Cofrestrau Da Byw ar gael

Os ydych chi’n cadw da byw ar eich daliad, rhaid ichi gadw cofrestr ar gyfer pob rhywogaeth ar bob un o’ch daliadau (CPH).

Mae cofrestrau ar gael yn ddigidol neu gallwch argraffu copi.  Gellir lawr lwytho copïau digidol o’r dolenni isod ar wefan Llywodraeth Cymru.

Llyfryn Cofrestr y Fuches Gwartheg

https://www.llyw.cymru/llyfryn-cofrestr-y-fuches-gwartheg

Cofnod Defaid a Geifr

https://www.llyw.cymru/cofnod-defaid-geifr

Os oes well gennych gael copi wedi’i argraffu o gofrestr, cysylltwch ag EIDCymru gyda’ch enw a’ch cyfeiriad a byddant yn postio un ichi.

E-bost: This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.

Ffôn: 01970 636959

Ni chodir tâl am gopi wedi’i argraffu.