/d/B4C7S1W2C0A5M0B3Z