UAC yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailfeddwl y Cynllun Ffermio Cynaliadwy drwy gyd-ddylunio ystyrlon yn ystod trafodaethau brys

Yn ystod trafodaethau brys a gynhaliwyd ar 19 Ionawr gyda’r Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths a’i swyddogion, galwodd Undeb Amaethwyr Cymru am ailfeddwl y cynigion drwy gyd-ddylunio o ddifrif.

Mae UAC yn deall cryfder teimladau a rhwystredigaeth bresennol ei haelodau.  Mynegodd UAC y pryderon dwfn hyn a’r dicter a deimlir gan yr aelodau a’r gymuned wledig ehangach i’r Gweinidog yn gwbl ddi-flewyn ar dafod.

Mae UAC wedi galw am gynnal asesiad annibynnol o effaith economaidd-gymdeithasol a baich biwrocrataidd polisïau amaethyddol Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, TB Gwartheg, a rheoliadau ‘NVZ’ Rheoli Llygredd Amaethyddol.

Dylid hefyd defnyddio’r amser hwn i gynnal cyfres o gyfarfodydd rheolaidd rhwng y Gweinidog Materion Gwledig a’i swyddogion â’r ddwy undeb amaethyddol, i ailfeddwl y cynigion drwy gyd-ddylunio ystyrlon.  Mae angen i hyn gynnwys panel annibynnol sydd â’r dasg o edrych ar opsiynau eraill yn lle plannu coed, er mwyn inni allu gweithio tuag at sero net mewn ffordd fwy cynaliadwy.

Mae UAC wedi dadlau ers tro byd bod yn rhaid i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) fod yn un hygyrch i bob busnes fferm, gan ddarparu sefydlogrwydd hirdymor i fusnesau o’r fath a’r economi wledig ehangach sy’n dibynnu ar amaethyddiaeth.  Hefyd, mae angen iddo ddarparu ffrwd incwm ystyrlon, sy’n gwobrwyo ffermwyr yn briodol drwy gynnig mwy na’r costau a wynebir a’r incwm a gollir yn unig, ac mi ddylai danlinellu pwysigrwydd cadwyn cyflenwi bwyd o safon uchel yma yng Nghymru.

O’r hyn a wêl UAC, ni fydd yr SFS ar ei ffurf bresennol yn gynaliadwy, ac mae’n amlwg nad yw’n barod, a chawsom ein sicrhau, unwaith eto, gan y Gweinidog na fydd y cynllun yn cael ei lansio nes ei fod yn barod.

Dylid felly ystyried parhau gyda Chynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) ar y cyfraddau presennol nes ein bod yn hyderus bod y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) yn barod.  Fel arall, mae yna berygl o efelychu’r sefyllfa yn Lloegr, gyda’r taliadau sylfaenol yn diflannu a’r rhan fwyaf o’r arian ar gael drwy fabwysiadu cynlluniau a chamau amgylcheddol yn unig.

Roedd UAC yn croesawu’r cyfarfod adeiladol gyda’r Gweinidog a’i swyddogion, a hynny ar adeg mor dyngedfennol i’r diwydiant.  Fodd bynnag, mae’r bêl yn bendant iawn ar eu hochr nhw o’r cwrt rŵan ac mae UAC yn wirioneddol obeithio y byddant yn ystyried ein gofynion o ddifrif.

Yn olaf, ni all UAC orbwysleisio pa mor bwysig ydy hi fod pob unigolyn a busnes a fydd yn  cael ei effeithio gan y cynigion hyn yn ymateb yn ffurfiol i’r ymgynghoriad erbyn 7fed Mawrth.  Mae’n gwbl hanfodol o hyd bod pawb yn gwneud hynny er mwyn cael cymaint o effaith â phosib.