Llacio Cyfyngiadau BTV yn Ystod y Cyfnod Fector Isel Tymhorol

Ar hyn o bryd mae hi’n ‘gyfnod fector isel tymhorol’  ym Mhrydain o ran BTV3, ac mae hyn wedi arwain at newidiadau yn y mesurau rheoli sydd ar waith, ac at lacio cyfyngiadau rheoli BTV dros dro o fewn Parthau Rheoli Dros Dro (TCZ) Caint a Norfolk.

Y ‘cyfnod fector isel’ yw’r cyfnod pan fydd y gwybed sy’n trosglwyddo’r clefyd yn llai prysur oherwydd yr amodau tywydd presennol. 

Mae hyn yn golygu bod y feirws yn llai tebygol o lawer o gael ei drosglwyddo o wybed i dda byw.  Mae’r gwybed sy’n cario’r feirws ar eu prysuraf yn ystod misoedd yr haf, ond fel arfer maent yn marw’n ôl yn ystod y gaeaf.  Nid yw’r gwybed fel arfer yn cnoi ar dymheredd is na 4 gradd celcius.

Mae’r lleihad hwn yn y perygl o drosglwyddo wedi arwain at y penderfyniad i beidio â difa anifeiliaid lle mae’r canlyniadau’n dangos heintiad hŷn, a lle canfyddir bod gwrthgyrff BTV yn bresennol.  Fodd bynnag, mae’n bosib y bydd mesurau eraill, megis cyfyngu anifeiliaid sydd wedi’u heintio i’w lleoliad presennol, yn parhau.  Caniateir symud anifeiliaid sydd wedi cael prawf negyddol o Barthau Rheoli dan drwydded os bodlonir amodau arbennig.  Llaciwyd rhai cyfyngiadau ar symud anifeiliaid o fewn Parthau Rheoli hefyd.  Fodd bynnag, mi fydd angen ail-edrych ar y llacio dros dro ar gyfyngiadau pan fydd y gwybed yn dechrau prysuro eto, fel arfer yn ystod tywydd cynhesach Mawrth ac Ebrill.

O 4ydd Chwefror 2024, roedd yna 83 o achosion o BTV3 yn Lloegr, ar 44 eiddo.  Does dim tystiolaeth o hyd bod y clefyd yn lledaenu ar draws Prydain.

Gall symptomau BTV3 amrywio ymhlith anifeiliaid cnoi cil, gyda’r arwyddion clinigol mewn defaid yn tueddu i fod yn fwy amlwg yn gyffredinol nag mewn gwartheg.  Mewn defaid, mae’r arwyddion clinigol yn cynnwys briwiau yn y geg, llif trwchus a glafoerio o'r trwyn a'r geg, oedema (y geg, pen a’r gwddf wedi chwyddo) a marwolaeth sydyn.

Gyda gwartheg, mae adroddiadau’n awgrymu nad ydynt yn cael eu heintio mor ddifrifol.  Mae’r symptomau’n cynnwys  briwiau yn y geg, llif o’r trwyn, croen coch o amgylch y ffroenau, blinder, a chynhyrchu llai o laeth.

Gall lloi gael eu heintio â’r feirws Tafod Glas yn y groth os ydy’r fam wedi’u heintio tra mae hi’n gyflo.  Mae arwyddion o’r haint yn cynnwys lloi’n cael eu geni’n fach, yn wan, wedi’u hanffurfio neu’n ddall, yn marw o fewn ychydig ddyddiau o’u geni, neu’r fuwch yn erthylu.

Ar hyn o bryd does dim brechiad yn erbyn BTV3.  Mae’r strategaeth bresennol yn canolbwyntio ar roi gwybod yn gyflym a chadw golwg craff am y clefyd.  Ar gyfer straeniau eraill o’r Tafod Glas (1, 2, 4 ac 8) brechu yw’r ffordd fwyaf effeithiol o hyd o warchod buches neu ddiadell. Dylai aelodau hefyd drafod y risgiau o fewnforio stoc o wledydd sydd wedi’u heffeithio gan BTV gyda’u milfeddyg.  Yn ogystal, dylai ffermwyr gymryd gofal arbennig wrth fewnforio cynnyrch cenhedlol, a dylent wneud yn siŵr eu bod yn gwybod o ble mae’r anifeiliaid neu’r rhoddwyr yn tarfu, a’u bod yn bodloni’r holl ofynion o ran tystysgrifau iechyd allforio.  Dylid ystyried gofyn am brawf cyn allforio.

Mae BTV yn glefyd hysbysadwy.  Mae UAC yn parhau i annog ei haelodau i gadw golwg am arwyddion o’r haint ac i roi gwybod i APHA am unrhyw achosion posib.