Cyhoeddiad am gymorth i ffermwyr yr Alban yn tanlinellu pa mor naïf yw cynlluniau Cymru, medd UAC

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) yn dweud bod cadarnhad Llywodraeth yr Alban y bydd cymorth uniongyrchol i ffermwyr yn parhau ar gyfer ucheldiroedd yr Alban yn amlygu diffygion sylfaenol cynigion y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) yma yng Nghymru.

Dywedodd Prif Weinidog yr Alban, Humza Yousaf wrth NFU Scotland yn ystod cynhadledd y gwanwyn ar 9fed Chwefror y bydd 70% o’r cymorth yn y dyfodol ar ffurf taliadau fferm uniongyrchol, i gefnogi cynhyrchwyr bwyd.  Bydd y 30% arall wedi’i dargedu ar fesurau amgylcheddol, sef cymhareb debyg i drefniadau presennol yr Alban.

Mewn cymhariaeth, mi fyddai SFS arfaethedig Llywodraeth Cymru, sydd i’w gyflwyno y flwyddyn nesaf, yn diddymu taliadau fferm uniongyrchol yn gyfan gwbl, ac yn cyflwyno mynydd o gyfyngiadau a gofynion costus ar yr un pryd.

Mi fyddai hyn yn golygu bod ffermwyr Cymru’n cystadlu dan anfantais enfawr o’u cymharu â’u cymheiriaid yn yr Alban, serch bod gan y ddwy wlad gyfran debyg o dir dan anfantais, lle gellir ond ffermio da byw.

Mae tua 85% o’r Alban wedi’i gategoreiddio’n Ardaloedd Llai Ffafriol, gyda’r gyfran yng Nghymru’n 80%.  Dim ond 17% yw’r gyfran yn Lloegr.

Cadarnhaodd Mr Yousaf hefyd y byddai ffurf ar gymorth i Ardaloedd Llai Ffafriol, a gafodd ei ddiddymu yng Nghymru yn 2013, yn parhau yn yr Alban.

Mae dadansoddiad economaidd Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd ochr yn ochr â’i phapur ymgynghori ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, yn awgrymu y byddai’r holl reolau a chyfyngiadau’n arwain at 11% o ostyngiad yn y nifer o dda byw.  Mi fyddai hefyd yn golygu gostyngiad yn yr incwm fferm cyfartalog yng Nghymru o rhwng 25 a 35 y cant.  Mi fyddai’r ffigur hwn yn codi i rhwng 48% ac 85% yn absenoldeb taliadau ‘atodol’ posib.

Nawr ein bod wedi gadael yr UE, mae gan y DU ei marchnad sengl ei hun yn y bôn, ond heb reolau’r taliad sylfaenol.   Pe bai Cymru’n mynd i gyfeiriad gwahanol i’r Alban, yn y ffordd mae Llywodraeth Cymru’n ei chynnig, byddem nid yn unig yn rhoi ein ffermwyr ni dan anfantais, drwy gyflwyno mynydd o reolau sy’n amherthnasol i gynhyrchwyr yr UE, ond byddem hefyd yn rhoi ein diwydiant ni dan anfantais gystadleuol enfawr o’i gymharu â’r Alban, ac yn rhoi busnes ar blât i’r Albanwyr.

Roedd UAC yn gwrthwynebu Brexit o ran egwyddor, ac ar ôl y bleidlais i adael yn 2016, mae wedi dadlau dros bolisi cadarn i gymryd lle’r Polisi Amaethyddol Cyffredin, a fydd yn sicrhau cyn lleied â phosib o gystadleuaeth annheg rhwng gwledydd y DU.  Mynegwyd hyn yn glir ym mhapur cynhwysfawr UAC ‘Llenwi’r Gwagle’ a gyhoeddwyd yng Ngorffennaf 2018.

Mae angen i’r cam hynod synhwyrol ac economaidd fanteisiol hwn gan Lywodraeth yr Alban gael ei adlewyrchu gan Lywodraeth Cymru, wrth iddi ystyried y nifer enfawr o welliannau sydd eu hangen i gynigion presennol yr SFS.  Mae’r hyn a gynigir ar hyn o bryd yn ddinistriol ac yn economaidd naïf, ac mi fyddai’n gôl i’n rhwyd ein hunain o ran ffermydd, cymdeithas, diwylliant ac economi Cymru.

Fel y proffwydodd UAC, mae Brexit wedi methu ffermwyr Cymru ar sawl lefel ac ni fydd cynlluniau Llywodraeth Cymru’n gwneud dim mwy nag ychwanegu at yr heriau y mae ffermwyr wedi’u hwynebu ers 2016.