Cynnydd o 4.2% yn yr Ardoll Cig Coch

Mae Hybu Cig Cymru wedi cyhoeddi y bydd cynnydd o 4.2% yn yr ardoll cig coch a delir gan gynhyrchwyr a lladd-dai yng Nghymru o Ebrill 2024.   Cafodd cyfraddau Ardoll Cig Coch Cymru eu cynyddu yn Ebrill 2023, a chyflwynwyd mecanwaith i gysylltu cynnydd mewn ardoll yn y dyfodol â’r Mynegai Prisiau Defnyddwyr, yn cynnwys costau tai perchen-feddianwyr (CPIH).

Cyn 2023, bu cyfraddau ardoll Cig Coch Cymru yn statig am 12 mlynedd, ac mae’r penderfyniad i gysylltu’r cyfraddau ardoll â chwyddiant blynyddol yn 2023, gan ddefnyddio traciwr, yn sicrhau bod yr incwm o’r ardoll yn aros yr un fath mewn termau real, a’i fod yn aros ar lefel lle na fydd yn effeithio ar y gallu i wario.

Nid yw’r ardoll yn cael ei gynyddu’n awtomatig bob blwyddyn, ond caniateir i Fwrdd HCC argymell cynnydd i’r Gweinidog, yn seiliedig ar CPIH y flwyddyn galendr flaenorol.