Ffurflen Cais Sengl (SAF) 2024

Bydd y ffurflen SAF ar-lein ar gael ar Taliadau Gwledig Cymru (RPW Ar-lein) ar 4 Mawrth 2024.

Bydd y cais ar gyfer hawlio Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS), Cynllun Cynefin Cymru, Cymorth Organig, y Cynllun Troi’n Organig, a thaliadau premiwm a chynnal a chadw creu coetir.

I drosglwyddo hawliau ar gyfer BPS mae cyfleuster rhoi gwybod ar gael ar gyfer 2024, a rhaid i dderbynyddion hysbysu Llywodraeth Cymru erbyn 15 Mai 2024 er mwyn ymgeisio am hawliau maent yn eu derbyn fel rhan o flwyddyn 2024 y cynllun.

Eleni, os ydych chi’n rhentu tir, bydd gofyn ichi gadarnhau dyddiadau dechrau a gorffen rhentu’r tir sydd ar eich ffurflen.

Os oes angen help arnoch i lenwi’ch ffurflen SAF, cysylltwch â’ch swyddfa UAC sirol cyn gynted â phosib i wneud apwyntiad.

FFURFLEN CAIS SENGL – RHESTR WIRIO

Gweler isod restr o’r wybodaeth y bydd angen ichi ddod gyda chi i’ch apwyntiad, os yn berthnasol, i’n galluogi i’ch helpu i lenwi’ch ffurflen.

  • Eich cyfeiriad e-bost os oes gennych chi un a rhif ffôn symudol.
  • Copi o SAF 2023.
  • Dyddiadau rhentu ar gyfer pob tir rhent sydd wedi’i ddatgan ar eich SAF.
  • Manylion unrhyw dir newydd  sydd i’w ychwanegu at eich ffurflen, gan gynnwys rhifau caeau a map
  • Os ydy’r tir yn cael ei rentu bydd angen ichi ddarparu dyddiadau dechrau a gorffen rhentu a manylion cyswllt y perchennog tir, gan gynnwys CRN, os yn berthnasol. Hefyd, bydd angen copi o’r Denantiaeth Busnes Fferm neu lythyr gan berchennog y tir yn cadarnhau’r manylion rhentu, a’ch bod â rheolaeth o’r tir.
  • Os ydy’r tir wedi’i brynu bydd angen ichi ddarparu copi o ddogfennau’r Gofrestrfa Tir neu’r ddogfen TP1/TR1 a’r map cysylltiedig.
  • Manylion unrhyw dir a ildiwyd gan gynnwys rhifau’r caeau, y dyddiad y cafodd ei ildio a manylion cyswllt y perchennog tir.
  • Eich cytundeb Cynllun Cynefin Cymru.
  • Eich cytundeb llawn a mapiau’r cynllun os ydych chi’n rhan o gynllun coetir fferm  a meintiau unrhyw ardaloedd o dir rydych wedi plannu coed arnynt y tu allan i gynllun ffurfiol.
  • Rhif/rhifau eich cynllun sicrwydd fferm.
  • Cymorth Organig a’r Cynllun Troi’n Organig - Eich tystysgrif bresennol a’ch rhestr caeau gan eich corff ardystio organig.  Os ydych chi’n gynhyrchwr llaeth organig, bydd angen yr union ffigurau da byw canlynol:-
  • Buchod/heffrod llaeth dros 24 mis oed
  • Heffrod llaeth 6-24 mis oed
  • Geifr/defaid llaeth 6 mis oed neu drosodd
  • Geifr/defaid llaeth dan 6 mis oed
  • Manylion unrhyw hawliau rydych wedi’u masnachu, drwy werthu, prynu neu brydlesu.
  • Manylion unrhyw ymholiadau o du RPW mewn perthynas â’ch SAF 2023, gan gynnwys adroddiadau archwiliadau synhwyro o bell.
  • Brasamcan o gyfanswm y ffigurau stoc  ar gyfer y categorïau, gan gynnwys anifeiliaid tac sydd ar eich tir:-
  • Yr holl fuchod llaeth, teirw a heffrod amnewid 6 mis oed a throsodd ond o dan 24 mis oed.
  • Yr holl fuchod llaeth, teirw a heffrod amnewid 24 mis oed neu drosodd.
  • Yr holl fuchod cig eidion, teirw a heffrod amnewid 6 mis oed a throsodd ond o dan 24 mis oed.
  • Yr holl fuchod cig eidion, teirw a heffrod amnewid 24 mis oed neu drosodd.
  • Yr holl wartheg stôr/pesgi 6 mis oed a throsodd ond o dan 24 mis oed.
  • Yr holl wartheg stôr/pesgi 24 mis oed neu drosodd.
  • Yr holl ddefaid dros 6 mis oed.
  • Moch, geifr, dofednod, ceffylau ac unrhyw dda byw eraill.