Cynlluniau Coetir – Ffenestri Ymgeisio

Yn 2024, mae yna drefn newydd i’r Grant Creu Coetir.  Dim ond un ffenestr fydd ar agor o 4 Mawrth 2024 i 22 Tachwedd 2024, neu nes bod y gyllideb wedi’i dyrannu.  Bydd Grantiau Bach – Cynllun Creu Coetir yn parhau i fod â nifer o ffenestri trwy gydol y flwyddyn:

  • tair yn 2024, ac
  • un yn 2025 os caiff y gyllideb ei chytuno ar gyfer y flwyddyn ariannol 2025/26

Mae’r Grant Creu Coetir yn darparu cymorth ariannol i greu ardaloedd mwy o goetir neu ardaloedd bach sydd ddim yn addas ar gyfer Grantiau Bach – Cynllun Creu Coetir.

Mae’r cynllun yn darparu cyllid i blannu coed a gosod ffensys a gatiau.

Mae hefyd yn cynnig 12 mlynedd o daliadau premiwm a chynnal a chadw (iawndal am golli incwm amaethyddol).

Mae Grantiau Bach – Creu Coetir yn gynllun ar gyfer ffermwyr a rheolwyr tir eraill i’w hannog i blannu ardaloedd bach o goed ar dir sydd wedi’i wella’n amaethyddol, neu sydd o werth amgylcheddol isel yng Nghymru.

Mae arian ar gael i blannu coed cysgodol, coed ar hyd ymyl cyrsiau dŵr, ac yng nghorneli caeau neu mewn caeau bach, i ddarparu cysgod ar gyfer da byw, bioamrywiaeth a thanwydd coed.  Mae Grantiau Bach – Creu Coetir hefyd yn cynnig 12 mlynedd o daliadau Premiwm a Chynnal a Chadw mewn perthynas â’r ardaloedd newydd a blannir.

Mae ffensio i gadw da byw a cheirw allan, a gatiau i ganiatáu mynediad i’r cyhoedd hefyd wedi’u cynnwys.