Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd cael y Cynllun Ffermio Cynaliadwy’n iawn, medd UAC

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi ysgrifennu at ei holl aelodau, gan annog unigolion a busnesau i ymateb yn ffurfiol i ymgynghoriad Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) Llywodraeth Cymru a lleisio’u barn. 

Does ond angen edrych ar ystadegau’r Arolwg Busnes Fferm i ddeall arwyddocâd cyllid amaethyddol a datblygu gwledig i’n cadwyni cyflenwi bwyd a’r economi wledig ehangach.

Dyma’r trydydd ymgynghoriad, a’r olaf ar gynigion yr SFS ac ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd ei gael yn iawn.

Mae UAC eisoes wedi siarad yn uniongyrchol â thros 1,500 o ffermwyr mewn cyfarfodydd sirol lleol ledled Cymru dros yr wythnosau diwethaf, ac mae tîm UAC o arbenigwyr ffermio wedi bod yn gwthio am newid a diwygio cynlluniau Llywodraeth Cymru dros nifer o flynyddoedd.  Mae hon yn adeg dyngedfennol i amaethyddiaeth yng Nghymru a’i dyfodol.

Mae’r modelu ar effeithiau economaidd posib y Cynllun Ffermio Cynaliadwy a gyhoeddwyd ochr yn ochr â’r ymgynghoriad yn awgrymu:

  • gostyngiad yn incwm busnesau fferm o hyd at £199 miliwn
  • gostyngiad yng nghynnyrch ffermydd o £125 miliwn
  • 122,000 yn llai o unedau da byw
  • gostyngiad o 11% yn y gofynion llafur ar ffermydd.

Y gwir amdani yw, os bydd y cynllun yn aros ar ei ffurf bresennol, ac os ydy’r adroddiad modelu yn gywir, na fydd lawer o ffermwyr yn ymuno â’r cynllun, a bydd pawb ar eu colled – ffermwyr Cymru, yr amgylchedd, y cyhoedd, ac yn y pen draw, Llywodraeth Cymru hefyd.

Mae yna bryder gwirioneddol na fydd gan rai ffermwyr unrhyw ddewis ond ymuno â’r SFS, hyd yn oed os nad yw taliadau’r cynllun yn dod yn agos at wneud iawn am golli taliadau BPS.  Mi fydd hyn, yn ddiamau, yn rhoi pwysau pellach ar faich gwaith ac iechyd meddwl ffermwyr.

Rhaid i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy fod yn hygyrch i bawb, a darparu sefydlogrwydd hirdymor i fusnesau ffermio a’r gymuned wledig ehangach sy’n dibynnu ar amaethyddiaeth.  Mae angen i’r Cynllun ddarparu ffrwd incwm ystyrlon, sy’n gwobrwyo ffermwyr yn briodol ac sy’n tanategu pwysigrwydd cadwyn cyflenwi bwyd o safon uchel, sy’n cael ei gynhyrchu yma yng Nghymru.

Mae’r ansicrwydd am ddyfodol cymorth amaethyddol yng Nghymru’n dod yn erbyn cefndir o achosion parhaus o TB gwartheg a difa miloedd o wartheg yng Nghymru bob blwyddyn.  Mae hyn ar ben y rheoliadau llygredd biwrocrataidd a gyflwynwyd ar gyfer Cymru gyfan, a fydd yn costio dros £400 miliwn i’r diwydiant gydymffurfio â nhw.

Roedd y cyfarfodydd diweddar ym marchnadoedd Y Trallwng a Chaerfyrddin yn ddatganiad clir o’r rhwystredigaeth a deimlir gan lawer o ffermwyr.  Roeddent yn adlewyrchu’r don o bryder am y sefyllfa bresennol a chyfeiriad y polisi amaethyddol yma yng Nghymru yn y dyfodol. 

Mae UAC yn llwyr ddeall a dirnad rhwystredigaeth llawer o’r rhai a fynychodd y cyfarfodydd hyn.  Mae angen inni sicrhau ein bod yn cydweithio, a bod llais ffermwyr Cymru’n cael ei glywed gan y rhai sy’n gwneud penderfyniadau, yng Nghymru a San Steffan.  Mi fydd y ddwy undeb ffermio’n cwrdd â’r Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, i drafod y ffordd ymlaen.

Ni all UAC, fodd bynnag, orbwysleisio pa mor bwysig yw hi fod pob unigolyn a busnes a fydd yn cael ei effeithio gan y cynigion hyn yn ymateb yn ffurfiol i’r ymgynghoriad erbyn 7fed Mawrth.

Mae UAC hefyd yn gofyn ichi gysylltu â’ch cynrychiolwyr etholedig lleol ar bob cyfle, boed yn gynghorwyr sir, yn Aelodau Senedd lleol a/neu ranbarthol, neu’n Aelodau Senedd San Steffan.

Mae angen i bawb sicrhau eu bod nhw hefyd yn clywed eich llais a’ch pryderon chi, er mwyn gwneud yn siŵr bod yna bwysau ar Lywodraeth Cymru i adolygu’r cynllun mewn ffordd sy’n hyrwyddo diwydiant amaethyddol cynaliadwy yng Nghymru ac yn ei ddiogelu at y dyfodol.